2005 Rhif 69 (Cy.7)
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), (2) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2005.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
2
Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20003 fel a ganlyn.
3
Yn Atodlen 1—
a
yn lle paragraff 13 rhodder y canlynol —
13
Os yw'n hysbys,
a
y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
b
y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20034; a
c
y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)5 o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.
b
hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen.
4
Yn Atodlen 2—
a
yn lle paragraff 5 rhodder y canlynol —
5
Os yw'n hysbys,
a
y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
b
y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a
c
y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.
b
hepgorer paragraff 6(d) ar “a” o'i flaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau )