- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU A LLOEGR
Wedi'i wneud
8 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
2.—(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
3. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion o ran y darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005
Erthygl 2
Adrannau 1 i 6 | At bob diben. |
Adran 7 | Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben. |
Adrannau 8 i 11 | At bob diben. |
Adrannau 13 i 15 | At bob diben. |
Adrannau 17 i 19 | At bob diben. |
Is-adrannau (4) i (6) o adran 20 | At bob diben. |
Is-adrannau (3) a (4) o adran 21 | At bob diben. |
Adrannau 22 i 38 | At bob diben. |
Adran 39 | At bob diben nad yw eisoes wedi'i chychwyn, ond dim ond o ran y cyfrifon neu'r datganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny. |
Adrannau 40 i 49 | At bob diben. |
Adran 50 ac Atodlen 1 | At bob diben nad ydynt eisoes wedi'u cychwyn. |
Adrannau 51 i 53 | At bob diben. |
Adrannau 55 i 57 | At bob diben. |
Rhan 3 | At bob diben. |
Adran 65 | At bob diben. |
Adran 66 ac Atodlen 2 | Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben. |
Adran 67 | At bob diben. |
Adrannau 69 i 70 | At bob diben. |
Adran 72 ac Atodlen 4 | Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben. |
Erthygl 3
1. Er i adran 7 ac Atodlen 4 ddod i rym, mae adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3) yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe na bai'r Ddeddf wedi'i diddymu, i'r graddau y mae'n ymwneud â ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Cynulliad a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.
2.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys er—
(a)i adran 67 a pharagraffau 35, 36 a 38(3) o Atodlen 2, a
(b)i'r geiriau “or the National Assmebly for Wales” yn adran 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 gael eu diddymu(4).
(2) Mae pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan adrannau 27 a 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym, o ran cyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.
3. Er i is-adrannau (1) a (2) o adran 69 a pharagraff 38(3) o Atodlen 2 ddod i rym—
(a)mae adran 2 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i barhau i fod yn gymwys i gyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) at ddibenion —
(i)adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno, i'r graddau bod yn ddarpariaeth honno'n cael ei harbed gan is-baragraff (c); a
(ii)adran 18 o'r Ddeddf honno, i'r graddau mae'r adran honno yn cael ei harbed gan is-baragraff (b);
(b)mae adran 18 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym—
(i)i'r graddau y mae'n ymwneud â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005; a
(ii)er mwyn i swyddogaeth archwilydd o dan is-adran (1) o'r adran honno fod yn arferadwy yn unig o ran mater y mae etholwr llywodraeth leol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ei gylch o dan adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno;
(c)mae hawliau etholwr llywodraeth leol o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i ddod gerbron archwilydd ac i gyflwyno gwrthwynebiadau i aros mewn grym i'r graddau —
(i)y mae'r gwrthwynebiad yn ymwneud ag unrhyw fater y gallai archwilydd gymryd camau yn ei gylch o dan adran 18(1) o'r Ddeddf honno fel y mae wedi'i harbed gan is-baragraff (b);
(ii)mai cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) yw'r cyfrifon dan sylw; a
(iii)yr oedd y cyfrifon dan sylw wedi'u paratoi o ran blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau cyn 1 Ebrill 2005.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Yn bennaf, mae'r Gorchymyn hwn yn cwblhau'r broses o ddod â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) i rym yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau neu Atodlenni, oni nodir fel arall, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu Atodlenni iddi.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau'r Ddeddf a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005. Oni phennir fel arall yn ail golofn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, neu yn Atodlen 2 iddo, daw'r darpariaethau hynny i rym ar y dyddiad hwnnw at bob diben.
Effaith gyffredinol darpariaethau'r Ddeddf y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym yw rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith fwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw y bydd yr Archwilydd Cyffredinol, o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr (“y Comisiwn Archwilio”).
Mae Rhan 1 o'r Ddeddf (adrannau 1 i 11) yn ymdrin â darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Rhan 1 yn ymdrin â sut y cyllidir y swyddfa honno ac mae hefyd yn ymdrin â materion staffio a materion gweinyddol ac mae'n darparu ar gyfer swyddogaethau ychwanegol yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae Rhan 2 o'r Ddeddf (adrannau 12 i 59) yn ymdrin â chyrff llywodraeth leol yng Nghymru (fel y'u diffinnir yn adran 12) yng nghyd-destun y trefniadau newydd a gynigir gan y Ddeddf. O dan ddarpariaethau Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 (“Deddf 1998”), mae'r Comisiwn Archwilio ar hyn o bryd yn gyfrifol am benodi archwilwyr cyfrifon y cyrff hyn. O ran cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, mae'r Ddeddf yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw i Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae Rhan 3 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 64) yn ychwanegu cyfrifoldeb am archwilio cyfrifon cyrff GIG Cymru (fel y'u diffinnir yn adran 60) at gylch gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae Rhan 4 o'r Ddeddf (adrannau 65 i 75) yn cynnwys darpariaethau amrywiol, trosiannol a chyffredinol.
Mae Atodlen 1 yn ymdrin â diwygiadau i'r broses o archwilio trefniadau Gwerth Gorau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae Atodlen 2 yn ymdrin â mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n angenrheidiol oherwydd y Ddeddf. Mae Atodlen 3, a gychwynnwyd eisoes, yn nodi'r trefniadau ar gyfer cynlluniau trosglwyddo statudol manwl sy'n ofynnol o dan y Ddeddf ac mae Atodlen 4 yn nodi'r diddymiadau perthnasol.
Mae erthygl 3 ac Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion.
Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn sicrhau na all Archwilydd Cyffredinol Cymru godi ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru am archwilio'i gyfrifon am y flwyddyn ariannol 2004—05. Mae'r ddarpariaeth hon yn angenrheidiol gan y bydd y gwaith archwilio yn cael ei wneud ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, ond mae'n ymwneud â chyfnod pan oedd adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwahardd Archwilydd Cyffredinol Cymru rhag codi am y gwaith hwnnw.
Mae paragraff 2 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn cadw pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau cyfrifon ac archwilio o dan Ddeddf 1998 o ran cyfrifon am y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005. Am y blynyddoedd ariannol ar ôl hynny, bydd y Cynulliad yn gwneud rheoliadau o'r fath o dan adran 39 o'r Ddeddf.
Mae paragraff 3 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn arbed, o ran cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, ddarpariaethau adran 18 o Ddeddf 1998, sy'n darparu pwerau i adennill symiau nad oes cyfrif amdanynt, a darpariaethau perthnasol eraill y Ddeddf honno. (Nid yw'r arbediad yn gymwys i un dosbarth ar gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, sef awdurdodau heddlu, gan fod darpariaethau perthnasol Deddf 1998 eisoes wedi cael eu diddymu, o'u rhan, gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000). Nid yw'r arbediad ond yn gymwys i gyfrifon y cyrff dan sylw am y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005. Mae hefyd yn gyfyngedig i sefyllfa pan fo etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal corff perthnasol wedi cyflwyno gwrthwynebiad o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf 1998.
Is-adrannau (1) i (5) o adran 54, sy'n gosod cyfyngiadau ar yr amgylchiadau pan fydd modd datgelu gwybodaeth benodol a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru neu archwilydd, yw unig ddarpariaethau'r Ddeddf na fyddant yn effeithiol pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn )
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn (ym mhob achos) | O.S. Rhif (ym mhob achos) |
---|---|---|
Adran 12 | 31 Ionawr 2005 | 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3) |
Adran 16 | ||
Is-adrannau (1) i (3) o adran 20, at ddibenion rhagnodi graddfeydd ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon a baratowyd o ran blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny. | ||
Is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 | ||
Adran 39, at ddibenion ymgynghori ynghylch rheoliadau a gwneud rheoliadau o ran cyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny | ||
Adran 50 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 1, at ddibenion gwneud y canlynol yn effeithiol: (a) paragraff 1 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n angenrheidiol at ddibenion (b) isod, a (b) paragraff 7 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n darparu i adran 8A newydd gael ei mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. | ||
Is-adrannau (6) i (8) o adran 54 | ||
Adran 58 | ||
Adran 59 | ||
Adran 68 ac Atodlen 3 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: