2006 Rhif 116 (Cy.14)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1) a (3), 70(1), 71(1), 74(1), 74A, 77(4), 78(6) a (10), 79(1), (2) a (9), a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701 a chan ei fod wedi ei ddynodi2 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a mesurau o ran bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd ar gyfer neu a fwydir i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran 2(2) a enwyd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir uchod), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol dan adran 84(1) o'r Ddeddf a enwyd neu fel bo'n briodol dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd4, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: