- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 5(1) a 6
“1. Yn y Rhan hon–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;
mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);
mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.
2. Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan y swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.
3. Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–
(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(3) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(4) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);
(dd)person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu
(e)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(5) yn gymwys iddo.
4.—(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.
(2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) neu (ch) o baragraff 3–
(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.
5. Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.”
“1. Yn y Rhan hon–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth o dan yr awdurdod;
mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
mae gan “corff gweithredol” (“executive”) ac “arweinydd gweithredol” (“executive leader”) yr un ystyr ag yn Rhan II o Ddeddf 2000;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(7);
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.
2. Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaethau penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael eu cyflawni gan y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiadau ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.
3. Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–
(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(8) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(9) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu
(dd)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(10) yn gymwys iddo.
4.—(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, yn ôl y digwydd, rhaid cymeradwyo'r diswyddiad cyn rhoi rhybudd diswyddo.
(2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) o baragraff 3–
(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredol fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o gorff gweithredol yr awdurdod perthnasol.
5. Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan–
(a)person arall yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phenodi'r person arall hwnnw fel aelod o staff yr awdurdod perthnasol; neu
(b)aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.”
“1. Yn y Rhan hon–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod perthnasol;
mae i “camau disgyblu” yr un ystyr sydd i “disciplinary action” yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(11); ac
mae i “reolwr cyngor” yr un ystyr sydd i “council manager” yn adran 11(4)(b) o Ddeddf 2000.
2. Yn amodol ar baragraffau 3 a 4, rhaid i swyddogaeth penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol gael ei chyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan reolwr y cyngor neu gan swyddog a enwebwyd gan reolwr y cyngor.
3. Ni fydd paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–
(a)rheolwr y cyngor(12);
(b)rhywun a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(13) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu
(c)rhywun a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu
(ch)person y mae Rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(14) yn gymwys iddo.
4. Nid oes dim ym mharagraff 2 yn atal person rhag gwasanaethu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.”
“1. Yn y Rhan hon–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;
mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006; ac
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(15).
2. Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaeth penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael ei chyflawni gan y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiadau ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth yr awdurdod.
3. Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–
(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(16) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
(ch)dirprwy brif swyddog yn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989; neu
(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(17) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu
(dd)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(18) yn gymwys iddo.
4. Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo cyn rhoi rhybudd diswyddo.
5. Nid oes dim ym mharagraff 2 yn atal person rhag gwasanaethu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.”
Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).
Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).
Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Penodir rheolwr y cyngor i'r corf gweithredu gan yr awdurdod. Gweler adran 11(4)(b) a (10) o Dddeddf 2000.
1989 p.42. Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).
Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: