Search Legislation

Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 700 (Cy.59) (C.30)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005

Wedi'i wneud

15 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(6) o Ddeddf Plant 2004(1), gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 2004.

Y Diwrnod Penodedig

2.—(116 Mawrth 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 42 a 43 o'r Ddeddf i rym.

(21 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 35, 36, 37, 38, 39, 40 a 41 o'r Ddeddf i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 2004 (“y Ddeddf”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 35 i 43 o'r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, sy'n ymwneud â swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru a Lloegr, i rym. Daw adrannau 42 a 43 sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo a staff i rym ar 16 Mawrth 2005 a daw adrannau 35 i 41 ac Atodlen 3 i rym ar 1 Ebrill 2005.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau Deddf Plant 2004 y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr ar y dyddiad a bennir wrth ymyl O.S. 2005/394 C.18, ac eithrio pan fo cofnod yn dangos bod darpariaeth wedi'i dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr.

DarpariaethDyddiad Cychwyn
Adran 101 Ebrill 2005
Adran 11(yn rhannol)1 Mawrth 2005
Adran 11 (y gweddill)1 Hydref 2005
Adran 13(yn rhannol)1 Mawrth 2005
Adran 14 (yn rhannol)1 Mawrth 2005
Adran 16 (yn rhannol)1 Mawrth 2005
Adran 171 Mawrth 2005
Adran 181 Ebrill 2005
Adran 201 Mawrth 2005
Adran 211 Mawrth 2005
Adran 221 Mawrth 2005
Adran 231 Mawrth 2005
Adran 241 Ebrill 2005
Adran 44 (yn rhannol)1 Ebrill 2005
Adran 44 (y gweddill)1 Gorffennaf
Adran 48 (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 5 a 7 o Atodlen 41 Mawrth 2005
Adran 501 Mawrth 2005
Adran 51 (yn rhannol)1 Ebrill 2005
Adran 521 Gorffennaf
Adran 531 Mawrth 2005
Adran 541 Mawrth 2005
Adran 551 Ebrill 2005
Adran 571 Mawrth 2005
Adran 60 o ran Cymru a Lloegr1 Mawrth 2005
Rhan 1 o Atodlen 51 Mawrth 2005
Rhan 2 o Atodlen 5 (yn rhannol)1 Mawrth 2005
Rhannau 3 a 4 o Atodlen 51 Ebrill 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources