xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002(1) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5—
(a)yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;
(b)yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.