- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)cadw cofrestr o werthiannau uniongyrchol; a
(b)anfon at bob gwerthwr uniongyrchol gopi o'r cofnod yn y gofrestr o werthiannau uniongyrchol yn ymwneud ag ef neu â hi.
(2) mae'n rhaid i'r gofrestr o werthiannau uniongyrchol gynnwys cofnod o ran pob gwerthwr uniongyrchol yn nodi yn arbennig —
(a)ei (h)enw;
(b)ei gyfeiriad/chyfeiriad masnachu;
(c)cyfeirnod sy'n fodd i'w (h)adnabod;
(ch)y cwota gwerthiannau uniongyrchol sydd ar gael iddo neu iddi ar gyfer y flwyddyn gwota; a
(d)manylion ei (g)werthiannau uniongyrchol.
(3) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)cadw cofrestr gyfanwerthol;
(b)anfon at bob cynhyrchwr cyfanwerthol gopi o'r cofnod yn y gofrestr gyfanwerthol yn ymwneud ag ef neu â hi; ac
(c)anfon at bob prynwr a enwir yn y gofrestr y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(d) gopi o'r rhan honno o'r cofnod yn ymwneud â'i gwota/chwota prynwr.
(4) mae'n rhaid i'r gofrestr gyfanwerthol gynnwys cofnod o ran pob cynhyrchwr cyfanwerthol yn nodi yn arbennig —
(a)ei (h)enw;
(b)ei gyfeiriad/chyfeiriad masnachu;
(c)cyfeirnod sy'n fodd i'w (h)adnabod;
(ch)y cwota cyfanwerthol sydd ar gael iddo neu iddi ar gyfer y flwyddyn gwota; ac
(d)rhestr yn nodi enw a chyfeiriad pob prynwr y caiff ei gwota/chwota ei gyfrifo i ystyried cyfanswm cwota cyfanwerthol y cynhyrchwr cyfanwerthol hwnnw neu ran ohono, a'r cwota cyfanwerthol sydd wedi'i gofrestru gyda phob prynwr, gan ddangos sylfaen cynnwys braster gynrychioliadol y cwota hwnnw wedi'i chyfrifo yn unol ag Erthygl 7 Rheoliad y Comisiwn.
(5) mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)cadw cofrestr o brynwyr; a
(b)anfon at bob prynwr gopi o gofnod y prynwr sy'n ymwneud ag ef neu â hi.
(6) mae'n rhaid i'r gofrestr o brynwyr gynnwys cofnod o ran pob prynwr yn nodi yn arbennig —
(a)ei (h)enw; a
(b)ei gwota/chwota fel prynwr.
(7) At ddibenion paragraffau (1) i (4), lle mae daliad deiliad cwota yn cynnwys mwy nag un fenter laeth, caiff deiliad y cwota hwnnw, ar ôl cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad cydsyniad neu unig fuddiant ynghylch y daliad hwnnw, gytuno â'r Cynulliad Cenedlaethol i rannu'r cwota sydd ar gael i ddeiliad y cwota hwnnw yn ymwneud â'r daliad hwnnw rhwng cofnodion ar wahân yn y gofrestr o werthiannau uniongyrchol neu gofnodion ar wahân yn y gofrestr gyfanwerthol, yn ôl y digwydd.
(8) (a) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y cyfryw ymholiadau ag y cred yn rhesymol eu bod yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y cofrestrau y mae'n ofynnol iddo eu cadw o dan y rheoliad hwn yn gywir;
(b)mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r cofrestrau —
(i)i gofnodi unrhyw ddyraniad neu addasiad a wneir o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu
(ii)gwneud unrhyw gywiriad neu ddiwygiad y cred yn rhesymol ei fod yn ofynnol;
(c)mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu unrhyw berson yr effeithir arno neu arni gan unrhyw gywiriad neu ddiwygiad a wneir ganddo.
(9) Er nad yw person yn gynhyrchwr mwyach, mae'n rhaid iddo neu iddi—
(a)parhau i fod wedi'i gofrestru/chofrestru yn unol â'r rheoliad hwn;
(b)at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau, 6, 7(a) a 33(1), barhau i gael ei (h)ystyried yn gynhyrchwr,
tan ddechrau'r flwyddyn gwota yn dilyn y flwyddyn y trosglwyddwyd y cwota a oedd ar gael iddo neu iddi neu nes bod y cwota wedi'i dynnu yn ôl o dan Erthygl 15 Rheoliad y Cyngor.
(10) mae'r rhwymedigaeth o dan baragraffau (1)(b), (3)(b) ac (c) a (5)(b) yn rhwymedigaeth i anfon copi o —
(a)cofnod; neu
(b)rhan o gofnod,
yn ôl y digwydd, fel y daw i rym ar 1 Ebrill ym mhob blwyddyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: