ATODLEN 2Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

Erthygl 3

Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i godi ffi am archwilio cyfrifon.1

Er i adran 7 ac Atodlen 4 ddod i rym, mae adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983 yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe na bai'r Ddeddf wedi'i diddymu, i'r graddau y mae'n ymwneud â ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Cynulliad a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Rheoliadau cyfrifon ac archwilio2

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys er—

a

i adran 67 a pharagraffau 35, 36 a 38(3) o Atodlen 2, a

b

i'r geiriau “or the National Assmebly for Wales” yn adran 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 gael eu diddymu4.

2

Mae pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan adrannau 27 a 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym, o ran cyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Deddf y Comisiwn Archwilio 1998: darpariaethau ynghylch adennill symiau nad oes cyfrif amdanynt3

Er i is-adrannau (1) a (2) o adran 69 a pharagraff 38(3) o Atodlen 2 ddod i rym—

a

mae adran 2 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i barhau i fod yn gymwys i gyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) at ddibenion —

i

adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno, i'r graddau bod yn ddarpariaeth honno'n cael ei harbed gan is-baragraff (c); a

ii

adran 18 o'r Ddeddf honno, i'r graddau mae'r adran honno yn cael ei harbed gan is-baragraff (b);

b

mae adran 18 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym—

i

i'r graddau y mae'n ymwneud â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005; a

ii

er mwyn i swyddogaeth archwilydd o dan is-adran (1) o'r adran honno fod yn arferadwy yn unig o ran mater y mae etholwr llywodraeth leol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ei gylch o dan adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno;

c

mae hawliau etholwr llywodraeth leol o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i ddod gerbron archwilydd ac i gyflwyno gwrthwynebiadau i aros mewn grym i'r graddau —

i

y mae'r gwrthwynebiad yn ymwneud ag unrhyw fater y gallai archwilydd gymryd camau yn ei gylch o dan adran 18(1) o'r Ddeddf honno fel y mae wedi'i harbed gan is-baragraff (b);

ii

mai cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) yw'r cyfrifon dan sylw; a

iii

yr oedd y cyfrifon dan sylw wedi'u paratoi o ran blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau cyn 1 Ebrill 2005.