Search Legislation

Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2CYFRIFO FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL

Y ffi rheolaethau swyddogol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

(a)y swm o—

(i)y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a

(ii)unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 8; a

(b)y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

(2Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod ariannol” yw cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n diweddu ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

3.  Ni fydd y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yn is na 45% o'r ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw.

RhywogaethMathCyfradd fesul math o anifail mewn Ewros
Bucholionanifeiliaid buchol 6 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy4.5
anifeiliaid buchol yn llai na 6 wythnos oed pan gigyddir hwy2.5
Equidae ac uncarnolion4.4
Moch gan gynnwys baeddod gwylltpwysau carcas llai na 25 kg0.5
pwysau carcas mwy na neu'n gytbwys â 25 kg1.3
Defaid, geifr ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil nas rhestrir yn rhywle arall yn y Tabl hwnpwysau carcas llai na 12 kg0.175
pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol0.35
pwysau carcas mwy na 18 kg0.5
Dofednod, cwningod, adar hela bach a helfilod daearpob brwyliad; holl ieir cast; dofednod eraill, cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso llai na 2 kg0.01
dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.02
dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear (sydd i gyd yn oedolion) ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg0.04
Estrysiaid ac adar di-gêl eraill1.3
Mamaliaid tir ac adar o fath nas crybwyllir uchod1.3

Y ffi safonol

4.  Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod.

5.  Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

6.  Cyfrifir y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela drwy luosi gan 3 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno.

7.  Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / punnoedd sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd yr arolygiad.

8.—(1Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

(2Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

(3Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

(4Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

(5At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

(a)oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;

(b)torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;

(c)camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan arolygydd;

(ch)tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(d)darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(dd)oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac

(e)unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.

(6At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

(7Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

(8Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

(9Ni ellir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

9.—(1Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 8 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

(2Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 8(3).

(3Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

(a)rhaid i'r Asiantaeth enwebu person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (4);

(b)rhaid i'r person a enwebir roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac

(c)rhaid i'r person a enwebir, o fewn mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

(4Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Costau amser

10.  Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12) drwy—

(a)lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir yn unol â pharagraffau 13 i 16;

(b)ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac

(c)ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.

11.  Rhaid i gostau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol gynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

12.  Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, rhaid cyfrifo unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

(a)yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;

(b)yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac

(c)yn unrhyw le arall—

(i)pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a

(ii)pan gaiff ei dalu o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,

fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.

13.  Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

14.  Rhaid cyfrifo tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu—

(a)cymedr y costau cyflog a'r ffioedd (gan gynnwys pensiwn a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymrwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 11) a chostau eraill arfer rheolaethau swyddogol gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd; a

(b)y gyfran honno o gostau gweinyddol arfer y rheolaethau swyddogol y mae'r Asiantaeth o'r farn ei bod yn briodol ei dosrannu i'r tâl hwnnw yr awr.

15.  At ddibenion paragraff 14(b), ystyr “costau gweinyddol” yw'r holl gostau a dynnir yn rhesymol wrth arfer rheolaethau swyddogol gan gynnwys yn benodol gostau—

(a)hyfforddiant ôl-gymhwyster a roddir i arolygwyr o ddosbarth penodol o ran cyflawni eu swyddogaethau fel aelod o'r dosbarth hwnnw;

(b)cyflogau staff (gan gynnwys cost goramser, cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) heblaw arolygwyr sydd wrthi'n arfer rheolaethau swyddogol, a'r gyfran honno o dâl yr arolygwyr nad oes cyfrif amdani yn uniongyrchol yng nghyfrifiad costau amser;

(c)darparu swyddfa, cyfarpar a gwasanaethau o ran arfer rheolaethau swyddogol, gan gynnwys dibrisiad unrhyw ddodrefn a chyfarpar swyddfa a hefyd darparu technoleg gwybodaeth, papur ysgrifennu a ffurflenni;

(ch)dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer rheolaethau swyddogol a glanhau'r dillad hynny;

(d)cyfrifyddu a chasglu ffioedd a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél yng nghyswllt cyflogaeth arolygwyr; a

(dd)treuliau a gorbenion eraill a dynnwyd gan neu o ran—

(i)arolygwyr sy'n arfer rheolaethau swyddogol, a

(ii)staff eraill sydd wrthi'n gweinyddu'r rheolaethau hynny.

16.  Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 13 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 14 a 15, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

17.  Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 13 i 16, rhaid i'r Asiantaeth ymghynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yr awr.

Diffiniadau

18.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu filfeddyg a gymeradwywyd fel y'i ddiffinir yn Erthygl 2.1(g) o Reoliad 854/2004;

(b)ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), o ran unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff 4, 5 neu 6, yn ôl y digwydd, a drosir i bunnoedd yn unol â pharagraff 7;

(c)ystyr “cyfradd drosi Ewro / punnoedd” (“the Euro / sterling conversion rate”) sy'n gymwys o ran unrhyw flwyddyn o dan sylw yw—

(i)am 2006, 1 Ewro = £0.68290, a

(ii)ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny; a

(ch)ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 10 i 12; a

(d)mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, heblaw'r rheini a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac unrhyw ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau milfeddygol a rheolaethau a gwmpesir gan Gyfarwyddebau 89/662/EEC, 90/425/EEC, 90/675/EEC a 91/496/EEC (fel y'u diwygiwyd a'u cydgrynhoi gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC(1)) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny a grybwyllir yn y Gyfarwyddeb a enwyd gyntaf uchod.

(1)

Mae testun Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC wedi cael ei atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1. Addaswyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gan Gyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33); mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources