Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1275 (Cy.121)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

9 Mai 2006

Yn dod i rym

3 Gorffennaf 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y gellir eu harfer o ran Cymru (2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Gorffennaf 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd mewn swydd daledig neu gyflogaeth, o dan awdurdod perthnasol;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “camau disgyblu” (“disciplinary action”) mewn perthynas ag aelod o staff awdurdod perthnasol yw unrhyw weithred a achosir gan gamymddwyn honedig a fuasai, o'i phrofi, yn ôl trefn arferol yr awdurdod, yn cael ei chofnodi ar ffeil bersonol yr aelod o'r staff, ac sy'n cynnwys unrhyw gynnig i ddiswyddo aelod o'r staff am unrhyw reswm ac eithrio colli swydd, afiechyd parhaol neu lesgedd meddwl neu gorff, ond nid yw'n cynnwys methiant i adnewyddu contract cyflogaeth am dymor penodol oni ymrwymodd yr awdurdod perthnasol i adnewyddu'r cyfryw gontract;

ystyr “cydbwyllgor perthnasol” (“relevant joint committee”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw cydbwyllgor y cynrychiolir yr awdurdod perthnasol arno;

ystyr “ Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2002 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(3);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Gwener y Groglith, gwyl banc yng Nghymru neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus (ac ystyr “gŵ yl banc” yw diwrnod i'w gadw ato felly dan adran 1 ac Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(4));

mae i “maer etholedig”, “corff gweithredol”, “trefniadau gweithredol” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr sydd i “elected mayor”, “executive”, “executive arrangements” ac “executive leader” yn Rhan II o Ddeddf 2000;

ystyr “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) yw'r swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig);

ystyr “prif swyddog” (“chief officer”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw–

(a)

pennaeth ei wasanaeth taledig;

(b)

ei swyddog monitro;

(c)

prif swyddog statudol a grybwyllir ym mharagraff (a), (c) neu (d) o adran 2(6) o Ddeddf 1989, neu

(ch)

prif swyddog anstatudol (yn ystyr adran 2(7) Deddf 1989);

ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;

ystyr “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”) yw'r swyddog sydd â chyfrifoldeb, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5) (gweinyddiaeth gyllidol) am weinyddu materion cyllidol yr awdurdod lleol;

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993(6);

mae i “rheolwr cyngor” (“council manager”) yr un ystyr ag yn adran 11(4)(b) o Ddeddf 2000;

ystyr “swyddog monitro” (“monitoring officer”) yw swyddog a ddynodwyd dan adran 5(1) o Ddeddf 1989(7) (dynodiad ac adroddiadau swyddog monitro); ac

mae i “trefniadau amgen” yr un ystyr sydd i “alternative arrangements” yn Rhan II o Ddeddf 2000 (trefniadau parthed cyrff gweithredol etc.).

Rheolau sefydlog yn ymwneud â phrif swyddogion

3.  Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran penodi ei brif swyddogion–

(a)wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r canlynol–

(i)y darpariaethau a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, neu

(ii)ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith, neu

(iii)ddarpariaethau sydd yn ymgorffori effaith y darpariaethau hynny a addaswyd fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan 2 o'r Atodlen honno; a

(b)addasu unrhyw reolau sefydlog sydd yn bodoli ar hyn o bryd i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny;

ac ni ddylent wedi hynny amrywio rheolau sefydlog a wnaed neu a addaswyd felly ac eithrio o ran ymgorffori darpariaeth a gaiff yr effaith a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith.

Rheolau Sefydlog yn ymwneud â Chyfarfodydd a Thrafodion

4.—(1Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran y materion a grybwyllir ym mharagraff (2)–

(a)wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a

(b)addasu unrhyw reolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

(2Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw–

(a)cofnodi pleidleisiau'r awdurdod perthnasol neu unrhyw rai o'i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, neu o unrhyw gydbwyllgor perthnasol, neu is-bwyllgor o unrhyw bwyllgor o'r fath; a

(b)llofnodi cofnodion yr awdurdod perthnasol.

Trefniadau gweithredol- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

5.—(1Yn amodol ar baragraff (3) o reoliad 11, pan fydd awdurdod perthnasol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf 2000, rhaid iddo pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym:

(a)lle bo corff gweithredol awdurdod perthnasol ar ffurf a bennir yn adran 11(2) o Ddeddf 2000 (maer a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff(8) y darpariaethau a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith;

(b)lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(3) o Ddeddf 2000 (arweinydd a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac

(c)lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(4) o Ddeddf 2000 (maer a rheolwr gweithredol cyngor), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac

(ch)addasu unrhyw rai o'u rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (b) ac (c).

(2Pan fo awdurdod perthnasol wedi ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog fel ym mharagraff (1) rhaid iddo, lle bwriada newid ei drefniadau gweithredol fel y bydd y corff gweithredol ar ffurf wahanol, wneud amrywiadau i'w reolau sefydlog i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), (b), (c) neu (d) o baragraff (1), pa un bynnag sydd yn gymwys, ar neu cyn y dyddiad pryd y dechreua weithredu'r trefniadau gweithredol newydd hynny.

Trefniadau amgen- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

6.  Yn amodol ar baragraff (3) rheoliad 11, rhaid i awdurdod perthnasol sy'n gweithredu trefniadau amgen o dan Ran II o Ddeddf 2000 wneud y canlynol–

(a)ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 4 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a

(b)addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a).

Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

7.  Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau ym mharagraff 4(1) Rhan 1, paragraff 4(1) o Ran 2 neu baragraff 4 o Ran 4 Atodlen 3 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith), rhaid i'r pŵ er i gymeradwyo penodiad neu ddiswyddiad pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod gael ei arfer gan yr awdurdod perthnasol ei hun, ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer gweithredu swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i arfer y pŵ er hwnnw.

Rheolau sefydlog o ran camau disgyblu

8.  Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran camau disgyblu yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid–

(a)ymgorffori mewn rheolau sefydlog y darpariaethau a osodir yn Atodlen 4 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a

(b)addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

Ymchwilio i gamymddwyn honedig

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (11), ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw'n ymddangos i'r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn–

(a)pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;

(b)ei swyddog monitro; neu

(c)ei brif swyddog cyllid,

(“y swyddog perthnasol”), yn ôl y digwydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.

(2Rhaid i'r pwyllgor ymchwilio:

(a)cynnwys 3 aelod o leiaf o'r awdurdod perthnasol;

(b)bod yn wleidyddol gytbwys yn unol ag adran 15 o Ddeddf 1989; a

rhaid iddo, cyn pen 1 mis ar ôl ei benodiad, ystyried yr honiad o gamymddwyn a phenderfynu a ddylid ymchwilio iddo ymhellach.

(3At ddibenion ystyried yr honiad o gamymddwyn, caiff y pwyllgor ymchwilio:

(a)holi'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol;

(b)gofyn i'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol i roi iddo yr wybodaeth honno, yr esboniad hwnnw neu'r dogfennau hynny y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol o fewn terfyn amser penodedig; ac

(c)derbyn sylwadau ysgrifenedig neu lafar oddi wrth y swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol.

(4Os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ymchwilio y dylai honiad o gamymddwyn gan y swyddog perthnasol gael ei ymchwilio ymhellach, rhaid iddo benodi person (“y person annibynnol dynodedig”) at ddibenion y rheol sefydlog sy'n ymgorffori'r darpariaethau yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith).

(5Rhaid mai'r person annibynnol dynodedig sy'n cael ei benodi–

(a)yw'r person hwnnw y cytunir arno rhwng yr awdurdod perthnasol a'r swyddog perthnasol o fewn 1 mis o'r dyddiad y cododd y gofyniad i benodi'r person annibynnol dynodedig; neu

(b)os nad oes cytundeb o'r fath, y person hwnnw a enwebir at y diben gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6O ran y person annibynnol dynodedig–

(a)caiff gyfarwyddo–

(i)bod yr awdurdod perthnasol yn diweddu unrhyw ataliad dros dro ar y swyddog perthnasol;

(ii)bod unrhyw ataliad dros dro o'r fath i barhau ar ôl i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 3 o Atodlen 4 ddod i ben (neu mewn darpariaethau sy'n cael yr un effaith);

(iii)bod telerau unrhyw ataliad dros dro o'r fath sydd wedi digwydd i'w hamrywio yn unol â'r cyfarwyddyd; neu

(iv)nad oes camau i'w cymryd (p'un ai gan yr awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol) o ran camau disgyblu neu gamau disgyblu pellach yn erbyn y swyddog perthnasol heblaw camau a gymerir ym mhresenoldeb, neu gyda chytundeb, y person annibynnol dynodedig, cyn bod adroddiad wedi'i lunio o dan is-baragraff (ch);

(b)caiff arolygu unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud ag ymddygiad swyddog perthnasol sydd ym meddiant yr awdurdod perthnasol, y mae gan yr awdurdod y pŵ er i awdurdodi'r person annibynnol dynodedig i'w harchwilio;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw aelod neu aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn ateb cwestiynau ynghylch ymddygiad y swyddog perthnasol;

(ch)rhaid iddo lunio adroddiad i'r awdurdod perthnasol–

(i)yn datgan barn a yw'r dystiolaeth a gafwyd (ac, os felly, i ba raddau) y mae'r dystiolaeth a gafwyd yn ategu unrhyw honiad o gamymddwyn yn erbyn y swyddog perthnasol; a

(ii)yn argymell unrhyw gamau disgyblu sy'n ymddangos yn briodol i'r awdurdod perthnasol eu cymryd yn erbyn y swyddog perthnasol, a

(d)rhaid iddo heb fod yn hwyrach na'r amser y llunnir yr adroddiad o dan is-baragraff (ch), anfon copi o'r adroddiad at y swyddog perthnasol.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r swyddog perthnasol a'r awdurdod perthnasol, ar ôl ymghynghori â'r person annibynnol dynodedig, geisio cytuno ar amserlen y mae'r person annibynnol dynodedig i ymgymryd â'i ymchwiliad yn unol â hi.

(8Pan na cheir cytundeb o dan baragraff (7), rhaid i'r person annibynnol dynodedig osod amserlen y mae'r person hwnnw'n ystyried ei bod yn briodol y dylid ymgymryd â'r ymchwiliad yn unol â hi.

(9Rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a gafodd ei baratoi o dan baragraff (6)(ch) o fewn 1 mis ar ôl cael yr adroddiad hwnnw.

(10Rhaid i awdurdod perthnasol dalu tâl rhesymol i berson annibynnol dynodedig a benodwyd gan y pwyllgor ymchwilio ac unrhyw gostau a dynnir wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn neu mewn cysylltiad â chyflawni'r swyddogaethau hynny.

(11Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys o ran pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod os yw'r person hwnnw hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod perthnasol(9).

Dirymu Rheoliadau 1993

10.  Dirymir trwy hyn Reoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru ac eithrio i'r graddau eu bod yn gymwys i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

Darpariaethau trosiannol ac ôl-ddilynol

11.—(1Yn amodol ar baragraff (2), lle gwnaeth awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1993 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith), yna hyd nes y bydd yr awdurdod perthnasol yn ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog hynny yn unol â rheoliad 8, bydd rheoliad 9 yn gymwys o ran y rheolau sefydlog hynny o ran pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod fel y byddai o ran rheolau sefydlog sydd yn ymgorffori darpariaethau yn unol â rheoliad 8.

(2Parthed unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, gan, i, neu mewn perthynas â swyddog yn unol â'r canlynol–

(a)rheoliad 3 o reoliadau 1993;

(b)y darpariaethau a osodir ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1993 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith) a ymgorfforwyd yn rheolau sefydlog yr awdurdod perthnasol; neu

(c)rheoliad 9 fel y'i cymhwysir gan baragraff (1),

gellir parhau i'w wneud wedi'r dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r swyddog hwnnw yn unol â'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a), (b) neu (c), pa un bynnag sy'n briodol.

(3Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â gofynion rheoliad 5 neu, yn ôl y digwydd, rheoliad 6 mor fuan ag sy'n rhesymol ymarferol wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mai 2006

Rheoliad 3

ATODLEN 1RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â PHRIF SWYDDOGION

RHAN 1Rheolau Sefydlog Rhagnodedig

Penodiadau

1.  Lle bwriada'r awdurdod perthnasol benodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006), ac na fwriedir gwneud y penodiad yn unig o blith ei swyddogion presennol, rhaid iddo wneud y canlynol–

(a)llunio datganiad yn manylu am–

(i)ddyletswyddau'r swyddog dan sylw, a

(ii)unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;

(b)trefnu i'r swydd gael ei hysbysebu yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy'n gymwys i ymgeisio amdani; ac

(c)trefnu i gopi o'r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw berson sy'n gwneud cais.

2.(1) Lle hysbysebwyd swydd yn ôl darpariaeth paragraff 1(b), rhaid i'r awdurdod perthnasol weithredu fel a ganlyn–

(a)cyfweld yr holl ymgeiswyr cymwys am y swydd, neu

(b)ddewis rhestr fer o'r cyfryw ymgeiswyr cymwys a chyfweld y rhai ar y rhestr fer.

(2) Lle nad ymgeisiodd unrhyw berson cymwys, neu os bydd yr awdurdod perthnasol yn ailhysbysebu'r swydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol wneud trefniadau pellach i hysbysebu yn unol â pharagraff 1(b).

RHAN 2Amrywiadau Awdurdodedig

1.  Gall y rheolau sefydlog wneud y darpariaethau canlynol–

(a)gall y camau a gymerwyd o dan baragraff 1 neu 2 uchod gael eu cymryd gan bwyllgor, is-bwyllgor neu brif swyddog yr awdurdod perthnasol;

(b)gellir penodi unrhyw brif swyddog gan bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol, neu gydbwyllgor perthnasol.

2.  Gall y rheolau sefydlog wneud darpariaeth, lle bo dyletswyddau prif swyddog yn cynnwys cyflawni swyddogaethau dau neu fwy o awdurdodau perthnasol yn rhinwedd adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972–

(a)gall y camau a gymerwyd dan baragraff 1 neu 2 uchod gael eu cymryd gan gydbwyllgor yr awdurdodau perthnasol hynny, is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu brif swyddog unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol dan sylw; a

(b)gellir penodi unrhyw brif swyddog gan y cyfryw gydbwyllgor, is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu bwyllgor neu is-bwyllgor o unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol hynny.

3.  Gellir eithrio o gymhwyso paragraff 1 a 2–

(a)unrhyw benodiad prif swyddog anstatudol (o fewn ystyr adran 2(7)(a) neu (b) o Ddeddf 1989), a

(b)unrhyw benodiad yn rhinwedd adran 9 (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol) y Ddeddf, ac

(c)unrhyw benodiad yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (cymhorthydd y maer).

Rheoliad 4

ATODLEN 2RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â CHYFARFODYDD A THRAFODION

Cofnodi pleidleisiau

1.(1) Lle, yn union wedi cymryd pleidlais mewn cyfarfod o gorff perthnasol, bo unrhyw aelod o'r corff hwnnw yn mynnu hynny, rhaid cofnodi yng nghofnodion trafodion y cyfarfod hwnnw a fwriodd y person hwnnw bleidlais dros y cwestiwn neu yn erbyn y cwestiwn neu a ataliodd y person hwnnw rhag pleidleiso.

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw'r awdurdod perthnasol, pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol neu gyd-bwyllgor neu is-bwyllgor perthnasol o'r cyfryw bwyllgor.

Llofnodi cofnodion- cyfarfodydd arbennig

2.  Lle mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod o'r awdurdod perthnasol y bydd y cyfryw gyfarfod nesaf yn gyfarfod a elwir dan baragraff 3 (cyfarfodydd arbennig) o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, rhaid trin cyfarfod dilynol nesaf yr awdurdod perthnasol (sef cyfarfod a elwir heb fod o dan y paragraff hwnnw) fel cyfarfod addas at ddibenion paragraff 41(1) a (2) (llofnodi cofnodion) yr Atodlen honno(11).

Rheoliad 5(1) a 6

ATODLEN 3DARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI MEWN RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â STAFF

RHAN 1Awdurdod gyda Maer a Chabinet Gweithredol

1.  Yn y Rhan hon–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(12);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(13);

mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan y swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.

3.  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–

(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(14) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(15) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);

(dd)person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu

(e)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(16) yn gymwys iddo.

4.(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.

(2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) neu (ch) o baragraff 3–

(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a

(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.

5.  Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

RHAN 2Awdurdod gydag Arweinydd a Chabinet Gweithredol

1.  Yn y Rhan hon–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth o dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

mae gan “corff gweithredol” (“executive”) ac “arweinydd gweithredol” (“executive leader”) yr un ystyr ag yn Rhan II o Ddeddf 2000;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(17);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(18);

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaethau penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael eu cyflawni gan y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiadau ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.

3.  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–

(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(19) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(20) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu

(dd)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(21) yn gymwys iddo.

4.(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, yn ôl y digwydd, rhaid cymeradwyo'r diswyddiad cyn rhoi rhybudd diswyddo.

(2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) o baragraff 3–

(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredol fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a

(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o gorff gweithredol yr awdurdod perthnasol.

5.  Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan–

(a)person arall yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phenodi'r person arall hwnnw fel aelod o staff yr awdurdod perthnasol; neu

(b)aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

RHAN 3Awdurdod gyda Maer a Rheolwr Gweithredol y Cyngor

1.  Yn y Rhan hon–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod perthnasol;

mae i “camau disgyblu” yr un ystyr sydd i “disciplinary action” yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(22); ac

mae i “reolwr cyngor” yr un ystyr sydd i “council manager” yn adran 11(4)(b) o Ddeddf 2000.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 4, rhaid i swyddogaeth penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol gael ei chyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan reolwr y cyngor neu gan swyddog a enwebwyd gan reolwr y cyngor.

3.  Ni fydd paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–

(a)rheolwr y cyngor(23);

(b)rhywun a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(24) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu

(c)rhywun a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu

(ch)person y mae Rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(25) yn gymwys iddo.

4.  Nid oes dim ym mharagraff 2 yn atal person rhag gwasanaethu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

RHAN 4Awdurdod sy'n Gweithredu Trefniadau Amgen

1.  Yn y Rhan hon–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006; ac

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(26).

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaeth penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael ei chyflawni gan y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiadau ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth yr awdurdod.

3.  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–

(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(27) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog yn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989; neu

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(28) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu

(dd)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(29) yn gymwys iddo.

4.  Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo cyn rhoi rhybudd diswyddo.

5.  Nid oes dim ym mharagraff 2 yn atal person rhag gwasanaethu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

Rheoliad 8

ATODLEN 4DARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI YN Y RHEOLAU SEFYDLOG PARTHED CAMAU DISGYBLU

1.  Ym mharagraff 2, mae i “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”), “rheolwr cyngor” (“council manager”), “camau disgyblu” (“disciplinary action”), “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) a “swyddog monitro” (“monitoring officer”), yr un ystyr ag yn rheoliad 2 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 ac y mae i “person annibynnol dynodedig” (“designated independent person”) yr un ystyr ag yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hynny.

2.  Ni ellir cymryd camau disgyblu parthed pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod (oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod), ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid, ac eithrio camau a ddisgrifir ym mharagraff 3, gan yr awdurdod perthnasol, neu gan bwyllgor, is-bwyllgor, cydbwyllgor lle cynrychiolir yr awdurdod perthnasol neu gan unrhyw un sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol, ac eithrio yn unol ag argymhelliad mewn adroddiad a wnaed gan berson annibynnol dynodedig dan reoliad 9 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (ymchwilio i gamymddwyn honedig).

3.  Y cam a grybwyllir ym mharagraff 2 yw atal dros dro y swyddog at ddibenion ymchwilio i'r camymddwyn honedig sy'n peri'r cam hwn; rhaid i unrhyw atal dros dro o'r fath fod ar gyflog llawn, a rhaid iddo derfynu ddim hwyrach nac ar derfyn dau fis yn cychwyn ar y diwrnod y daw'r atal dros dro i rym.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”) ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol ymgorffori darpariaethau penodol yn eu rheolau sefydlog sydd yn ymwneud â'u staff, cyfarfodydd a'u trafodion.

Mae Rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynol i awdurdodau perthnasol wneud y cyfryw ddarpariaeth mewn perthynas â phenodi prif swyddogion. Mae Rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i reolau sefydlog gael eu gwneud mewn perthynas â chofnodi pleidleisiau, a llofnodi cofnodion mewn cyfarfodydd arbennig.

Mae'n ofynnol i awdurdodau perthnasol yng Nghymru wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a osodir yn y Rheoliadau, neu ddarpariaethau fydd yn cael yr un effaith.

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol ffurfio cynigion i weithredu trefniadau gweithredol (lle mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb corff gweithredol) neu, yn achos rhai awdurdodau, i weithredu trefniadau amgen. Yn achos trefniadau gweithredol, rhaid i gorff gweithredol yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11 o Ddeddf 2000.

Rhaid i awdurdod perthnasol sydd yn gweithredu trefniadau gweithredol fod â rheolau sefydlog sydd yn ymwneud â'i staff sy'n cynnwys y darpariaethau a osodir yn Atodlen 3. Rhaid i'r rheolau sefydlog fod yn rhai priodol ar gyfer ffurf penodol y corff gweithredol (fel y'u gosodir yng ngwahanol Rannau Atodlen 3) ac, os bydd i'r ffurf honno newid, rhaid amrywio'r rheolau sefydlog yn unol â hynny (rheoliad 5).

Rhaid i awdurdod perthnasol sydd yn gweithredu trefniadau amgen fod â rheolau sefydlog ynglŷn â'i staff sydd yn cynnwys y darpariaethau a osodir yn Rhan 4 Atodlen 3 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith) (rheoliad 6).

Nid ymdrinnir â phenodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgol a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol yn y Rheoliadau hyn ond mewn rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002 (gweler, ar hyn o bryd, Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/ 873 (Cy.81)).

Rhaid i awdurdod perthnasol, yng nghyswllt camau disgyblu yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid, wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith). Rhaid gwneud y cyfryw reolau sefydlog ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol a ddaw wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym (rheoliad 8).

Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ystyriaeth gan bwyllgor ymchwilio o honiad o gamymddwyn a wneir yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod (oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod), ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid ac mae'n rhagnodi gweithdrefn ar gyfer ymchwiliad pellach gan berson annibynnol, a dylid dilyn y weithdrefn hon lle'r honnir camymddwyn gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid y mae'r pwyllgor ymchwilio, ar ôl iddo ystyried y mater, o'r farn y dylid ymchwilio iddo ymhellach. Cynhwyswyd darpariaethau tebyg yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993 (“Rheoliadau 1993”) mewn perthynas â phennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod. Wedi i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a baratowyd dan baragraff 6(ch), rhaid i'r awdurdod perthnasol wedyn gydymffurfio â'r gweithdrefnau statudol ar gyfer gwrandawiadau disgyblu.

Mae Rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau 1993 i'r graddau eu bod yn ymestyn i Gymru (ond nid mewn perthynas ag Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru).

Mae Rheoliad 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â rheolau sefydlog sydd yn bodoli eisoes ar gyfer camau disgyblu a waned o dan Reoliadau 1993.

(1)

1989 p.42. Diwygiwyd adran 8 gan O.S. 2002/803 (Cy. 88).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 8, 20 a 190, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672 ); gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

(7)

Is-adran (1) o adran 5 (fel y'i diwygiwyd).

(8)

Gweler paragraff 42 Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

(9)

Ni chaiff swyddog monitro na phrif swyddog cyllid awdurdod fod yn rheolwr cyngor. Gweler paragraff 13(b) ac (c) Atodlen 1 i Ddeddf 2000.

(10)

1998 p.38.

(11)

Diwygiwyd paragraff 41 gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

(12)

1989 p.42.

(13)

2000 p.22.

(14)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(15)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(16)

2002 p.32.

(17)

1989 p.42.

(18)

2000 p.22.

(19)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(20)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(21)

2002 p.32.

(22)

2000 p.22.

(23)

Penodir rheolwr y cyngor i'r corf gweithredu gan yr awdurdod. Gweler adran 11(4)(b) a (10) o Dddeddf 2000.

(24)

1989 p.42. Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(25)

2002 p.32.

(26)

1989 p.42.

(27)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(28)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(29)

2002 p.32.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources