Enwi a dehongli
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2
–
1
2
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
Y Diwrnod penodedig
3
Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru.
4
–
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr.
2
Nid yw adrannau 41 a 42 i ddod i rym ond i'r graddau eu bod yn gymwys i ysgolion arbennig o'r disgrifiad sydd yn adran 28(2)(d).
5
Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion6
Mae'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985