Search Legislation

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “ardal Ynysoedd yr Alban” (“Scottish Islands area”) yw naill ai —

(a)

ynysoedd Erch ac eithrio ynys Stronsay; neu

(b)

ynysoedd Jura, Gigha, Arran, Bute, Great Cumbrae a Little Cumbrae, penrhyn Kintyre i'r de o Tarbert a'r darnau o dir o fewn Rhanbarth Argyll a Bute yn cynnwys y rhannau o blwyfi Dunoon a Kilmun ac Inverchaolain a ddangosir gan linell goch ar fap wedi'i farcio “Y map y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) y diffiniad o ardal Ynysoedd yr Alban yn rheoliad 2(1) Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005”, dyddiedig 31 Ionawr 2005, a lofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol ac a adneuwyd yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “ardoll” (“levy”) yw'r ardoll sy'n daladwy o dan ddeddfwriaeth y Gymuned a'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol;

mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

mae i “awdurdod cymwys perthnasol” (“relevant competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “blwyddyn gwota” (“quota year”) yw unrhyw un o'r cyfnodau o 12 mis y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(1) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyflwyno'r ardoll);

mae “buddiant” (“interest”) yn cynnwys trwydded i feddiannu tir a buddiant morgeisedig ac ymddiriedolwr, ond nid yw'n cynnwys buddiant buddiolwr o dan ymddiriedolaeth neu setliad;

mae “buwch” (“cow”) yn cynnwys heffer sydd wedi bwrw llo;

ystyr “cwota” (“quota”) yw cwota gwerthiannau uniongyrchol neu gwota cyfanwerthol, yn ôl y digwydd;

ystyr “cwota addasedig” (“converted quota”) yw cwota a addaswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn cais a wnaed o dan reoliad 21;

ystyr “cwota cyfanwerthol” (“wholesale quota”) yw cyfanswm y llaeth y gellir ei ddanfon i brynwr gan gynhyrchwr mewn blwyddyn gwota heb i'r cynhyrchwr hwnnw fod yn agored i dalu ardoll;

ystyr “cwota cyfanwerthol cofrestredig” (“registered wholesale quota”) yw cwota cyfanwerthol a gofrestrwyd yn unol â rheoliad 4(3) a (4);

ystyr “cwota nas defnyddiwyd” (“unused quota”) yw cwota sy'n weddill heb ei ddefnyddio ar ôl ystyried unrhyw werthiannau uniongyrchol neu ddanfoniadau, yn dilyn y cyfryw addasu (os o gwbl) ag sy'n ofynnol yn Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chynnwys braster llaeth), a dehonglir “cwota a ddefnyddiwyd” yn unol â hynny;

ystyr “cwota gwerthiannau uniongyrchol” (“direct sales quota”) yw cyfanswm y cynnyrch llaeth y gellir ei werthu neu ei drosglwyddo am ddim drwy werthiannau uniongyrchol gan gynhyrchwr mewn blwyddyn gwota heb i'r cynhyrchwr fod yn agored i dalu ardoll;

ystyr “cwota prynwr” (“purchaser quota”) yw cyfanswm y llaeth y gellir ei ddanfon i brynwr yn ystod blwyddyn gwota heb arwain at unrhyw atebolrwydd i dalu ardoll;

ystyr “cynnyrch llaeth” (“dairy produce”) yw cynnyrch, a fynegir mewn cilogramau neu litrau (mae un cilogram yn cyfateb i 0.971 litr), y mae ardoll yn daladwy mewn perthynas ag ef;

ystyr “deddfwriaeth y Gymuned” (“the Community Legislation”) yw Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn, a Rheoliad y Comisiwn 1756/93;

ystyr “cynhyrchwr cyfanwerthol” (“wholesale producer”) yw cynhyrchwr sy'n danfon llaeth i brynwr;

mae “deiliad” (“occupier”), mewn perthynas â thir yn cynnwys y person sydd â'r hawl i roi deiliadaeth y tir hwnnw i berson arall, a, thra pery'r buddiant a grybwyllir yn rheoliad 16(1), y person sydd â'r hawl i roi deiliadaeth y tir pan ddaw'r buddiant hwnnw i ben, a dehonglir “deiliadaeth” yn unol â hynny;

ystyr “deiliad cwota” (“quota holder”), mewn perthynas â chwota, yw'r person y mae'r cwota wedi'i gofrestru yn ei (h)enw;

ystyr “deiliad cwota cyfanwerthol” (“wholesale quota holder”) yw person y mae cwota cyfanwerthol wedi'i gofrestru yn ei (h)enw yn unol â rheoliad 4; ac

ystyr “deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol” (“direct sales quota holder”) yw person y mae cwota gwerthiannau uniongyrchol wedi'i gofrestru yn ei (h)enw yn unol â rheoliad 4;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵ yl banc o dan Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(1).

ystyr “dosraniad rhagolygol” (“prospective apportionment”), o ran cwota mewn perthynas â daliad, yw dosraniad cwota rhwng y personau y mae ganddynt fuddiant yn y daliad at ddibenion canfod y cwota y gellir ei briodoli i ran o'r daliad hwnnw os caiff y rhan honno ei throsglwyddo;

mae i “ddaliad” (“holding”) yr un ystyr ag yn Erthygl 5(d) Rheoliad y Cyngor;

mae i “ddanfon” (“delivery”) yr un ystyr ag yn Erthygl 5(f) Rheoliad y Cyngor, a dehonglir “danfon” yn unol â hynny;

mae i “gronfa genedlaethol” (“national reserve”) yr ystyr a roddir iddi yn rheoliad 2 y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “gwerthwr uniongyrchol” (“direct seller”) yw cynhyrchwr sy'n cynhyrchu llaeth ac sy'n trin neu sy'n prosesu'r llaeth hwnnw i gynhyrchu cynnyrch llaeth ar ei ddaliad ac sy'n gwerthu neu'n trosglwyddo'r llaeth hwnnw neu'r cynhyrchion llaeth hynny am ddim ar ôl hynny heb iddynt gael eu trin neu eu prosesu ymhellach gan fenter wahanol sy'n trin neu sy'n prosesu llaeth neu gynhyrchion llaeth;

mae i “gyfathrebu electronig” (“electronic communication”) yr un ystyr ag yn adran 15 Deddf Cyfathrebu Electronig 2000(2);

mae i “gynhyrchwr” (“producer”) yr un ystyr ag yn Erthygl 5(c) Rheoliad y Cyngor;

ystyr “hysbysiad cydsyniad neu hysbysiad unig fuddiant” (“consent or sole interest notice”) yw hysbysiad, mewn perthnas â daliad, sy'n datgan —

(a)

mai'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad yw unig ddeiliad y daliad hwnnw ac nad oes gan unrhyw berson arall fuddiant yn y daliad hwnnw neu ran o'r daliad hwnnw; neu

(b)

bod pob person sydd â buddiant yn y daliad hwnnw neu unrhyw ran ohono, y gallai gwerth y buddiant hwnnw gael ei leihau drwy'r dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef, yn cytuno â'r dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol hwnnw;

mae i “laeth” (“milk”) yr un ystyr ag yn Erthygl 5(a) Rheoliad y Cyngor;

ystyr “menter laeth” (“dairy enterprise”) yw ardal y mae deiliad yr ardal honno wedi datgan ei bod yn cael ei rhedeg fel busnes cynnnyrch llaeth hunangynhwysol;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw cynhyrchwr, prynwr, unrhyw un o gyflogeion neu asiantiaid cynhyrchwr neu brynwyr, unrhyw gludwr llaeth, unrhyw berson yn gwneud gwaith profi braster menyn ar gyfer prynwyr mewn labordy, prosesydd llaeth neu gynhyrchion llaeth, neu unrhyw berson arall sydd ynghlwm wrth brynu, gwerthu neu gyflenwi llaeth neu gynhyrchion llaeth a gafwyd yn uniongyrchol oddi wrth gynhyrchwr neu brynwr, ond nid yw'n cynnwys defnyddiwr llaeth neu gynhyrchion llaeth;

ystyr “prynwr” (“purchaser”) yw prynwr o fewn ystyr Erthygl 5(e) Rheoliad y Cyngor, ac eithrio yn rheoliad 5(1) i (4) a rheoliad 31(7), a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 5 ac Erthygl 23 Rheoliad y Comisiwn;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth(3);

ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1756/93” (“Commission Regulation 1756/93”) yw Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1756/93 sy'n pennu'r digwyddiadau gweithredol ar gyfer y gyfradd addasu amaethyddol sy'n gymwys i laeth a chynhyrchion llaeth(4);

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth(5);

ystyr “trosglwyddai” (“transferee”) yw —

(a)

lle trosglwyddir cwota gyda daliad neu ran o ddaliad, person sy'n cymryd lle rhywun arall fel deiliad y daliad hwnnw neu ran o ddaliad; ac

(b)

mewn unrhyw achos arall, y person y trosglwyddir y cwota iddo/iddi;

ystyr “trosglwyddwr” (“transferor”) yw

(a)

lle trosglwyddir cwota gyda daliad neu ran o ddaliad, person y cymerir ei le gan rywun arall fel deiliad y daliad hwnnw neu ran o ddaliad; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y person y trosglwyddir cwota oddi wrtho/wrthi;

mae i “werthiant uniongyrchol” (“direct sale”) yr un ystyr ag yn Erthygl 5(g) Rheoliad y Cyngor;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the general provisions regulations”) yw Rheoliadau Cwotâu Cynnnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002(6);

(2Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw beth a wneir neu a gynhyrchir yn ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebu electronig a gofnodwyd ac y gellir ei hatgynhyrchu ar ôl hynny.

(3Bydd i ymadroddion eraill a ddefnyddir—

(a)yn y Rheoliadau hyn; a

(b)yn neddfwriaeth y Gymuned,

yr un ystyr ag yn neddfwriaeth y Gymuned a dehonglir ymadroddion cytras yn unol â hynny.

Cymhwyso

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau perthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol iddynt.

RHAN 2COFRESTRU CWOTA

Cofrestrau a hysbysiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol eu cadw a'u paratoi

4.—(1mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)cadw cofrestr o werthiannau uniongyrchol; a

(b)anfon at bob gwerthwr uniongyrchol gopi o'r cofnod yn y gofrestr o werthiannau uniongyrchol yn ymwneud ag ef neu â hi.

(2mae'n rhaid i'r gofrestr o werthiannau uniongyrchol gynnwys cofnod o ran pob gwerthwr uniongyrchol yn nodi yn arbennig —

(a)ei (h)enw;

(b)ei gyfeiriad/chyfeiriad masnachu;

(c)cyfeirnod sy'n fodd i'w (h)adnabod;

(ch)y cwota gwerthiannau uniongyrchol sydd ar gael iddo neu iddi ar gyfer y flwyddyn gwota; a

(d)manylion ei (g)werthiannau uniongyrchol.

(3mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cadw cofrestr gyfanwerthol;

(b)anfon at bob cynhyrchwr cyfanwerthol gopi o'r cofnod yn y gofrestr gyfanwerthol yn ymwneud ag ef neu â hi; ac

(c)anfon at bob prynwr a enwir yn y gofrestr y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(d) gopi o'r rhan honno o'r cofnod yn ymwneud â'i gwota/chwota prynwr.

(4mae'n rhaid i'r gofrestr gyfanwerthol gynnwys cofnod o ran pob cynhyrchwr cyfanwerthol yn nodi yn arbennig —

(a)ei (h)enw;

(b)ei gyfeiriad/chyfeiriad masnachu;

(c)cyfeirnod sy'n fodd i'w (h)adnabod;

(ch)y cwota cyfanwerthol sydd ar gael iddo neu iddi ar gyfer y flwyddyn gwota; ac

(d)rhestr yn nodi enw a chyfeiriad pob prynwr y caiff ei gwota/chwota ei gyfrifo i ystyried cyfanswm cwota cyfanwerthol y cynhyrchwr cyfanwerthol hwnnw neu ran ohono, a'r cwota cyfanwerthol sydd wedi'i gofrestru gyda phob prynwr, gan ddangos sylfaen cynnwys braster gynrychioliadol y cwota hwnnw wedi'i chyfrifo yn unol ag Erthygl 7 Rheoliad y Comisiwn.

(5mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)cadw cofrestr o brynwyr; a

(b)anfon at bob prynwr gopi o gofnod y prynwr sy'n ymwneud ag ef neu â hi.

(6mae'n rhaid i'r gofrestr o brynwyr gynnwys cofnod o ran pob prynwr yn nodi yn arbennig —

(a)ei (h)enw; a

(b)ei gwota/chwota fel prynwr.

(7At ddibenion paragraffau (1) i (4), lle mae daliad deiliad cwota yn cynnwys mwy nag un fenter laeth, caiff deiliad y cwota hwnnw, ar ôl cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant ynghylch y daliad hwnnw, gytuno â'r Cynulliad Cenedlaethol i rannu'r cwota sydd ar gael i ddeiliad y cwota hwnnw yn ymwneud â'r daliad hwnnw rhwng cofnodion ar wahân yn y gofrestr o werthiannau uniongyrchol neu gofnodion ar wahân yn y gofrestr gyfanwerthol, yn ôl y digwydd.

(8) (aCaiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y cyfryw ymholiadau ag y cred yn rhesymol eu bod yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y cofrestrau y mae'n ofynnol iddo eu cadw o dan y rheoliad hwn yn gywir;

(b)mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r cofrestrau —

(i)i gofnodi unrhyw ddyraniad neu addasiad a wneir o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu

(ii)gwneud unrhyw gywiriad neu ddiwygiad y cred yn rhesymol ei fod yn ofynnol;

(c)mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu unrhyw berson yr effeithir arno neu arni gan unrhyw gywiriad neu ddiwygiad a wneir ganddo.

(9Er nad yw person yn gynhyrchwr mwyach, mae'n rhaid iddo neu iddi—

(a)parhau i fod wedi'i gofrestru/chofrestru yn unol â'r rheoliad hwn;

(b)at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau, 6, 7(a) a 33(1), barhau i gael ei (h)ystyried yn gynhyrchwr,

tan ddechrau'r flwyddyn gwota yn dilyn y flwyddyn y trosglwyddwyd y cwota a oedd ar gael iddo neu iddi neu nes bod y cwota wedi'i dynnu yn ôl o dan Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor.

(10mae'r rhwymedigaeth o dan baragraffau (1)(b), (3)(b) ac (c) a (5)(b) yn rhwymedigaeth i anfon copi o —

(a)cofnod; neu

(b)rhan o gofnod,

yn ôl y digwydd, fel y daw i rym ar 1 Ebrill ym mhob blwyddyn.

Cymeradwyo prynwyr

5.—(1At ddibenion Erthygl 23 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chymeradwyo prynwyr), mae'n rhaid i brynwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

(2mae'n rhaid i gais o dan baragraff (1) nodi cyfeiriad masnachu'r prynwr, neu, os bydd mwy nag un o'r cyfryw gyfeiriadau, bob cyfryw gyfeiriad a'i brif neu ei phrif gyfeiriad masnachu.

(3At ddibenion Erthygl 23(2) Rheoliad y Comisiwn (sy'n caniatáu i Aelod-wladwriaethau bennu rheolau llymach ar gymeradwyo prynwyr), dim ond os bydd prynwr wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (4) y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo/chymeradwyo.

(4Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw bod y prynwr —

(a)wedi ymrwymo i'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn a deddfwriaeth y Gymuned;

(b)nad yw wedi torri mewn ffordd hanfodol ddarpariaethau unrhyw gynllun ar gyfer cymorth yn y sector amaethyddol yn deillio o ddeddfwriaeth; ac

(c)naill ai —

(i)drwy gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw gyfryw wybodaeth ag y gall fod arno ei hangen yn rhesymol, ei fod wedi dangos i foddhad rhesymol y Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo neu ganddi sail ariannol gadarn i weithredu arni, neu

(ii)os cred y Cynulliad Cenedlaethol na fu'r prynwr yn masnachu yn ddigon hir er mwyn dangos hynny, ei fod wedi darparu'r cyfryw sicrwydd ag y gall fod ar y Cynulliad Cenedlaethol ei hangen yn rhesymol.

(5mae'n rhaid i bob prynwr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o —

(a)unrhyw newid yn ei gyfeiriad/chyfeiriad masnachu, neu, lle mae mwy nag un o'r cyfryw gyfeiriadau, unrhyw gyfeiriad masnachu ychwanegol ac unrhyw newid yn ei brif/phrif gyfeiriad masnachu; a

(b)unrhyw ffactor neu newid mewn amgylchiadau y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ystyried ei fod yn effeithio'n sylweddol ar unrhyw fater a oedd yn berthnasol at ddibenion ystyried ei gais/chais am gymeradwyaeth ganddo, neu sy'n effeithio ar ei (g)allu i gydymffurfio â'r ymrwymiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(a).

(6mae'n rhaid i bob prynwr —

(a)cadarnhau i bob cynhyrchwr sy'n ei gyflenwi/chyflenwi ei fod/bod wedi'i gymeradwyo/chymeradwyo yn unol â'r rheoliad hwn a rhoi manylion y gymeradwyaeth os gofynnir iddo/iddi wneud hynny; a

(b)hysbysu pob cynhyrchwr sy'n ei gyflenwi/chyflenwi os tynnir y gymeradwyaeth yn ôl.

Rhwymedigaethau cynhyrchwyr a phrynwyr o ran cofrestru a danfoniadau

6.—(1mae'n rhaid i bob —

(a)gwerthwr uniongyrchol; a

(b)cynhyrchwr cyfanwerthol,

gofrestru ei gwota/chwota gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2mae'n rhaid i bob prynwr gadw, o ran yr holl gynhyrchwyr cyfanwerthol y mae eu cofnodion cofrestr yn cynnwys enw'r prynwr hwnnw ar y rhestr y cyfeirir ati yn rheoliad 4(4)(d) —

(a)cofrestr yn cyfateb i'r un a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 4(3) mewn perthynas â'r rhan honno o'i gwota/chwota fel prynwr sy'n briodoladwy i bob un o'r cynhyrchwyr hynny;

(b)cofrestr yn cynnwys manylion danfoniadau gan bob un o'r cynhyrchwyr hynny i'r prynwr hwnnw; ac

(c)y wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraffau 2 i 4 Erthygl 24 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r cofnodion sydd eu hangen mewn cysylltiad ag asesu ardoll)

(3mae'n rhaid i bob person sy'n dal cwota cyfanwerthol cofrestredig, gan gynnwys unrhyw gynhyrchwr sydd wedi rhoi'r gorau i wneud danfoniadau dros dro neu sy'n bwriadu gwneud hynny, gofrestru ei gwota/chwota gyda phrynwr.

(4Dim ond i brynwr y gall cynhyrchwr cyfanwerthol gyflenwi llaeth.

(5mae'n rhaid i bob prynwr gynnal system a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer —

(a)samplu llaeth pob cynhyrchwr cyfanwerthol y mae ei gofnodion/chofnodion cofrestr yn cynnwys enw'r prynwr ar y rhestr y cyfeirir ati yn rheoliad 4(4)(d); a

(b)canfod faint o fraster y mae'r llaeth yn ei gynnwys.

(6mae'n rhaid i bob prynwr ddiwygio'r gofrestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) bob tro y'i hysbysir gan y Cynulliad Cenedlaethol fod y gofrestr gyfatebol a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i diwygio o ran cynhyrchwyr cyfanwerthol sydd wedi'u cofrestru yng nghofrestr y prynwr hwnnw.

Archwilio cofnodion yng nghofrestrau'r Cynulliad Cenedlaethol

7.  Os gwneir cais —

(a)mewn perthynas â chofnod cofrestr y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2) neu (4) gan unrhyw berson—

(i)sy'n ddeiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw, neu

(ii)sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad yn ysgrifenedig fod ganddo neu ganddi fuddiant yn naliad deiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw, neu

(iii)sy'n gweithredu fel asiant person y cyfeirir ato neu ati yn is-baragraff (i) neu (ii); neu

(b)gan brynwr mewn perthynas â chofnod yn y gofrestr y cyfeirir ati yn rheoliad 4(6) yn ymwneud ag ef neu â hi,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol, pan delir tâl rhesymol, ddarparu i'r person sy'n gwneud y cais gopi o'r cofnod cofrestr.

Cofrestrau fel tystiolaeth

8.  Mewn unrhyw weithrediadau, mae unrhyw gofnod mewn cofrestr y mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei chadw yn dystiolaeth o'r materion a nodir ynddo.

RHAN 3TROSGLWYDDO CWOTA

Trosglwyddo cwota wrth drosglwyddo tir: cyffredinol

9.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 ac 16, mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â throsglwyddo cwota gyda daliad pan gaiff y daliad ei werthu, ei brydlesu, ei drosglwyddo drwy etifeddiaeth neu pan fydd yn destun achosion trosglwyddo eraill yn golygu effeithiau cyfreithiol cymaradwy i gynhyrchwyr) o ran trosglwyddo daliad neu ran o ddaliad.

(2mae'n rhaid i drosglwyddai'r daliad neu'r rhan o'r daliad gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)hysbysiad trosglwyddo yn y cyfryw ffurf; a

(b)y cyfryw wybodaeth arall yn ymwneud â'r trosglwyddiad,

ag y gall fod ar y Cynulliad Cenedlaethol eu mynnu yn rhesymol.

(3mae'n rhaid i'r hysbysiad trosglwyddo gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)pan drosglwyddir daliad neu ran ohono drwy brydles, heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y'i trosglwyddir; a

(b)pan drosglwyddir daliad neu ran ohono ac eithrio drwy brydles, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y'i trosglwyddir.

(4mae'n rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(b) gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn y cyfryw amser ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu.

(5mae'n rhaid i'r hysbysiad trosglwyddo gynnwys —

(a)datganiadau gan y trosglwyddwr a'r trosglwyddai yn nodi meintiau'r cwota a ddefnyddiwyd ac nas defnyddiwyd a drosglwyddir;

(b)pan drosglwyddir rhan o ddaliad —

(i)datganiadau gan y trosglwyddwr a'r trosglwyddai i'r perwyl eu bod wedi cytuno y caiff y cwota ei ddosrannu gan ystyried y mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth fel y'u nodir yn yr hysbysiad trosglwyddo neu na chytunwyd ar unrhyw gyfryw ddosraniad, a

(ii)lle cytunwyd ar y cyfryw ddosraniad, hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant, a ddarperir gan y trosglwyddwr mewn perthynas â'r daliad; ac

(c)pan drosglwyddir daliad cyfan, hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant, a ddarperir gan y trosglwyddwr mewn perthynas â'r daliad.

Trosglwyddo rhan o ddaliad

10.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 ac 16, mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle trosglwyddir rhan o ddaliad.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 11(4) a (5) a 12, lle cyflwynwyd hysbysiad trosglwyddo yn briodol yn unol â rheoliad 9, mae'n rhaid dosrannu'r cwota yn ymwneud â'r daliad —

(a)yn unol â'r dosraniad y cytunwyd arno ac a nodir yn yr hysbysiad hwnnw; neu

(b)os na fydd unrhyw gyfryw gytundeb, mae'n rhaid penderfynu ar y dosraniad drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliadau 11(4) a (5) a 12, mae unrhyw gynnyrch llaeth a gafodd—

(a)eu gwerthu'n uniongyrchol; neu

(b)eu danfon

o'r daliad yn ystod y flwyddyn gwota pryd y mae deiliadaeth y daliad yn newid a chyn trosglwyddo'r rhan o'r daliad yn cael eu trin at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll fel pe baent wedi'u gwerthu, eu trosglwyddo am ddim neu eu danfon, yn ôl y digwydd, o bob rhan o'r daliad yn gymesur â'r dosraniad o dan baragraff (2)

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys os bydd y partïon yn cytuno fel arall ac yn cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad o'r cytundeb hwnnw.

(5mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) —

(a)yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu; a

(b)wrth gyflwyno'r hysbysiad trosglwyddo yn unol â rheoliad 9.

Dosrannu cwota yn rhagolygol

11.—(1Lle mae angen dosraniad cwota rhagolygol ar ddeiliad y daliad yn ymwneud â'r daliad hwnnw, mae'n rhaid iddo neu iddi wneud cais am y cyfryw ddosraniad i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu, gan ofyn —

(a)am i gwota gael ei ddosrannu yn rhagolygol yn ymwneud â'r daliad gan ystyried mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth fel y nodir yn y cais; neu

(b)am i gwota gael ei ddosrannu'n rhagolygol drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.

(2Gellir tynnu cais am ddosraniad rhagolygol yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan y person a wnaeth y cais.

(3Os bydd deiliad daliad —

(a)yn gofyn am i gwota gael ei ddosrannu'n rhagolygol yn unol â pharagraff (1)(a); neu

(b)yn rhoi gwybod bod y cyfryw gais yn cael ei dynnu yn ôl yn unol â pharagraff (2),

mae'n rhaid anfon hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant gyda'r cais neu'r hysbysiad mewn perthynas â'r daliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), lle mae deiliadaeth rhan o ddaliad yn newid ac o fewn y cyfnod o chwe mis yn dod i ben ar ddyddiad y newid hwnnw mewn deiliadaeth —

(a)mae deiliad y daliad —

(i)wedi gofyn am i gwota gael ei dosrannu'n rhagolygol mewn perthynas â'r rhan honno o'r daliad, a

(ii)wedi cyflwyno'n briodol hysbysiad trosglwyddo yn unol â rheoliad 9, yn nodi bod dosraniad cwota wedi'i gytuno; neu

(b)y penderfynwyd ar ddosraniad cwota rhagolygol yn ymwneud â'r rhan honno o'r daliad neu mae ar ganol cael ei benderfynu drwy gymrodeddu o dan Atodlen 1,

mae paragraff (5) yn gymwys.

(5mae'n rhaid dosrannu cwota yn unol ag —

(a)y dosraniad cwota rhagolygol yn ymwneud â'r rhan honno o'r daliad hwnnw a wnaed neu a benderfynwyd yn dilyn cais o dan baragraff (1) oni thynnwyd y cais am y dosraniad rhagolygol hwnnw yn ôl cyn y newid mewn deiliadaeth y mae'n ymwneud ag ef; neu

(b)os na chafodd unrhyw gyfryw ddosraniad rhagolygol ei wneud na'i benderfynu, ond bod un yn cael ei wneud neu'i benderfynu, y dosraniad cwota rhagolygol yn ymwneud â'r rhan honno o'r daliad hwnnw sydd ar ganol cael ei wneud neu ei benderfynu o dan baragraff (1); neu

(c)mewn unrhyw achos arall, rheoliad 10(2).

(6Nid yw paragraff (4) yn gymwys i newid mewn deiliadaeth y mae rheoliad 16(1) yn gymwys iddo.

Achosion lle mae'n ofynnol dosrannu cwota drwy gymrodeddu

12.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)lle trosglwyddir rhan o ddaliad; a

(b)lle mae gan y Cynulliad Cenedlaethol sail resymol dros gredu —

(i)nad yw'r mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth ar y daliad fel y'u nodir mewn hysbysiad a gyflwynwyd yn briodol yn unol â rheoliad 9 neu gais a gyflwynwyd yn briodol yn unol â rheoliad 11(1)(a), neu

(ii)mewn achos lle na chyflwynwyd unrhyw gyfryw hysbysiad nac unrhyw gyfryw gais yn briodol, nad ystyriwyd y mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth ar y daliad yn llawn gan y partïon pan ddosrannwyd y cwota.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad bod ganddo sail resymol dros gredu'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) —

(a)i'r person a gyflwynodd yr hysbysiad neu'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)(i); neu,

(b)pan na chyflwynwyd y naill na'r llall, i ddeiliad cwota'r daliad dan sylw.

(3Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2), penderfynir ar y dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol o'r cwota drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.

Trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir

13.—(1mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 16(2) a (3).

(2mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle mae'r awdurdodau cymwys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu ar y cyd, yn unol â pharagraffau (1)(e) a (2) Erthygl 18 Rheoliad y Cyngor, bod trosglwyddo cwota heb drosglwyddo'r tir cyfatebol o fewn pob un o ranbarthau cwota'r Deyrnas Unedig wedi'i awdurdodi.

(3mae'n rhaid i drosglwyddai cwota y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol iddo/iddi gyflwyno iddo hysbysiad o unrhyw gyfryw drosglwyddiad o fewn y rhanbarth cwota cyffredinol yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

(4mae'n rhaid i'r hysbysiad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir y cwota ac mae'n rhaid iddo gynnwys —

(a)datganiadau gan y trosglwyddwr a'r trosglwyddai iddynt gytuno i drosglwyddo cwota, yn nodi meintiau'r cwota a ddefnyddiwyd ac nas defnyddiwyd a drosglwyddir;

(b)hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant a roddir gan y trosglwyddwr o ran y daliad y bwriedir trosglwyddo'r cwota oddi wrtho; a

(c)datganiad gan y trosglwyddai yn nodi ei fod/bod yn gynhyrchwr.

(5Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei hysbysu yn unol â pharagraff (3), gall fynnu bod y trosglwyddwr neu'r trosglwyddai yn cyflwyno'r cyfryw wybodaeth arall yn ymwneud â'r trosglwyddiad, ac o fewn y cyfryw amser, ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu.

(6Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “rhanbarth cwota cyffredinol” yw'r Deyrnas Unedig ac eithrio ardaloedd Ynysoedd yr Alban; a

(b)ystyr “rhanbarth cwota'r Deyrnas Unedig” yw un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban neu'r rhanbarth cwota cyffredinol.

Cadw cwota ar ddiwedd tenantiaeth

14.—(1mae'r rheoliad hwn yn effeithiol o ran tenantiaethau yn dod i ben ar ôl 31 Mawrth 2005.

(2Lle —

(a)mae gan denant unrhyw dir mewn daliad gwota sydd wedi'i gofrestru fel cwota sydd ar gael iddo neu iddi;

(b)mae'r cwota wedi'i gofrestru felly ar sail trosglwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 13 na thalwyd am ei gost gan landlord y tenant;

(c)daw tenantiaeth y tir dan sylw i ben heb unrhyw bosibilrwydd y caiff ei hadnewyddu ar delerau tebyg;

(ch)na chytunodd y tenant a'i landlord, ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben, na ddylai'r cwota fod ar gael mwyach i'r tenant; ac

(d)mae'r tenant yn parhau i fod yn gynhyrchwr ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben o ran —

(i)daliad arall, neu

(ii)rhan arall o'r daliad yr oedd y tir yn rhan ohono,

caiff y tenant gyflwyno hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol yn nodi y bydd y cwota ar gael iddo neu iddi yn rhinwedd ei (d)deiliadaeth o'r daliad arall hwnnw neu'r rhan arall honno o'r daliad yr oedd y tir yn rhan ohono.

(3mae'n rhaid i hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) —

(a)fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu;

(b)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y daw'r denantiaeth i ben; ac

(c)cynnwys datganiad gan y tenant —

(i)na chytunodd ef neu hi a'i landlord, ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben, y dylid cofrestru'r cwota o ran y daliad sydd bryd hynny yn cynnwys y tir neu, yn ôl y digwydd, y mae'r tir yn rhan ohono, gan nodi meintiau'r cwota a ddefnyddiwyd ac nas defnyddiwyd dan sylw, a

(ii)ei fod/bod yn parhau i fod yn gynhyrchwr.

(4Lle mae tenant yn cyflwyno hysbysiad yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd ganddo neu ganddi'r hawl i gael iawndal o dan baragraff Atodlen 1 Deddf Amaethyddiaeth 1986(7) pan ddaw'r denantiaeth dan sylw i ben.

Trosglwyddo cwota dros dro

15.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), at ddibenion Erthygl 16 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â throsglwyddo cwota dros dro), caiff cynhyrchwr gytuno â chynhyrchwr arall i drosglwyddo dros dro i'r cynhyrchwr arall hwnnw unrhyw gwota nas defnyddiwyd sydd wedi'i gofrestru o dan reoliad 4 fel cwota a ddelir yn barhaol gan y cynhyrchwr os bydd cwota arall (p'un a yw heb ei ddefnyddio ai peidio) yn parhau i fod wedi'i gofrestru felly.

(2Dim ond yn unol â pharagraff (1) am y cyfryw gyfnod ag a ddaw i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota y gellir trosglwyddo cwota dros dro.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i dâl rhesymol gael ei thalu am gofrestru unrhyw drosglwyddiad cwota dros dro os cyhoeddodd, cyn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota, ei fod yn bwriadu codi'r cyfryw dâl mewn perthynas â'r cyfryw drosglwyddiadau yn y flwyddyn honno yn y cyfryw fodd ag y cred ei fod yn debygol o ddod i sylw cynhyrchwyr.

(4Lle mae cytundeb i drosglwyddo cwota dros dro yn unol â pharagraff (1), mae'n rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad o'r cytundeb, ynghyd ag unrhyw dâl sy'n daladwy o dan baragraff (3), fel y bydd yr hysbysiad ac unrhyw dâl yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota.

(5mae'n rhaid i unrhyw hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

Cyfyngiadau ar drosglwyddo cwota

16.—(1Ni chaiff neb drosglwyddo cwota pan roddir neu pan ddiddymir —

(a)trwydded i feddiannu tir; neu

(b)tenantiaeth unrhyw dir y delir daliad, neu ran o ddaliad, am gyfnod o lai na deg mis o dani.

(2Ni chaiff neb drosglwyddo cwota pe bai'r trosglwyddiad yn arwain at gynyddu neu leihau cyfanswm y cwota gwerthiannau cyfanwerthol neu gyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol sydd ar gael i'w defnyddio gan fentrau llaeth a leolir o fewn ardal Ynysoedd yr Alban.

(3Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer —

(a)danfoniadau, ar ôl addasiad ar gyfer cynnwys braster; a

(b)gwerthiannau uniongyrchol,

a wnaed ganddo neu ganddi cyn dyddiad y trosglwyddiad.

Canlyniadau methu â chyflwyno hysbysiad trosglwyddo yn briodol

17.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys os na chyflwynir hysbysiad trosglwyddo yn briodol yn unol â rheoliad 9 neu 13.

(2Ni ddylid trin unrhyw gwota nas defnyddiwyd ac a drosglwyddir fel rhan o'r cwota y mae gan y trosglwyddai hawl iddo ar gyfer y flwyddyn gwota berthnasol, ond rhaid ei drin fel pe bai'n dal i fod yn gwota nas defnyddiwyd ac ar gael lle y bo hynny'n briodol i'w ailddyrannu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y flwyddyn gwota honno yn unol â rheoliad 27 neu 30.

(3Dim ond o ddechrau'r flwyddyn gwota y derbynnir yr hysbysiad trosglwyddo y mae'r trosglwyddiad cwota yn effeithiol.

(4Ni fydd y cwota, os o gwbl, a ail-ddyrannwyd i'r trosglwyddai o dan reoliadau 27 neu 30 ar gyfer y flwyddyn gwota berthnasol (neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny) yn cael ei amrywio i ystyried y trosglwyddiad tan y flwyddyn gwota y derbynnir yr hysbysiad trosglwyddo.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “blwyddyn gwota berthnasol” yw —

(a)yn achos hysbysiad y dylid bod wedi'i gyflwyno yn unol â rheoliad 9, y flwyddyn gwota y daw trosglwyddo'r daliad neu'r rhan o'r daliad i rym; a

(b)yn achos hysbysiad y dylid bod wedi'i gyflwyno yn unol â rheoliad 13, y flwyddyn gwota y daw trosglwyddo'r cwota i rym.

RHAN 4DYRANNU AC ADDASU CWOTA

Dyrannu cwota o'r gronfa genedlaethol

18.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu cwota o'r gronfa genedlaethol yn unol â deddfwriaeth y Gymuned.

Ailddyrannu cwota dros dro

19.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle mae gan gynhyrchwr gwota sydd wedi'i gofrestru fel ei gwota/chwota mewn perthynas â daliad sydd —

(a)unrhyw bryd yn ystod blwyddyn gwota yn gyfan neu'n rhannol yn destun hysbysiad a gyflwynwyd, neu ddatganiad a wnaed, o dan orchymyn a wnaed yn unol ag adran 17(1) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(8) yn gwahardd neu'n rheoleiddio symud gwartheg godro; neu

(b)wedi'i leoli yn gyfan neu'n rhannol o fewn ardal a ddynodwyd, unrhyw bryd yn ystod blwyddyn gwota, gan orchymyn a wnaed yn unol ag adran 1 Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985(9).

(2At ddibenion ailddyrannu cwota y cyfeirir ato yn Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor ac yn ddarostyngedig i baragraff (10), caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud dyfarniad yn ailddyrannu dros dro i gynhyrchwr ran o unrhyw gwota sydd dros ben yn unol â darpariaethau paragraffau (3) i (5).

(3Dim ond ar gyfer blwyddyn gwota pryd y mae'r hysbysiad, y datganiad neu'r gorchymyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn effeithiol neu'n parhau i fod mewn grym y gellir gwneud dyfarniad.

(4Maint unrhyw gyfryw ddyfarniad yw'r isaf o —

(a)y swm yn cyfateb i 16 litr fesul buwch gymwys fesul diwrnod cymwys yn y flwyddyn gwota y cyfeirir ati ym mharagraff (3); a

(b)y swm yn cyfateb i gynhyrchiant y cynhyrchwr sy'n fwy na'r cwota y mae ganddo neu ganddi hawl iddo yn y flwyddyn gwota honno.

(5Nid yw dyfarniad a wneir i gynhyrchwr o dan y rheoliad hwn ar gael mewn perthynas â blwyddyn gwota pryd y mae'r cynhyrchwr yn —

(a)trosglwyddo cwota nas defnyddiwyd yn unol â rheoliad 9 neu 13;

(b)trosglwyddo cwota dros dro yn unol â rheoliad 15; neu

(c)prynu buchod neu heffrod cyflo at ddibenion llaeth,

oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon i'r cytundeb i drosglwyddo, trosglwyddo dros dro neu brynu cwota, gael ei wneud cyn cyflwyno'r hysbysiad neu wneud y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu, yn ôl y digwydd, cyn i'r gorchymyn y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) ddod i rym.

(6Os bydd angen dyraniad cwota dros dro ar gynhyrchwr o dan y rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo neu iddi gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

(7mae'n rhaid i gais y cyfeirir ato ym mharagraff (6) gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill ar ôl i'r flwyddyn gwota pryd roedd y daliad, neu ran o'r daliad, dan sylw —

(a)yn destun hysbysiad perthnasol neu ddatganiad perthnasol; neu

(b)mewn ardal a oedd wedi'i dynodi drwy orchymyn perthnasol, ddod i ben.

(8Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dyfarnu i gynhyrchwr ailddyraniad dros dro o unrhyw gwota sydd dros ben yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr y mae'r cynhyrchwr yn danfon cynnyrch iddo neu iddi o'r ailddyraniad hwnnw.

(9Dim ond o gyfanswm y cwotâu y cyfeirir atynt yn rheoliad 27(3)(a) a 30(9)(a) y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu ailddyraniad cwota dros dro unwaith y penderfynir ar y cyfanswm o dan y rheoliadau hynny.

(10Ni fydd heffer gymwys sy'n fuwch gymwys at ddibenion blwyddyn gwota yn fuwch gymwys at ddibenion unrhyw flwyddyn gwota ar ôl hynny.

(11Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “heffer gymwys” yw heffer gymwys sy'n bwrw llo am y tro cyntaf ar ddiwrnod lloia perthnasol;

(b)ystyr “buwch gymwys”, at ddibenion blwyddyn gwota, yw heffer gymwys sy'n bwrw llo am y tro cyntaf pan fydd nifer y heffrod cymwys yn fwy na'r rhif cyfnewid, p'un a yw adeg y cyfryw loia yn dod o fewn y flwyddyn gwota honno ai peidio;

(c)ystyr “heffer gymwys” yw heffer a oedd —

(i)ar y dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad perthnasol neu y gwnaed datganiad perthnasol, naill ai ar dir a oedd yn destun yr hysbysiad hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y datganiad hwn; neu

(ii)ar y dyddiad y daeth gorchymyn perthnasol i rym, ar dir a oedd yn destun y gorchymyn hwnnw;

(ch)ystyr “diwrnod cymwys”, o ran unrhyw fuwch gymwys, yw'r diwrnod y mae'n bwrw llo a phob diwrnod ar ôl hynny neu ran o ddiwrnod ar ôl hynny pan fydd yr hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol dan sylw yn effeithiol neu, yn ôl y digwydd, yn parhau i fod mewn grym;

(d)ystyr “datganiad perthnasol” yw datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a);

(dd)ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a);

(e)ystyr “gorchymyn perthnasol” yw gorchymyn y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b).

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnod bwrw llo perthnasol”, o ran heffer gymwys, yw diwrnod sy'n dod —

(a)mewn achos lle mae'r hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol dan sylw yn effeithiol neu mewn grym am gyfnod sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn gwota pryd y'i cyflwynir neu, yn ôl y digwydd, pryd y'i gwneir neu cyn diwedd y flwyddyn gwota honno, o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis yn dod i ben ar y dyddiad y mae'r hysbysiad, y datganiadau neu'r gorchymyn hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol neu, yn ôl y digwydd, mewn grym; a

(b)mewn unrhyw achos arall, o fewn y flwyddyn gwota y cyflwynir neu y gwneir yr hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol neu unrhyw bryd ar ôl hynny pan fydd yr hysbysiad perthnasol, y datganiad perthnasol neu'r gorchymyn perthnasol yn effeithiol neu mewn grym.

(13Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhif cyfnewid” yw'r cyfanrif agosaf i 20% o gyfanswm y buchod llaeth ar dir —

(a)mewn achos lle mae'r tir yn destun hysbysiad perthnasol neu ddatganiad perthnasol, ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad neu'r datganiad hwnnw; neu

(b)mewn achos lle mae'r tir yn destun gorchymyn perthnasol, ar y dyddiad y daw'r gorchymyn hwnnw i rym,

a lle mae 20% o'r cyfanswm hanner ffordd rhwng dau gyfanrif, y cyfanrif gwastad agosaf y tybir mai ef yw'r un agosaf.

Dyrannu cwota yn arbennig

20.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys o achos camgymeriad a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol, —

(a)os na ddyrannwyd unrhyw gwota i berson; neu

(b)os dyrannwyd llai o gwota nag y byddai wedi'i ddyrannu iddo neu iddi pe na fyddai'r camgymeriad wedi'i wneud.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu i'r person hwnnw o'r gronfa genedlaethol y cyfryw gwota ag a fydd yn gwneud iawn, yn llwyr neu'n rhannol, am y camgymeriad hwnnw.

Addasu cwota: cyffredinol

21.—(1At ddibenion —

(a)darpariaethau Erthygl 6(2) a (5) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â newid o werthiannau uniongyrchol i ddanfon ac fel arall); a

(b)Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chynhyrchwyr yn amnewid ac yn newid prynwyr),

caiff cynhyrchwr wneud cais i addasu cwota gwerthiannau uniongyrchol yn gwota cyfanwerthol neu gwota cyfanwerthol yn gwota gwerthiannau uniongyrchol naill ai dros dro neu'n barhaol.

(2Os bydd cynhyrchwr am addasu cwota mewn unrhyw flwyddyn gwota, mae'n rhaid iddo neu iddi gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu —

(a)yn nodi —

(i)cyfanswm (os o gwbl) cwota gwerthiannau uniongyrchol, cwota cyfanwerthol, gwerthiannau uniongyrchol a danfoniadau'r cynhyrchwr hwnnw ar gyfer y flwyddyn gwota y gwneir y cais,

(ii)faint o gwota nas defnyddiwyd a ddelir ganddo neu ganddi pan wneir y cais, a

(iii)faint o gwota y mae am i'r Cynulliad Cenedlaethol ei addasu; a

(b)gan gynnwys y cyfryw wybodaeth arall ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu er mwyn asesu a fodlonir gofynion Erthygl 6(2) a (5) Rheoliad y Cyngor ac Erthygl 7 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chynnwys braster cynrychioliadol).

(3mae'n rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)os bydd cwota yn cael ei addasu'n barhaol, heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn gwota y bwriedir i'r addasiad ddod i rym; a

(b)os bydd cwota yn cael ei addasu dros dro, heb fod yn hwyrach na 14 Mai yn y flwyddyn ar ôl diwedd y flwyddyn gwota y bwriedir i'r addasiad dros dro ddod i rym.

Addasu cwota: cyfyngiadau ar drosglwyddo cwota a addaswyd yn y flwyddyn addasu

22.—(1Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gwota a addaswyd yn barhaol a drosglwyddir gyda daliad yn unol ag Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6), lle mae cynhyrchwr wedi addasu cwota yn barhaol mewn unrhyw flwyddyn gwota, ni ddylai drosglwyddo yn hwyrach yn y flwyddyn gwota honno gwota o'r math y mae wedi addasu iddo, p'un ai dros dro neu fel arall.

(3Lle mae cynhyrchwr sydd wedi addasu cwota yn barhaol mewn unrhyw flwyddyn gwota yn gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gael ei r(h)yddhau o'r cyfyngiad ym mharagraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n fodlon ynghylch y materion a nodir ym mharagraff (5), ryddhau'r cynhyrchwr hwnnw o'r cyfyngiad hwnnw.

(4Bydd rhyddhad o'r cyfyngiad ym mharagraff (2) i'r graddau y mae'n ofynnol i ganiatáu trosglwyddo'r cwota y cred y Cynulliad Cenedlaethol nad yw wedi ei ddefnyddio eto yn yr achos penodol.

(5Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw —

(a)o ran y cynhyrchwr, fod amgylchiadau eithriadol wedi arwain at gwymp sylweddol yn y llaeth a gynhyrchir neu fethiant sylweddol i sicrhau cynnydd cynlluniedig yn y llaeth a gynhyrchir; a

(b)na allai'r cynhyrchwr fod wedi rhagweld yr amgylchiadau hynny na'u hosgoi pan addaswyd ei gwota/chwota yn barhaol.

(6Nid yw'r cyfyngiad ym mharagraff (2) yn gymwys —

(a)mewn achos lle mae'r addasiad parhaol o gwota gwerthiannau uniongyrchol i gwota cyfanwerthol, os addasodd y cynhyrchwr gwota gwerthiannau uniongyrchol i gwota cyfanwerthol dros dro yn y flwyddyn gwota flaenorol; neu

(b)mewn achos lle mae'r addasiad parhaol o gwota cyfanwerthol i gwota gwerthiannau uniongyrchol, os addasodd y cynhyrchwr gwota cyfanwerthol i gwota gwerthiannau uniongyrchol yn y flwyddyn gwota flaenorol.

(7mae'r canlynol yn enghreifftiau o amgylchiadau y mae'n rhaid ystyried eu bod yn eithriadol at ddibenion paragraff (5) —

(a)marwolaeth cynhyrchwr neu ei (h)anallu i redeg ei fusnes/busnes am gyfnod hir o ganlyniad iddo neu iddi fynd yn sâl, cael ei (h)anafu neu fynd yn anabl;

(b)trychineb naturiol sy'n effeithio'n ddifrifol ar y daliad;

(c)adeiladau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth yn cael eu dinistrio'n ddamweiniol;

(ch)achos o salwch neu glefyd sy'n effeithio'n ddifrifol ar y fuches laeth;

(d)cyflwyno hysbysiad neu wneud datganiad o dan orchymyn yn unol ag adran 17(1) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 neu wneud gorchymyn yn unol ag adran 1 Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985;

(dd)colli rhan sylweddol o'r tir porthiant o ganlyniad i'r daliad neu ran o'r daliad yn cael ei brynu/phrynu yn orfodol; ac

(e)lle mae'r trosglwyddai yn denant, cyflwyno rhybudd i ymadael yn dod o fewn unrhyw achos a nodir yn Rhan I Atodlen 3 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(10).

Addasu cwota prynwr

23.—(1Lle mae cwota cyfanwerthol deiliad cwota yn cael ei gynyddu neu ei leihau yn unol â deddfwriaeth y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, mae cwota prynwr unrhyw brynwr y mae'r cwota cyfanwerthol yn gymwys iddo neu iddi yn cael ei gynyddu neu ei leihau i gyfateb â hynny.

(2O ran trosglwyddiad y mae Erthygl 11(2) Rheoliad y Cyngor yn gymwys iddo (sy'n ymwneud â chynhyrchwyr yn amnewid ac yn newid prynwyr), mae'n rhaid i brynwr y cynyddwyd ei gwota/chwota drwy'r cyfryw drosglwyddiad gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais am i'w gwota/chwota fel prynwr gael ei gynyddu yn ôl y maint penodol.

(3mae'n rhaid i gais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gynnwys —

(a)datganiad yn nodi manylion y trosglwyddiad; a

(b)datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan y cynhyrchwr fod y prynwr y bydd ei gwota/chwota yn lleihau wedi'i hysbysu o'r manylion a nodir yn y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2).

(4Mae'n rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) —

(a)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 14 Mai yn y flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y digwyddodd y trosglwyddiad;

(b)cael ei wneud yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.

(5Ni ddylai'r maint penodol gynnwys y cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill ac eithrio i'r graddau y mae'r cynnydd a gofrestrir yn unol â pharagraff (8) yn cynnwys y cwota hwnnw.

(6Bydd y cwota cyfanwerthol cofrestredig sydd ar ôl yn dal i fod ar gael i'r prynwr gwreiddiol.

(7Os na chofrestrir digon o gwota gyda'r prynwr gwreiddiol i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed gan y cynhyrchwr cyn y dyddiad y newidiwyd y prynwr, mae'n rhaid dyrannu unrhyw gwota ychwanegol a geir gan y cynhyrchwr i'r prynwr gwreiddiol nes y darperir ar gyfer yr holl ddanfoniadau i'r prynwr gwreiddiol a wnaed gan y cynhyrchwr cyn y dyddiad hwnnw ar ôl unrhyw addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

(8Ar ddechrau'r flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y cafwyd y cynnydd y cyfeirir ato ym mharagraff (2), mae'n rhaid cynyddu cwota prynwr y prynwr y mae'r cynhyrchwr newydd gofrestru ag ef neu â hi yn ôl y cyfryw ran o'r cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill gan y cynhyrchwr ag a gynhwysir yn y maint penodol.

(9Os effeithir ar y cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed i brynwr gwreiddiol gan —

(a)cwota yn cael ei drosglwyddo i'r cynhyrchwr o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn,

mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud y cyfryw addasiadau yng nghwota prynwr y prynwr gwreiddiol y mae'r cynhyrchwr newydd gofrestru ag ef neu â hi, ag sydd eu hangen i sicrhau bod digon o gwota wedi'i gofrestru gyda'r prynwr gwreiddiol i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed.

(10mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud addasiad yn unol â pharagraff (9) ar ôl i'r flwyddyn gwota dan sylw ddod i ben.

(11Lle mae gan gynhyrchwr gwota sydd wedi'i gofrestru â dau neu ragor o brynwyr, caiff y cynhyrchwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i newid y cwota sydd wedi'i gofrestru rhyngddynt dros dro, ac eithrio i'r graddau y mae angen y cwota sydd wedi'i gofrestru â phob un ohonynt i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed ganddo neu ganddi cyn dyddiad y trosglwyddiad ar ôl unrhyw addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

(12mae'n rhaid i gynhyrchwr sy'n gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (11) gyflwyno gyda'i gais/chais —

(a)datganiad yn nodi manylion y cwota sydd i'w ailgofrestru dros dro; a

(b)datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan y cynhyrchwr fod y prynwr y bydd ei gwota/chwota yn lleihau wedi'i hysbysu o'r manylion a nodir yn y datganiad.

(13mae'n rhaid i'r ddau ddatganiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) —

(a)fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu; a

(b)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 15 Mehefin yn y flwyddyn gwota yn union ar ôl y flwyddyn gwota y gwneir y cais am yr ailgofrestriad dros dro ar ei chyfer.

(14Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “cwota cyfanwerthol cofrestredig sy'n weddill” yw'r cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer danfoniadau a wnaed gan gynhyrchwr cyn y dyddiad y newidiodd y prynwr (wedi'i addasu yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn); a

(b)ystyr “maint penodol” yw maint sy'n cyfateb i gymaint o gwota cyfanwerthol cofrestredig cynhyrchwr ag a nodir gan y cynhyrchwr hwnnw.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio cwota yn Ardal Ynysoedd yr Alban

24.—(1Ni chaiff cynhyrchwyr a phrynwyr ddefnyddio cwota sydd wedi'i gofrestru o dan reoliad 4 i ddeiliaid cwota yn un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban ond yn erbyn gwerthiannau uniongyrchol a danfoniadau yn cynnwys llaeth a gynhyrchwyd o fewn yr ardal honno yn Ynysoedd yr Alban.

(2Os yw rhan o fenter laeth deiliad cwota y tu allan i un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban, fe'i trinnir at ddibenion y rheoliad hwn fel deiliad cwota o fewn un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban os yw 50% neu ragor o'i fenter/menter laeth o fewn yr ardal honno.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys o ran ailddyrannu cwota yn unol â rheoliadau 27 a 30.

RHAN 5YR ARDOLL

Penderfynu a oes angen lleihau'r addasiad braster menyn tuag i lawr o ran danfoniadau

25.—(1Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar —

(a)cyfanswm y danfoniadau i brynwyr; a

(b)cyfanswm y cyfryw ddanfoniadau ar ôl addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

(2mae'n rhaid gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at y crynodebau y mae'n rhaid i brynwyr eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Erthygl 8(2) Rheoliadau'r Comisiwn.

(3Os na chyflwynodd prynwr y crynodebau sy'n ofynnol felly ar gyfer unrhyw flwyddyn gwota neu os na all ddarparu'r cyfryw brawf o faint y llaeth a ddanfonwyd ato neu ati yn y flwyddyn honno ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (1) —

(a)penderfynu ei hun ar y maint hwnnw o laeth yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll sy'n daladwy ar ddanfoniadau a wnaed i'r prynwr hwnnw; a

(b)hysbysu'r prynwr o'i benderfyniad.

(4Os bydd y maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) yn fwy na'r maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfrifo faint y mae angen lleihau'r holl addasiadau braster menyn tuag i lawr a wnaed cyn hynny yn gymesur er mwyn cynyddu'r maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) fel ei fod yn cyfateb i'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5Os bydd paragraff (4) yn gymwys, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)hysbysu pob prynwr bod unrhyw addasiadau braster menyn tuag i lawr a wnaed ganddynt yn y danfoniadau atynt wedi'u lleihau; a

(b)nodi'r lleihad.

(6Os bydd y maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn cyfateb i'r un y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu os bydd yn fwy nag ef, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr nad oes angen lleihau unrhyw addasiadau braster menyn tuag i lawr fel hyn.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “addasiad braster menyn tuag i lawr”, o ran danfoniadau at brynwr, yw addasiad i faint y danfoniadau ar gyfer cynnwys braster menyn sy'n arwain at y maint hwnnw yn cael ei leihau at ddibenion cyfrifo'r ardoll yn unol ag Erthygl 10(2) Rheoliad y Cyngor.

Penderfynu a yw ardoll ar ddanfoniadau yn daladwy

26.—(1Lle mae cyfanswm cwota cyfanwerthol cynhyrchwyr, gan gynnwys cwota a addaswyd, ynghyd â chyfanswm y cwota cyfanwerthol yn y gronfa genedlaethol yn fwy na pha un bynnag yw'r uchaf o—

(a)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a); neu

(b)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(b),

mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu nad oes unrhyw ardoll yn daladwy ar ddanfoniadau.

(2mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr o benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

(3Lle mae cyfanswm cwota cyfanwerthol cynhyrchwyr, gan gynnwys cwota a addaswyd, ynghyd â chyfanswm y cwota cyfanwerthol yn y gronfa genedlaethol yn llai na pha un bynnag yw'r uchaf o—

(a)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a); neu

(b)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(b),

mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr bod ardoll yn daladwy ar b'un bynnag sydd fwyaf o'r danfoniadau.

Ailddyrannu cwota cynhyrchwyr

27.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo'r ardoll ar ddanfoniadau).

(2Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar gyfer pob cynhyrchwr, faint o gwota nas defnyddiwyd (os o gwbl) sydd ar gael i'r cynhyrchwr hwnnw, gan ystyried unrhyw addasiad sydd ei angen o dan reoliad 25(4) ac unrhyw gwota a addaswyd.

(3Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu yn unol â pharagraff (2) fod gan gynhyrchwr gwota nas defnyddiwyd, mae'n rhaid iddo —

(a)ychwanegu cyfanswm y cwota nas defnyddiwyd at y gronfa genedlaethol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ddyfarnu unrhyw ailddyraniad cwota dros dro yn unol â rheoliad 19; a

(c)ar ôl gwneud y cyfryw ddyfarniad, ailddyrannu unrhyw gwota nas defnyddiwyd sy'n weddill i unrhyw gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau yn fwy na'u cwotâu yn gymesur â'u gwahanol gwotâu.

(4mae'n rhaid lleihau maint dyfarniad a wneir o dan baragraff (3)(b) yn gymesur os nad oes digon o gwota ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (3)(a) i wneud dyfarniad llawn i bob cynhyrchwr sy'n gymwys i gael dyraniad cwota dros dro o dan reoliad 19.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os nad oes angen yr holl gwota nas defnyddiwyd sydd ar gael i'w ailddyrannu i gynhyrchwr o dan baragraff (3)(c) ar y cynhyrchwr hwnnw i ddarparu ar gyfer ei d(d)anfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailddyrannu'r cwota nas defnyddiwyd nad oes ei angen ymhlith yr holl gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu yn fwy na'u cwota yn gymesur â'u gwahanol gwotâu.

(6Ni chaiff unrhyw gynhyrchwr unrhyw gwota nas defnyddiwyd o dan baragraff (5) yn fwy na'r cwota y mae arno neu arni ei angen i ddarparu ar gyfer ei d(d)anfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu sy'n fwy na'i gwota/chwota.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “danfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu” yw danfoniadau a addaswyd ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.

Penderfynu ar atebolrwydd i dalu ardoll ar ddanfoniadau

28.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo ardoll ar ddanfoniadau).

(2Ar ôl i'r flwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)canfod pa gynhyrchwyr a wnaeth ddanfoniadau sy'n fwy na'r cwota a ddyrannwyd iddynt ar ôl ystyried unrhyw addasiadau a wnaed o dan reoliadau 25 a 27; wedyn

(b)canfod cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan bob cyfryw gynhyrchwr ar y gyfradd ardoll a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor; ac wedyn

(c)canfod cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan bob prynwr ar ddanfoniadau a wnaed i'r prynwr hwnnw.

Hysbysu am yr atebolrwydd i dalu ardoll

29.  Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)hysbysu pob prynwr o gyfanswm yr ardoll sy'n daladwy ar ddanfoniadau a wnaed i'r prynwr hwnnw; a

(b)rhoi manylion i'r prynwr hwnnw am gyfanswm yr ardoll y gellir ei briodoli i bob cynhyrchwr a wnaeth ddanfoniadau i'r prynwr hwnnw.

Penderfynu ar atebolrwydd i dalu ardoll ar werthiannau uniongyrchol

30.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 12 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo ardoll ar werthiannau uniongyrchol).

(2Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar gyfanswm y cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim gan werthwyr uniongyrchol yn y flwyddyn gwota dan sylw.

(3mae'n rhaid gwneud penderfyniad o dan baragraff (2) drwy gyfeirio at y datganiadau y mae'n rhaid i werthwyr uniongyrchol eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn.

(4Os na chyflwynodd gwerthwr uniongyrchol ddatganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer unrhyw flwyddyn gwota yn unol â'r Erthygl honno neu os na all ddarparu'r cyfryw brawf o feintiau'r cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim ganddo neu ganddi yn y flwyddyn honno ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (2) —

(a)benderfynu ei hun ar y cyfryw feintiau yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll sy'n daladwy gan y gwerthwr uniongyrchol hwnnw, a

(b)hysbysu'r gwerthwr uniongyrchol o'i benderfyniad.

(5O ran blwyddyn gwota, lle mae —

(a)cyfanswm cwota gwerthiannau uniongyrchol deiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw gwota a addaswyd; a

(b)cyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol yn y gronfa genedlaethol,

gyda'i gilydd yn fwy na'r cyfanswm y penderfynwyd arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu nad oes unrhyw ardoll o ran gwerthiannau uniongyrchol yn daladwy.

(6mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol o'i benderfyniad a wnaed o dan baragraff (5).

(7O ran blwyddyn gwota, lle mae —

(a)cyfanswm cwota gwerthiannau uniongyrchol deiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw gwota a addaswyd; a

(b)cyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol yn y gronfa genedlaethol,

gyda'i gilydd yn llai na'r cyfanswm y penderfynwyd arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), mae'r rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob gwerthwr uniongyrchol bod ardoll yn daladwy.

(8Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu o ran pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol faint o gwota gwerthiannau uniongyrchol nas defnyddiwyd sydd ar gael i'r deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol hwnnw yn y flwyddyn gwota dan sylw, gan ystyried unrhyw gwota a addaswyd.

(9Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan baragraff (8) fod gan ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol gwota gwerthiannau uniongyrchol nas defnyddiwyd, mae'n rhaid iddo—

(a)ychwanegu'r cwota hwnnw nas defnyddiwyd at y gronfa genedlaethol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud y cyfryw ddyfarniadau yn ailddyrannu cwota dros dro o dan reoliad 19 ag y cred ei bod yn briodol eu gwneud.

(10Os, ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (9)(a), na fydd digon o gwota gwerthiannau uniongyrchol i wneud dyfarniad llawn o dan reoliad 19 i bob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol sy'n gymwys i gael y cyfryw ddyfarniad, caiff maint pob dyfarniad o dan baragraff (9)(b) ei leihau yn gymesur.

(11O ran y flwyddyn gwota dan sylw, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ganfod wedyn —

(a)faint yn fwy yw'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) na chyfanswm —

(i)cwota gwerthiannau uniongyrchol pob deiliad gwerthiannau uniongyrchol, gan gynnwys cwota a addaswyd, a

(ii)y cwota gwerthiannau uniongyrchol yn gronfa genedlaethol;

(b)cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan ddeiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol drwy luosi'r cyfanswm a nodwyd o dan is-baragraff (a) â'r gyfradd ardoll a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor; a

(c)faint yn fwy yw'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) na holl gwota gwerthiannau uniongyrchol y deiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol y mae eu gwerthiannau uniongyrchol yn fwy na'u cwota.

(12mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi'r gyfradd ardoll fesul litr sydd i'w thalu gan bob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol drwy rannu'r cyfanswm a nodwyd yn unol â pharagraff (11)(b) â'r cyfanswm a nodwyd yn unol â pharagraff (11)(c).

(13mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)canfod pa ddeiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol a werthodd neu a drosglwyddodd am ddim gynhyrchion llaeth yn fwy na'r cwota sydd ar gael iddynt gan gynnwys unrhyw gwota a addaswyd ac unrhyw gwota a ailddyrannwyd dros dro drwy ddyfarniad o dan baragraff (9)(b);

(b)canfod cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan bob cyfryw ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol ar y gyfradd ardoll a nodwyd yn unol â pharagraff (12); a

(c)hysbysu pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol o gyfanswm yr ardoll sy'n daladwy ganddo neu ganddi.

(14Os na fydd gwerthwr uniongyrchol yn cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn ddatganiad o gyfanswm y cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim ganddo neu ganddi mewn blwyddyn gwota, y gyfradd ardoll fesul litr y mae'n rhaid i'r gwerthwr uniongyrchol hwnnw ei thalu ar y cyfanswm nas hysbyswyd neu na phenderfynwyd yn ei gylch o dan baragraff (4) yw'r gyfradd a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Comisiwn.

Talu ac adennill ardoll

31.—(1O ran casglu ardoll, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion deddfwriaeth y Gymuned.

(2At ddibenion —

(a)Erthygl 11(1) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thalu ardoll gan brynwyr o ran danfoniadau);

(b)Erthygl 12(4) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thalu ardoll gan werthwyr uniongyrchol);

(c)Erthygl 8 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â datganiadau gan brynwyr o ddanfoniadau gan gynhyrchwyr); a

(ch)Erthygl 11 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â datganiadau o werthiannau uniongyrchol gan gynhyrchwyr);

mae'n rhaid talu'r ardoll a'r cosbau y cyfeirir atynt yn y darpariaethau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3mae paragraff (4) yn gymwys at ddibenion Erthygl 11(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thynnu'r atebolrwydd i dalu ardoll) lle mae cynhyrchwr yn gwneud danfoniadau i brynwr yn mynd dros ei gwota/chwota cyfanwerthol.

(4Yn dilyn unrhyw addasiad i'r maint a ddanfonir yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn, caiff y prynwr dynnu ar unwaith o'r symiau y mae arno neu arni i'r cynhyrchwr o ran y danfoniadau swm sy'n cyfateb i'r ardoll a fyddai fel arall yn daladwy ganddo neu ganddi o ran y maint sydd dros ben.

(5Lle mae unrhyw ran o'r ardoll heb ei thalu ar ôl 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill yr ardoll sydd heb ei thalu ar y dyddiad hwnnw ynghyd ag unrhyw log o ran pob diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw nes bod y swm hwnnw wedi'i adennill —

(a)oddi wrth y gwerthwr uniongyrchol neu, yn ôl y digwydd, y prynwr; neu

(b)oddi wrth y cynhyrchwr, mewn achos o fewn paragraff (4) —

(i)lle nad yw'r prynwr wedi talu'r ardoll, a

(ii)lle nad yw'r cynhyrchwr wedi talu'r ardoll i'r prynwr naill ai'n uniongyrchol neu thrwy ddidynnu ardoll ac nid yw'r prynwr yn cymryd camau i'w hadennill oddi wrtho neu wrthi.

(6mae llog o dan baragraff (5) yn daladwy ar y gyfradd o un pwynt canrannol uwchlaw'r gyfradd dri mis sterling a gynigir rhwng banciau Llundain.

(7Os —

(a)na chymeradwywyd prynwr yn unol â rheoliad 5; neu

(b)tynnwyd cymeradwyaeth prynwr yn ôl gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 23(3) Rheoliad y Comisiwn,

yn ddarostyngedig i baragraff (8), caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynnu y telir unrhyw ardoll sy'n daladwy gan y prynwr nas talwyd ganddo neu ganddi yn y cyfryw gyfrannau ag y gall yn rhesymol eu mynnu gan unrhyw gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau i'r prynwr hwnnw wedi arwain at yr atebolrwydd i dalu ardoll.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys o ran cynhyrchwr sydd wedi talu'r prynwr dan sylw naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddidynnu'r ardoll sy'n daladwy gan y cynhyrchwr hwnnw.

Atal osgoi talu ardoll

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os —

(a)bydd cynhyrchwr (“A”) yn gwerthu neu'n danfon llaeth neu gynhyrchion llaeth mewn unrhyw flwyddyn gwota o laeth a gynhyrchir gan unrhyw fuchod; a bod

(b)cynhyrchwr arall (“B”), yn hwyrach yn yr un flwyddyn gwota, yn gwerthu neu'n danfon llaeth neu gynhyrchion llaeth o laeth a gynhyrchir o unrhyw un o'r un buchod neu o bob un ohonynt,

ystyrir i B at ddibenion y Rheoliadau hyn wneud y gwerthiannau neu'r danfoniadau hynny fel asiant ar ran A.

(2Nid yw'r paragraff (1) yn gymwys os —

(a)cytunodd A i werthu neu brydlesu'r buchod dan sylw i B;

(b)cedwir y buchod ar ddaliad B; a

(c)ar ôl gwneud y cytundeb —

(i)mae B wedi ymgymryd â rheoli'r fuches sy'n cynnwys y buchod y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) a'r llaeth a gynhyrchir ganddi, a

(ii)Nid yw A yn cymryd unrhyw ran bellach yn y gwaith o reoli'r fuches honno a'r llaeth a gynhyrchir ganddi.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys os —

(a)etifeddodd B y buchod dan sylw gan A; a

(b)cedwir y buchod ar ddaliad B.

RHAN 6GWYBODAETH A CHOFNODION

Gwybodaeth

33.—(1mae'n rhaid i bob person perthnasol ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y cyfryw wybodaeth ag y gall fod ar y Cynulliad Cenedlaethol ei mynnu yn rhesymol i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn a deddfwriaeth y Gymuned.

(2mae'n rhaid i bob prynwr ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y cyfryw wybodaeth ag y gall fod arno ei mynnu yn rhesymol yn ymwneud â danfoniadau a wnaed neu y bwriedir eu gwneud i'r prynwr gan y cyfryw berson neu'r cyfryw bersonau ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei nodi neu eu nodi at ddibenion monitro danfoniadau o ran y cyfanswm cyfeirio cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig y cyfeirir ato yn Erthygl 1(3) ac Atodiad I Rheoliad y Cyngor.

(3mae'n rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) —

(a)ar gyfer y cyfryw gyfnodau; a

(b)yn y cyfryw ffurf,

ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol eu mynnu.

(4mae'n rhaid cyflwyno'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) fel ei bod yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y cyfnod o dri diwrnod gwaith yn dechrau pan ddaw'r cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef i ben neu o fewn saith diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd gwybod am y mynnu, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(5mae'n rhaid i bob prynwr ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol restr o'r deiliaid cwota hynny sydd wedi'u cofrestru â'r prynwr hwnnw ar 31 Mawrth ym mhob blwyddyn gwota (p'un a fuont wedi'u cofrestru felly am y cyfan o'r flwyddyn gwota honno neu am ran ohoni) —

(a)sy'n dal cwota mewn perthynas â'r flwyddyn gwota honno nas cafwyd drwy drosglwyddiad dros dro ar gyfer y flwyddyn gwota honno, a

(b)na wnaethant ddanfoniadau i'r prynwr hwnnw yn ystod y flwyddyn gwota honno; a

sicrhau bod y rhestr yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na 14 Mai ar ôl i'r flwyddyn gwota honno ddod i ben.

(6mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu ar gyfer pob prynwr gopi o'r cyfryw wybodaeth ag y gall fod ar y prynwr ei hangen yn rhesymol at ddibenion —

(a)rhwymedigaethau cofrestru'r prynwr hwnnw o dan reoliad 6; a

(b)Erthygl 8 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â chyflwyno crynodebau o ddatganiadau cynhyrchwyr o ddanfoniadau neu ddatganiadau yn nodi na chafwyd unrhyw ddanfoniadau).

Cadw cofnodion a'u dal

34.—(1At ddibenion Erthygl 17 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau y codir yr ardoll yn gywir), mae'n rhaid i berson perthnasol gydymffurfio â gofynion paragraff (2) yn ogystal â bodloni unrhyw ofyniad perthnasol ym mharagraffau 2 i 6 Erthygl 24 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â rhwymedigaethau cadw cofnodion prynwyr a chynhyrchwyr).

(2Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a)cadw'r cyfryw gofnodion a'u dal; a

(b)cydymffurfio ag is-baragraff (a) am y cyfryw gyfnodau,

ag a nodir yn Atodlen 2.

(3Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar reoliad 3 Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diogelu Trefniadau'r Gymuned) 1992(11).

Datganiadau a chrynodebau blynyddol

35.—(1Os —

(a)bydd cynhyrchwr y mae unrhyw gwota gwerthiannau uniongyrchol wedi'i gofrestru yn ei (h)enw yn unol â rheoliad 4 yn methu â chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol iddo neu iddi ei gyflwyno o dan Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn fel bod y datganiad yn ei gyrraedd ar 14 Mai neu cyn y dyddiad hwnnw mewn unrhyw flwyddyn; neu

(b)bydd prynwr yn methu â chyflwyno unrhyw grynodeb y mae'n ofynnol iddo neu iddi ei gyflwyno iddo o dan Erthygl 8(2) Rheoliad y Comisiwn fel bod y crynodeb yn ei gyrraedd ar 14 Mai neu cyn y dyddiad hwnnw mewn unrhyw flwyddyn,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill tâl rhesymol oddi wrth y cynhyrchwr hwnnw neu'r prynwr hwnnw, yn ôl y digwydd, mewn perthynas ag unrhyw ymweliad ag unrhyw safle y cred yn rhesymol y dylai swyddog awdurdodedig ymgymryd ag ef er mwyn cael y datganiad neu'r crynodeb dan sylw.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn anfon i brynwr fersiwn diwygiedig o grynodeb a gyflwynwyd ganddo neu ganddi yn unol ag Erthygl 8(2) Rheoliad y Comisiwn, mae'n rhaid i'r prynwr gyflwyno naill ai —

(a)cadarnhad y cytunir ar y fersiwn diwygiedig; neu

(b)diwygiadau i'r fersiwn diwygiedig,

fel bod y cyfryw gadarnhad neu'r cyfryw ddiwygiadau, yn ôl y digwydd, yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y cyfnod o ddeng diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad pryd yr anfonwyd y fersiwn diwygiedig i'r prynwr.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person (p'un a yw'n un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol ai peidio) a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu o ran materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn a deddfwriaeth y Gymuned.

RHAN 7COSBAU A DARPARIAETHAU AMRYWIOL

Cosbau gweinyddol

36.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 23(4) Rheoliad y Comisiwn (sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i beidio â gosod cosbau o dan rai amgylchiadau) a pharagraff (5), mae prynwyr yn agored i dalu'r cosbau gweinyddol a nodir ym mharagraffau (2) and (3).

(2Lle mae prynwr yn methu â darparu neu gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cais neu ddatganiad yn ymwneud ag addasu cwota prynwr yn unol â rheoliad 23(2) i (4);

(b)gwybodaeth yn unol â rheoliad 33(2) i (4); neu

(c)cadarnhad neu ddiwygiadau yn ymwneud â fersiwn diwygiedig o grynodeb yn unol â rheoliad 35(2),

mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y cais, y datganiad, neu'r fersiwn diwygiedig hwnnw, neu'r wyboaeth honno ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Lle mae prynwr yn methu â chadw cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru yn unol ag Erthygl 24(2) Rheoliad y Comisiwn a rheoliad 34, mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r llaeth dan sylw yn ôl cyfaint.

(4At ddibenion trydydd is-baragraff Erthygl 11(3) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau osod cosbau cymesur lle mae cynhyrchwyr yn cyflwyno datganiadau anghywir), ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 11(5) y Rheoliad hwnnw (sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i beidio â gosod cosbau o dan rai amgylchiadau) ac i baragraff (5), lle mae gwerthwr uniongyrchol yn cyflwyno datganiad blynyddol sy'n gorddatgan neu'n tanddatgan maint y gwerthiannau uniongyrchol ar gyfer y flwyddyn gwota a gwmpesir gan y datganiad hwnnw, mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)yn achos gorddatganiad, gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r llaeth yn ôl cyfaint sy'n ffurfio'r gorddatganiad;

(b)yn achos tanddatganiad, gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r llaeth yn ôl cyfaint sy'n ffurfio'r tanddatganiad,

ac eithrio mewn unrhyw achos lle mae ef neu hi, ar gyfer y flwyddyn gwota a gwmpesir gan y datganiad, yn agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol ardoll sy'n fwy na'r swm hwnnw.

(5Er gwaethaf unrhyw beth ym mharagraffau (2) i (4), ni ddylai'r cosbau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny —

(a)yn achos prynwyr a gwerthwyr uniongyrchol, fod yn llai na £60;

(b)yn achos prynwyr, fod yn fwy na £60,000; ac

(c)yn achos gwerthwyr uniongyrchol, fod yn fwy na £600.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os bydd prynwr yn methu â chyflwyno crynodeb y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan Erthygl 8(2) Rheoliad y Comisiwn cyn 1 Gorffennaf yn y flwyddyn pryd y mae'n ofynnol ei gyflwyno, mae'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb yn cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y datganiad hwnnw ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.

(7Nid yw prynwr yn agored i dalu cosb o dan baragraff (6) os oedd y methiant, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, —

(a)yn anfwriadol nac yn deillio o esgeuluster difrifol;

(b)os yw'n ddibwys o ran y modd y mae'r cynllun yn gweithredu neu effeithiolrwydd y gwiriadau; neu

(c)os gellir ei briodoli i force majeure.

Atal neu adennill iawndal

37.—(1Lle —

(a)mae cynhyrchwr wedi cyflwyno cais am iawndal yn unol â chynllun iawndal y Gymuned; a

(b)yr ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r cynhyrchwr —

(i)wneud datganiad ffug neu gamarweiniol yn ei gais/chais, neu

(ii)methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y cynllun,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal neu adennill ar orchymyn oddi wrth y cynhyrchwr hwnnw y cyfan o'r iawndal neu unrhyw ran ohono sy'n daladwy neu a dalwyd iddo neu iddi.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “cynllun iawndal y Gymuned” yw'r cynllun a sefydlwyd yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2330/98 yn darparu ar gyfer cynnig iawndal i rai cynhyrchwyr llaeth a chynhyrchion llaeth y cyfyngir arnynt dros dro rhag cynnal eu busnes(12) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2647/98 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2330/98(13).

Atafael cwota

38.—(1Yn unol ag Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud ag atafael ac adfer cwota mewn achosion o anweithgarwch), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu deiliad cwota bod ei gwota/chwota wedi'i gymryd i mewn i'r gronfa genedlaethol os ymddengys yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol na wnaeth unrhyw ddanfoniadau nac unrhyw werthiannau uniongyrchol yn ystod y flwyddyn gwota flaenorol.

(2Yn unol ag Erthygl 11(4) Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud ag atafael cwota mewn achosion lle methwyd â chyflwyno datganiadau o werthiannau uniongyrchol cyn 1 Gorffennaf), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu unrhyw ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol sy'n torri Erthygl 11 y Rheoliad hwnnw, drwy fethu â chyflwyno datganiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel bod y datganiad blynyddol yn ei gyrraedd cyn 1 Gorffennaf, y cymerir ei gwota/chwota i mewn i'r gronfa genedlaethol 30 diwrnod ar ôl ei hysbysu.

(3mae'n rhaid gosod unrhyw gwota a dynnir yn ôl yn unol ag Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor yn y gronfa genedlaethol yn effeithiol o 1 Ebrill yn dilyn y flwyddyn gwota y mae gwybodaeth ar gael i'r Cynulliad Cenedaethol yn ei chylch yn dangos iddo na wnaed unrhyw ddanfoniadau nac unrhyw werthiannau uniongyrchol, yn ôl y digwydd.

(4mae'n rhaid i ddeiliad cwota cyfanwerthol neu ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol a hysbysir o'r bwriad i atafael cwota o dan baragraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2) hysbysu unrhyw un â buddiant yn y tir a gynhwysir yn y daliad dan sylw o gynnwys yr hysbysiad hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y'i derbyniodd.

Adfer cwota

39.—(1Yn ddarostyngedig i ail is-baragraff Erthygl 15(1) Rheoliad y Cyngor (sy'n nodi'r terfyn amser ar gyfer adfer cwota), gall person y cymerwyd ei gwota/chwota i mewn i'r gronfa genedlaethol ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol adfer iddo neu iddi y cwota o ran y daliad y'i hatafaelwyd ohono neu mewn perthynas â rhan o'r daliad hwnnw os yw'n gynhyrchwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'n rhaid i gais o dan baragraff (1) —

(a)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol —

(i)heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn gwota y mae a wnelo â hi, neu

(ii)yn achos atafaeliad cwota yr hysbyswyd yn ei gylch yn rhinwedd rheoliad 38(2), heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn gwota cyn y flwyddyn gwota y bwriedir adfer y cwota ynddi; a

(b)mewn achos yn dod o dan is-baragraff (a)(ii), mae'n rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys y datganiad y methodd y person sy'n gwneud y cais â'i gyflwyno o dan Erthygl 11 Rheoliad y Comisiwn.

(3Lle mae —

(a)newid mewn deiliadaeth o ran y daliad cyfan y cymerwyd cwota i mewn i'r gronfa genedlaethol mewn perthynas ag ef neu mewn perthynas â rhan o'r daliad hwnnw; a

(b)mae'r deiliad newydd yn gynhyrchwr,

caiff y deiliad newydd gyflwyno cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo adfer iddo neu iddi y cwota yn ymwneud â'r daliad neu'r rhan-ddaliad hwnnw cyn diwedd y terfyn amser ar gyfer adfer cwota a nodir yn ail is-baragraff Erthygl 15(1) Rheoliad y Cyngor.

(4mae'n rhaid i gais am adfer cwota i ran o ddaliad a wneir o dan baragraff (1) neu (3) gynnwys —

(a)datganiad o'r dosraniad cwota y cytunwyd arno gan ystyried y mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth, wedi'i lofnodi gan bob person â buddiant yn y tir sy'n ffurfio'r daliad; neu

(b)datganiad yn gofyn am i gwota gael ei ddosrannu yn unol â phroses gymrodeddu o dan baragraffau 1(5), 3(2), 4 a 6 i 34 Atodlen 1.

(5Lle adferir cwota i ran o ddaliad yn unol â chais a wnaed o dan baragraff (1) neu (3), mae'n rhaid penderfynu ar y cwota a adferir i'r rhan honno yn unol â'r dosraniad y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(a) neu (b).

Troseddau a chosbau troseddol

40.—(1mae person yn euog o drosedd os bydd ef neu hi —

(a)fel person perthnasol, yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd arno neu arni o dan y Rheoliadau hyn neu ddeddfwriaeth y Gymuned; neu

(b)mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn neu ddeddfwriaeth y Gymuned, os bydd yn —

(i)gwneud datganiad neu'n achosi i ddatganiad gael ei wneud, neu'n defnyddio dogfen neu'n achosi i ddogfen gael ei defnyddio, y gŵyr ei fod/bod yn anghywir o ran manylyn perthnasol, neu

(ii)gwneud datganiad neu'n achosi i ddatganiad gael ei wneud yn fyrbwyll, neu'n defnyddio dogfen neu'n achosi i ddogfen gael ei defnyddio yn fyrbwyll, sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol; neu

(c)os bydd yn gwaredu cwota y mae'n gwybod neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo neu iddi wybod ei fod wedi'i gofrestru'n anghywir yn ei (h)enw.

(2mae person sy'n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored —

(a)yn dilyn collfarn ddiannod, i dalu dirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol, neu i gael tymor o garchar heb fod yn fwy na thri mis; neu i'r ddau, neu

(b)yn dilyn collfarn ar dditiad, i dalu dirwy, neu i gael tymor o garchar heb fod yn fwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn unrhyw gollfarn o dan baragraff (1)(b) nad oes unrhyw hawl apelio nac unrhyw hawl apelio bellach yn bodoli yn ei herbyn, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'r gollfarn honno yn ymwneud â'i gwota/chwota, dynnu oddi wrtho neu oddi wrthi y cyfryw gwota ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ystyried iddo neu iddi gael drwy'r anwiredd yr oedd y gollfarn yn seiliedig arno.

(4Ni ellir cyflwyno hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (3) ar ôl i'r cyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y gellir cyflwyno'r hysbysiad ddod i ben.

(5Lle profir i drosedd o dan y rheoliad hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol gael ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw un a oedd yn honni ei fod/bod yn gweithredu mewn unrhyw gyfryw swyddogaeth, neu y gellir ei phriodoli i esgeuluster ar ran unrhyw gyfryw berson, tybir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i gael ei (h)erlyn a'i gosbi/chosbi yn unol â hynny.

(6Lle rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae darpariaethau paragraffau (1) a (2) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

(7Yn y rheoliad hwn nid yw “gofyniad” yn cynnwys unrhyw gyfyngiad na rhwymedigaeth yn rheoliadau 11(1) a (3), 14(3), 16, 19(6) a (7), 21(2) a (3), 22(2), 23(12) a (13) a 39(2) a (4) nac o danynt.

Diddymiadau a diwygiadau

41.—(1Diddymir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2002(14).

(2Yn erthygl 8(3)(b) Gorchymyn Cyngor Datblygu Llaeth 1995(15), mae'r geiriau “the Dairy Produce Quotas (Wales) Regulations 2002” wedi'u disodli gan “the Dairy Produce Quotas (Wales) Regulations 2005(16)”.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources