- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
25.—(1) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar —
(a)cyfanswm y danfoniadau i brynwyr; a
(b)cyfanswm y cyfryw ddanfoniadau ar ôl addasiad ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.
(2) mae'n rhaid gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at y crynodebau y mae'n rhaid i brynwyr eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Erthygl 8(2) Rheoliadau'r Comisiwn.
(3) Os na chyflwynodd prynwr y crynodebau sy'n ofynnol felly ar gyfer unrhyw flwyddyn gwota neu os na all ddarparu'r cyfryw brawf o faint y llaeth a ddanfonwyd ato neu ati yn y flwyddyn honno ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (1) —
(a)penderfynu ei hun ar y maint hwnnw o laeth yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll sy'n daladwy ar ddanfoniadau a wnaed i'r prynwr hwnnw; a
(b)hysbysu'r prynwr o'i benderfyniad.
(4) Os bydd y maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) yn fwy na'r maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfrifo faint y mae angen lleihau'r holl addasiadau braster menyn tuag i lawr a wnaed cyn hynny yn gymesur er mwyn cynyddu'r maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) fel ei fod yn cyfateb i'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5) Os bydd paragraff (4) yn gymwys, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)hysbysu pob prynwr bod unrhyw addasiadau braster menyn tuag i lawr a wnaed ganddynt yn y danfoniadau atynt wedi'u lleihau; a
(b)nodi'r lleihad.
(6) Os bydd y maint y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn cyfateb i'r un y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu os bydd yn fwy nag ef, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr nad oes angen lleihau unrhyw addasiadau braster menyn tuag i lawr fel hyn.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “addasiad braster menyn tuag i lawr”, o ran danfoniadau at brynwr, yw addasiad i faint y danfoniadau ar gyfer cynnwys braster menyn sy'n arwain at y maint hwnnw yn cael ei leihau at ddibenion cyfrifo'r ardoll yn unol ag Erthygl 10(2) Rheoliad y Cyngor.
26.—(1) Lle mae cyfanswm cwota cyfanwerthol cynhyrchwyr, gan gynnwys cwota a addaswyd, ynghyd â chyfanswm y cwota cyfanwerthol yn y gronfa genedlaethol yn fwy na pha un bynnag yw'r uchaf o—
(a)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a); neu
(b)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(b),
mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu nad oes unrhyw ardoll yn daladwy ar ddanfoniadau.
(2) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr o benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(3) Lle mae cyfanswm cwota cyfanwerthol cynhyrchwyr, gan gynnwys cwota a addaswyd, ynghyd â chyfanswm y cwota cyfanwerthol yn y gronfa genedlaethol yn llai na pha un bynnag yw'r uchaf o—
(a)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a); neu
(b)cyfanswm y danfoniadau y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(b),
mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob prynwr bod ardoll yn daladwy ar b'un bynnag sydd fwyaf o'r danfoniadau.
27.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo'r ardoll ar ddanfoniadau).
(2) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar gyfer pob cynhyrchwr, faint o gwota nas defnyddiwyd (os o gwbl) sydd ar gael i'r cynhyrchwr hwnnw, gan ystyried unrhyw addasiad sydd ei angen o dan reoliad 25(4) ac unrhyw gwota a addaswyd.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu yn unol â pharagraff (2) fod gan gynhyrchwr gwota nas defnyddiwyd, mae'n rhaid iddo —
(a)ychwanegu cyfanswm y cwota nas defnyddiwyd at y gronfa genedlaethol;
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ddyfarnu unrhyw ailddyraniad cwota dros dro yn unol â rheoliad 19; a
(c)ar ôl gwneud y cyfryw ddyfarniad, ailddyrannu unrhyw gwota nas defnyddiwyd sy'n weddill i unrhyw gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau yn fwy na'u cwotâu yn gymesur â'u gwahanol gwotâu.
(4) mae'n rhaid lleihau maint dyfarniad a wneir o dan baragraff (3)(b) yn gymesur os nad oes digon o gwota ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (3)(a) i wneud dyfarniad llawn i bob cynhyrchwr sy'n gymwys i gael dyraniad cwota dros dro o dan reoliad 19.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os nad oes angen yr holl gwota nas defnyddiwyd sydd ar gael i'w ailddyrannu i gynhyrchwr o dan baragraff (3)(c) ar y cynhyrchwr hwnnw i ddarparu ar gyfer ei d(d)anfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailddyrannu'r cwota nas defnyddiwyd nad oes ei angen ymhlith yr holl gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu yn fwy na'u cwota yn gymesur â'u gwahanol gwotâu.
(6) Ni chaiff unrhyw gynhyrchwr unrhyw gwota nas defnyddiwyd o dan baragraff (5) yn fwy na'r cwota y mae arno neu arni ei angen i ddarparu ar gyfer ei d(d)anfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu sy'n fwy na'i gwota/chwota.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “danfoniadau lle mae'r braster menyn wedi'i addasu” yw danfoniadau a addaswyd ar gyfer cynnwys braster menyn yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn.
28.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 10(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo ardoll ar ddanfoniadau).
(2) Ar ôl i'r flwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)canfod pa gynhyrchwyr a wnaeth ddanfoniadau sy'n fwy na'r cwota a ddyrannwyd iddynt ar ôl ystyried unrhyw addasiadau a wnaed o dan reoliadau 25 a 27; wedyn
(b)canfod cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan bob cyfryw gynhyrchwr ar y gyfradd ardoll a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor; ac wedyn
(c)canfod cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan bob prynwr ar ddanfoniadau a wnaed i'r prynwr hwnnw.
29. Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)hysbysu pob prynwr o gyfanswm yr ardoll sy'n daladwy ar ddanfoniadau a wnaed i'r prynwr hwnnw; a
(b)rhoi manylion i'r prynwr hwnnw am gyfanswm yr ardoll y gellir ei briodoli i bob cynhyrchwr a wnaeth ddanfoniadau i'r prynwr hwnnw.
30.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion Erthygl 12 Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â chyfrifo ardoll ar werthiannau uniongyrchol).
(2) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar gyfanswm y cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim gan werthwyr uniongyrchol yn y flwyddyn gwota dan sylw.
(3) mae'n rhaid gwneud penderfyniad o dan baragraff (2) drwy gyfeirio at y datganiadau y mae'n rhaid i werthwyr uniongyrchol eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn.
(4) Os na chyflwynodd gwerthwr uniongyrchol ddatganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer unrhyw flwyddyn gwota yn unol â'r Erthygl honno neu os na all ddarparu'r cyfryw brawf o feintiau'r cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim ganddo neu ganddi yn y flwyddyn honno ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ei fynnu at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (2) —
(a)benderfynu ei hun ar y cyfryw feintiau yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo at ddibenion cyfrifo unrhyw ardoll sy'n daladwy gan y gwerthwr uniongyrchol hwnnw, a
(b)hysbysu'r gwerthwr uniongyrchol o'i benderfyniad.
(5) O ran blwyddyn gwota, lle mae —
(a)cyfanswm cwota gwerthiannau uniongyrchol deiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw gwota a addaswyd; a
(b)cyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol yn y gronfa genedlaethol,
gyda'i gilydd yn fwy na'r cyfanswm y penderfynwyd arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu nad oes unrhyw ardoll o ran gwerthiannau uniongyrchol yn daladwy.
(6) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol o'i benderfyniad a wnaed o dan baragraff (5).
(7) O ran blwyddyn gwota, lle mae —
(a)cyfanswm cwota gwerthiannau uniongyrchol deiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw gwota a addaswyd; a
(b)cyfanswm y cwota gwerthiannau uniongyrchol yn y gronfa genedlaethol,
gyda'i gilydd yn llai na'r cyfanswm y penderfynwyd arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2), mae'r rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu pob gwerthwr uniongyrchol bod ardoll yn daladwy.
(8) Ar ôl i bob blwyddyn gwota ddod i ben, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu o ran pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol faint o gwota gwerthiannau uniongyrchol nas defnyddiwyd sydd ar gael i'r deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol hwnnw yn y flwyddyn gwota dan sylw, gan ystyried unrhyw gwota a addaswyd.
(9) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan baragraff (8) fod gan ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol gwota gwerthiannau uniongyrchol nas defnyddiwyd, mae'n rhaid iddo—
(a)ychwanegu'r cwota hwnnw nas defnyddiwyd at y gronfa genedlaethol; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud y cyfryw ddyfarniadau yn ailddyrannu cwota dros dro o dan reoliad 19 ag y cred ei bod yn briodol eu gwneud.
(10) Os, ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (9)(a), na fydd digon o gwota gwerthiannau uniongyrchol i wneud dyfarniad llawn o dan reoliad 19 i bob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol sy'n gymwys i gael y cyfryw ddyfarniad, caiff maint pob dyfarniad o dan baragraff (9)(b) ei leihau yn gymesur.
(11) O ran y flwyddyn gwota dan sylw, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ganfod wedyn —
(a)faint yn fwy yw'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) na chyfanswm —
(i)cwota gwerthiannau uniongyrchol pob deiliad gwerthiannau uniongyrchol, gan gynnwys cwota a addaswyd, a
(ii)y cwota gwerthiannau uniongyrchol yn gronfa genedlaethol;
(b)cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan ddeiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol drwy luosi'r cyfanswm a nodwyd o dan is-baragraff (a) â'r gyfradd ardoll a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Cyngor; a
(c)faint yn fwy yw'r cyfanswm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) na holl gwota gwerthiannau uniongyrchol y deiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol y mae eu gwerthiannau uniongyrchol yn fwy na'u cwota.
(12) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi'r gyfradd ardoll fesul litr sydd i'w thalu gan bob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol drwy rannu'r cyfanswm a nodwyd yn unol â pharagraff (11)(b) â'r cyfanswm a nodwyd yn unol â pharagraff (11)(c).
(13) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)canfod pa ddeiliaid cwota gwerthiannau uniongyrchol a werthodd neu a drosglwyddodd am ddim gynhyrchion llaeth yn fwy na'r cwota sydd ar gael iddynt gan gynnwys unrhyw gwota a addaswyd ac unrhyw gwota a ailddyrannwyd dros dro drwy ddyfarniad o dan baragraff (9)(b);
(b)canfod cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy gan bob cyfryw ddeiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol ar y gyfradd ardoll a nodwyd yn unol â pharagraff (12); a
(c)hysbysu pob deiliad cwota gwerthiannau uniongyrchol o gyfanswm yr ardoll sy'n daladwy ganddo neu ganddi.
(14) Os na fydd gwerthwr uniongyrchol yn cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 11(2) Rheoliad y Comisiwn ddatganiad o gyfanswm y cynnyrch llaeth a werthwyd neu a drosglwyddwyd am ddim ganddo neu ganddi mewn blwyddyn gwota, y gyfradd ardoll fesul litr y mae'n rhaid i'r gwerthwr uniongyrchol hwnnw ei thalu ar y cyfanswm nas hysbyswyd neu na phenderfynwyd yn ei gylch o dan baragraff (4) yw'r gyfradd a nodir yn Erthygl 2 Rheoliad y Comisiwn.
31.—(1) O ran casglu ardoll, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion deddfwriaeth y Gymuned.
(2) At ddibenion —
(a)Erthygl 11(1) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thalu ardoll gan brynwyr o ran danfoniadau);
(b)Erthygl 12(4) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thalu ardoll gan werthwyr uniongyrchol);
(c)Erthygl 8 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â datganiadau gan brynwyr o ddanfoniadau gan gynhyrchwyr); a
(ch)Erthygl 11 Rheoliad y Comisiwn (sy'n ymwneud â datganiadau o werthiannau uniongyrchol gan gynhyrchwyr);
mae'n rhaid talu'r ardoll a'r cosbau y cyfeirir atynt yn y darpariaethau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) mae paragraff (4) yn gymwys at ddibenion Erthygl 11(3) Rheoliad y Cyngor (sy'n ymwneud â thynnu'r atebolrwydd i dalu ardoll) lle mae cynhyrchwr yn gwneud danfoniadau i brynwr yn mynd dros ei gwota/chwota cyfanwerthol.
(4) Yn dilyn unrhyw addasiad i'r maint a ddanfonir yn unol ag Erthygl 10(1) Rheoliad y Comisiwn, caiff y prynwr dynnu ar unwaith o'r symiau y mae arno neu arni i'r cynhyrchwr o ran y danfoniadau swm sy'n cyfateb i'r ardoll a fyddai fel arall yn daladwy ganddo neu ganddi o ran y maint sydd dros ben.
(5) Lle mae unrhyw ran o'r ardoll heb ei thalu ar ôl 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill yr ardoll sydd heb ei thalu ar y dyddiad hwnnw ynghyd ag unrhyw log o ran pob diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw nes bod y swm hwnnw wedi'i adennill —
(a)oddi wrth y gwerthwr uniongyrchol neu, yn ôl y digwydd, y prynwr; neu
(b)oddi wrth y cynhyrchwr, mewn achos o fewn paragraff (4) —
(i)lle nad yw'r prynwr wedi talu'r ardoll, a
(ii)lle nad yw'r cynhyrchwr wedi talu'r ardoll i'r prynwr naill ai'n uniongyrchol neu thrwy ddidynnu ardoll ac nid yw'r prynwr yn cymryd camau i'w hadennill oddi wrtho neu wrthi.
(6) mae llog o dan baragraff (5) yn daladwy ar y gyfradd o un pwynt canrannol uwchlaw'r gyfradd dri mis sterling a gynigir rhwng banciau Llundain.
(7) Os —
(a)na chymeradwywyd prynwr yn unol â rheoliad 5; neu
(b)tynnwyd cymeradwyaeth prynwr yn ôl gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 23(3) Rheoliad y Comisiwn,
yn ddarostyngedig i baragraff (8), caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynnu y telir unrhyw ardoll sy'n daladwy gan y prynwr nas talwyd ganddo neu ganddi yn y cyfryw gyfrannau ag y gall yn rhesymol eu mynnu gan unrhyw gynhyrchwyr y mae eu danfoniadau i'r prynwr hwnnw wedi arwain at yr atebolrwydd i dalu ardoll.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys o ran cynhyrchwr sydd wedi talu'r prynwr dan sylw naill ai'n uniongyrchol neu drwy ddidynnu'r ardoll sy'n daladwy gan y cynhyrchwr hwnnw.
32.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os —
(a)bydd cynhyrchwr (“A”) yn gwerthu neu'n danfon llaeth neu gynhyrchion llaeth mewn unrhyw flwyddyn gwota o laeth a gynhyrchir gan unrhyw fuchod; a bod
(b)cynhyrchwr arall (“B”), yn hwyrach yn yr un flwyddyn gwota, yn gwerthu neu'n danfon llaeth neu gynhyrchion llaeth o laeth a gynhyrchir o unrhyw un o'r un buchod neu o bob un ohonynt,
ystyrir i B at ddibenion y Rheoliadau hyn wneud y gwerthiannau neu'r danfoniadau hynny fel asiant ar ran A.
(2) Nid yw'r paragraff (1) yn gymwys os —
(a)cytunodd A i werthu neu brydlesu'r buchod dan sylw i B;
(b)cedwir y buchod ar ddaliad B; a
(c)ar ôl gwneud y cytundeb —
(i)mae B wedi ymgymryd â rheoli'r fuches sy'n cynnwys y buchod y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) a'r llaeth a gynhyrchir ganddi, a
(ii)Nid yw A yn cymryd unrhyw ran bellach yn y gwaith o reoli'r fuches honno a'r llaeth a gynhyrchir ganddi.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os —
(a)etifeddodd B y buchod dan sylw gan A; a
(b)cedwir y buchod ar ddaliad B.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: