xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 ac 16, mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 17 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â throsglwyddo cwota gyda daliad pan gaiff y daliad ei werthu, ei brydlesu, ei drosglwyddo drwy etifeddiaeth neu pan fydd yn destun achosion trosglwyddo eraill yn golygu effeithiau cyfreithiol cymaradwy i gynhyrchwyr) o ran trosglwyddo daliad neu ran o ddaliad.
(2) mae'n rhaid i drosglwyddai'r daliad neu'r rhan o'r daliad gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)hysbysiad trosglwyddo yn y cyfryw ffurf; a
(b)y cyfryw wybodaeth arall yn ymwneud â'r trosglwyddiad,
ag y gall fod ar y Cynulliad Cenedlaethol eu mynnu yn rhesymol.
(3) mae'n rhaid i'r hysbysiad trosglwyddo gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol —
(a)pan drosglwyddir daliad neu ran ohono drwy brydles, heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y'i trosglwyddir; a
(b)pan drosglwyddir daliad neu ran ohono ac eithrio drwy brydles, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y'i trosglwyddir.
(4) mae'n rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(b) gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn y cyfryw amser ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu.
(5) mae'n rhaid i'r hysbysiad trosglwyddo gynnwys —
(a)datganiadau gan y trosglwyddwr a'r trosglwyddai yn nodi meintiau'r cwota a ddefnyddiwyd ac nas defnyddiwyd a drosglwyddir;
(b)pan drosglwyddir rhan o ddaliad —
(i)datganiadau gan y trosglwyddwr a'r trosglwyddai i'r perwyl eu bod wedi cytuno y caiff y cwota ei ddosrannu gan ystyried y mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth fel y'u nodir yn yr hysbysiad trosglwyddo neu na chytunwyd ar unrhyw gyfryw ddosraniad, a
(ii)lle cytunwyd ar y cyfryw ddosraniad, hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant, a ddarperir gan y trosglwyddwr mewn perthynas â'r daliad; ac
(c)pan drosglwyddir daliad cyfan, hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant, a ddarperir gan y trosglwyddwr mewn perthynas â'r daliad.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 ac 16, mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle trosglwyddir rhan o ddaliad.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 11(4) a (5) a 12, lle cyflwynwyd hysbysiad trosglwyddo yn briodol yn unol â rheoliad 9, mae'n rhaid dosrannu'r cwota yn ymwneud â'r daliad —
(a)yn unol â'r dosraniad y cytunwyd arno ac a nodir yn yr hysbysiad hwnnw; neu
(b)os na fydd unrhyw gyfryw gytundeb, mae'n rhaid penderfynu ar y dosraniad drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliadau 11(4) a (5) a 12, mae unrhyw gynnyrch llaeth a gafodd—
(a)eu gwerthu'n uniongyrchol; neu
(b)eu danfon
o'r daliad yn ystod y flwyddyn gwota pryd y mae deiliadaeth y daliad yn newid a chyn trosglwyddo'r rhan o'r daliad yn cael eu trin at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll fel pe baent wedi'u gwerthu, eu trosglwyddo am ddim neu eu danfon, yn ôl y digwydd, o bob rhan o'r daliad yn gymesur â'r dosraniad o dan baragraff (2)
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys os bydd y partïon yn cytuno fel arall ac yn cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad o'r cytundeb hwnnw.
(5) mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) —
(a)yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu; a
(b)wrth gyflwyno'r hysbysiad trosglwyddo yn unol â rheoliad 9.
11.—(1) Lle mae angen dosraniad cwota rhagolygol ar ddeiliad y daliad yn ymwneud â'r daliad hwnnw, mae'n rhaid iddo neu iddi wneud cais am y cyfryw ddosraniad i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu, gan ofyn —
(a)am i gwota gael ei ddosrannu yn rhagolygol yn ymwneud â'r daliad gan ystyried mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth fel y nodir yn y cais; neu
(b)am i gwota gael ei ddosrannu'n rhagolygol drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.
(2) Gellir tynnu cais am ddosraniad rhagolygol yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan y person a wnaeth y cais.
(3) Os bydd deiliad daliad —
(a)yn gofyn am i gwota gael ei ddosrannu'n rhagolygol yn unol â pharagraff (1)(a); neu
(b)yn rhoi gwybod bod y cyfryw gais yn cael ei dynnu yn ôl yn unol â pharagraff (2),
mae'n rhaid anfon hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant gyda'r cais neu'r hysbysiad mewn perthynas â'r daliad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), lle mae deiliadaeth rhan o ddaliad yn newid ac o fewn y cyfnod o chwe mis yn dod i ben ar ddyddiad y newid hwnnw mewn deiliadaeth —
(a)mae deiliad y daliad —
(i)wedi gofyn am i gwota gael ei dosrannu'n rhagolygol mewn perthynas â'r rhan honno o'r daliad, a
(ii)wedi cyflwyno'n briodol hysbysiad trosglwyddo yn unol â rheoliad 9, yn nodi bod dosraniad cwota wedi'i gytuno; neu
(b)y penderfynwyd ar ddosraniad cwota rhagolygol yn ymwneud â'r rhan honno o'r daliad neu mae ar ganol cael ei benderfynu drwy gymrodeddu o dan Atodlen 1,
mae paragraff (5) yn gymwys.
(5) mae'n rhaid dosrannu cwota yn unol ag —
(a)y dosraniad cwota rhagolygol yn ymwneud â'r rhan honno o'r daliad hwnnw a wnaed neu a benderfynwyd yn dilyn cais o dan baragraff (1) oni thynnwyd y cais am y dosraniad rhagolygol hwnnw yn ôl cyn y newid mewn deiliadaeth y mae'n ymwneud ag ef; neu
(b)os na chafodd unrhyw gyfryw ddosraniad rhagolygol ei wneud na'i benderfynu, ond bod un yn cael ei wneud neu'i benderfynu, y dosraniad cwota rhagolygol yn ymwneud â'r rhan honno o'r daliad hwnnw sydd ar ganol cael ei wneud neu ei benderfynu o dan baragraff (1); neu
(c)mewn unrhyw achos arall, rheoliad 10(2).
(6) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i newid mewn deiliadaeth y mae rheoliad 16(1) yn gymwys iddo.
12.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)lle trosglwyddir rhan o ddaliad; a
(b)lle mae gan y Cynulliad Cenedlaethol sail resymol dros gredu —
(i)nad yw'r mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth ar y daliad fel y'u nodir mewn hysbysiad a gyflwynwyd yn briodol yn unol â rheoliad 9 neu gais a gyflwynwyd yn briodol yn unol â rheoliad 11(1)(a), neu
(ii)mewn achos lle na chyflwynwyd unrhyw gyfryw hysbysiad nac unrhyw gyfryw gais yn briodol, nad ystyriwyd y mannau a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu llaeth ar y daliad yn llawn gan y partïon pan ddosrannwyd y cwota.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad bod ganddo sail resymol dros gredu'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) —
(a)i'r person a gyflwynodd yr hysbysiad neu'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)(i); neu,
(b)pan na chyflwynwyd y naill na'r llall, i ddeiliad cwota'r daliad dan sylw.
(3) Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2), penderfynir ar y dosraniad neu'r dosraniad rhagolygol o'r cwota drwy gymrodeddu yn unol ag Atodlen 1.
13.—(1) mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 16(2) a (3).
(2) mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle mae'r awdurdodau cymwys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu ar y cyd, yn unol â pharagraffau (1)(e) a (2) Erthygl 18 Rheoliad y Cyngor, bod trosglwyddo cwota heb drosglwyddo'r tir cyfatebol o fewn pob un o ranbarthau cwota'r Deyrnas Unedig wedi'i awdurdodi.
(3) mae'n rhaid i drosglwyddai cwota y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol iddo/iddi gyflwyno iddo hysbysiad o unrhyw gyfryw drosglwyddiad o fewn y rhanbarth cwota cyffredinol yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.
(4) mae'n rhaid i'r hysbysiad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir y cwota ac mae'n rhaid iddo gynnwys —
(a)datganiadau gan y trosglwyddwr a'r trosglwyddai iddynt gytuno i drosglwyddo cwota, yn nodi meintiau'r cwota a ddefnyddiwyd ac nas defnyddiwyd a drosglwyddir;
(b)hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant a roddir gan y trosglwyddwr o ran y daliad y bwriedir trosglwyddo'r cwota oddi wrtho; a
(c)datganiad gan y trosglwyddai yn nodi ei fod/bod yn gynhyrchwr.
(5) Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei hysbysu yn unol â pharagraff (3), gall fynnu bod y trosglwyddwr neu'r trosglwyddai yn cyflwyno'r cyfryw wybodaeth arall yn ymwneud â'r trosglwyddiad, ac o fewn y cyfryw amser, ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu.
(6) Yn y rheoliad hwn —
(a)ystyr “rhanbarth cwota cyffredinol” yw'r Deyrnas Unedig ac eithrio ardaloedd Ynysoedd yr Alban; a
(b)ystyr “rhanbarth cwota'r Deyrnas Unedig” yw un o ardaloedd Ynysoedd yr Alban neu'r rhanbarth cwota cyffredinol.
14.—(1) mae'r rheoliad hwn yn effeithiol o ran tenantiaethau yn dod i ben ar ôl 31 Mawrth 2005.
(2) Lle —
(a)mae gan denant unrhyw dir mewn daliad gwota sydd wedi'i gofrestru fel cwota sydd ar gael iddo neu iddi;
(b)mae'r cwota wedi'i gofrestru felly ar sail trosglwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 13 na thalwyd am ei gost gan landlord y tenant;
(c)daw tenantiaeth y tir dan sylw i ben heb unrhyw bosibilrwydd y caiff ei hadnewyddu ar delerau tebyg;
(ch)na chytunodd y tenant a'i landlord, ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben, na ddylai'r cwota fod ar gael mwyach i'r tenant; ac
(d)mae'r tenant yn parhau i fod yn gynhyrchwr ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben o ran —
(i)daliad arall, neu
(ii)rhan arall o'r daliad yr oedd y tir yn rhan ohono,
caiff y tenant gyflwyno hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol yn nodi y bydd y cwota ar gael iddo neu iddi yn rhinwedd ei (d)deiliadaeth o'r daliad arall hwnnw neu'r rhan arall honno o'r daliad yr oedd y tir yn rhan ohono.
(3) mae'n rhaid i hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) —
(a)fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu;
(b)cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y daw'r denantiaeth i ben; ac
(c)cynnwys datganiad gan y tenant —
(i)na chytunodd ef neu hi a'i landlord, ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben, y dylid cofrestru'r cwota o ran y daliad sydd bryd hynny yn cynnwys y tir neu, yn ôl y digwydd, y mae'r tir yn rhan ohono, gan nodi meintiau'r cwota a ddefnyddiwyd ac nas defnyddiwyd dan sylw, a
(ii)ei fod/bod yn parhau i fod yn gynhyrchwr.
(4) Lle mae tenant yn cyflwyno hysbysiad yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd ganddo neu ganddi'r hawl i gael iawndal o dan baragraff Atodlen 1 Deddf Amaethyddiaeth 1986(1) pan ddaw'r denantiaeth dan sylw i ben.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), at ddibenion Erthygl 16 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â throsglwyddo cwota dros dro), caiff cynhyrchwr gytuno â chynhyrchwr arall i drosglwyddo dros dro i'r cynhyrchwr arall hwnnw unrhyw gwota nas defnyddiwyd sydd wedi'i gofrestru o dan reoliad 4 fel cwota a ddelir yn barhaol gan y cynhyrchwr os bydd cwota arall (p'un a yw heb ei ddefnyddio ai peidio) yn parhau i fod wedi'i gofrestru felly.
(2) Dim ond yn unol â pharagraff (1) am y cyfryw gyfnod ag a ddaw i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota y gellir trosglwyddo cwota dros dro.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i dâl rhesymol gael ei thalu am gofrestru unrhyw drosglwyddiad cwota dros dro os cyhoeddodd, cyn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota, ei fod yn bwriadu codi'r cyfryw dâl mewn perthynas â'r cyfryw drosglwyddiadau yn y flwyddyn honno yn y cyfryw fodd ag y cred ei fod yn debygol o ddod i sylw cynhyrchwyr.
(4) Lle mae cytundeb i drosglwyddo cwota dros dro yn unol â pharagraff (1), mae'n rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad o'r cytundeb, ynghyd ag unrhyw dâl sy'n daladwy o dan baragraff (3), fel y bydd yr hysbysiad ac unrhyw dâl yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota y trosglwyddir y cwota.
(5) mae'n rhaid i unrhyw hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) fod yn y cyfryw ffurf ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei mynnu.
16.—(1) Ni chaiff neb drosglwyddo cwota pan roddir neu pan ddiddymir —
(a)trwydded i feddiannu tir; neu
(b)tenantiaeth unrhyw dir y delir daliad, neu ran o ddaliad, am gyfnod o lai na deg mis o dani.
(2) Ni chaiff neb drosglwyddo cwota pe bai'r trosglwyddiad yn arwain at gynyddu neu leihau cyfanswm y cwota gwerthiannau cyfanwerthol neu gyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol sydd ar gael i'w defnyddio gan fentrau llaeth a leolir o fewn ardal Ynysoedd yr Alban.
(3) Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen i ddarparu ar gyfer —
(a)danfoniadau, ar ôl addasiad ar gyfer cynnwys braster; a
(b)gwerthiannau uniongyrchol,
a wnaed ganddo neu ganddi cyn dyddiad y trosglwyddiad.
17.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys os na chyflwynir hysbysiad trosglwyddo yn briodol yn unol â rheoliad 9 neu 13.
(2) Ni ddylid trin unrhyw gwota nas defnyddiwyd ac a drosglwyddir fel rhan o'r cwota y mae gan y trosglwyddai hawl iddo ar gyfer y flwyddyn gwota berthnasol, ond rhaid ei drin fel pe bai'n dal i fod yn gwota nas defnyddiwyd ac ar gael lle y bo hynny'n briodol i'w ailddyrannu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y flwyddyn gwota honno yn unol â rheoliad 27 neu 30.
(3) Dim ond o ddechrau'r flwyddyn gwota y derbynnir yr hysbysiad trosglwyddo y mae'r trosglwyddiad cwota yn effeithiol.
(4) Ni fydd y cwota, os o gwbl, a ail-ddyrannwyd i'r trosglwyddai o dan reoliadau 27 neu 30 ar gyfer y flwyddyn gwota berthnasol (neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny) yn cael ei amrywio i ystyried y trosglwyddiad tan y flwyddyn gwota y derbynnir yr hysbysiad trosglwyddo.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “blwyddyn gwota berthnasol” yw —
(a)yn achos hysbysiad y dylid bod wedi'i gyflwyno yn unol â rheoliad 9, y flwyddyn gwota y daw trosglwyddo'r daliad neu'r rhan o'r daliad i rym; a
(b)yn achos hysbysiad y dylid bod wedi'i gyflwyno yn unol â rheoliad 13, y flwyddyn gwota y daw trosglwyddo'r cwota i rym.