Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1338 (Cy.130) (C.45)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

16 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 120(2) a 125(4) o Ddeddf Addysg 2005(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.

2.  

(1Yn y Gorchymyn hwn–

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996(2);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(4); ac

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.

Y Diwrnod penodedig

3.  Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru.

4.  

(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr.

(2Nid yw adrannau 41 a 42 i ddod i rym ond i'r graddau eu bod yn gymwys i ysgolion arbennig o'r disgrifiad sydd yn adran 28(2)(d).

5.  Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr.

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

6.  Mae'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mai 2006

Erthygl 3

ATODLEN 1Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 44Categorïau o ysgolion sy'n peri pryder.
Adran 45Achosion pan gaiff y Cynulliad gyfarwyddo cau ysgol.
Adran 46Dosbarthiadau chwech y mae gofyn eu gwella'n sylweddol.
Adran 47Ystyr “denominational education”.
Adran 51Pŵer yr AALl i arolygu ysgol a gynhelir at ddiben penodol.
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 y cyfeirir atynt isod.Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Adran 54Arolygu ysgolion annibynnol.
Adran 58Arolygu cofnodion cyfrifiadurol.
Adran 59Adroddiadau cyfunol.
Adran 60Diddymu Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996.
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod.Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Adran 71Cynigion sy'n ymwneud ag ysgolion arbennig a gynhelir.
Adran 105Darparu a chyllido addysg uwch mewn ysgolion a gynhelir.
Adran 106Trefniadau derbyn i wneud darpariaeth arbennig i blant sy'n derbyn gofal.
Adran 115Pwer corff llywodraethu i wneud darpariaeth amgen ar gyfer disgyblion sydd wedi'u gwahardd.
Adran 116Rhiant yn methu â sicrhau bod plentyn yn mynychu'r ddarpariaeth amgen.
Adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod.Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4.
Adran 118Ystyr “the 2002 Act” yn Rhan 4.
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod.Diddymiadau.
Atodlen 5Dosbarthiadau chwech y mae angen eu gwella'n sylweddol.
Paragraffau 6 i 24 o Atodlen 7.Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Atodlen 8Arolygu ysgolion annibynnol.
Paragraffau 8 i 21 a 28 i 30 o Atodlen 9.Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Paragraffau 1, 6 a 15 o Atodlen 18.Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4.
Yn Atodlen 19, Rhan 1:Diddymiadau
Y diddymiadau sy'n ymwneud â: Deddf Addysg 1996, Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996, Deddf Addysg 1997, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (ac eithrio adran 81), Deddf Addysg 2002.Diddymiadau.

Erthygl 4

ATODLEN 2Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 19Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Adran 20Swyddogaethau'r Prif Arolygydd.
Adran 21Adroddiadau blynyddol ac adroddiadau eraill i'r Cynulliad.
Adran 22Pŵer y Cynulliad i sefydlu panel cynghorol.
Adran 23Pwerau mynediad etc y Prif Arolygydd.
Adran 24Pŵer y Prif Arolygydd i drefnu arolygiadau.
Adran 25Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru.
Adran 26Tynnu arolygwyr o'r Gofrestr a gorfodi ac amrywio amodau.
Adran 27Apelau ynghylch cofrestru.
Adran 28Dyletswydd i drefnu bod ysgolion penodol yn cael eu harolygu'n rheolaidd.
Adran 29Cyhoeddi adroddiadau arolygu.
Adran 30Talu ffioedd i Gronfa Gyfunol.
Adran 31Dehongli Pennod 3.
Adran 32Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth.
Adran 33Dyletswydd i roi adroddiad ar arolygiadau adran 28.
Adran 34Arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig.
Adran 35Adroddiadau ar Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth.
Adran 36Amseru arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig.
Adran 37Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder.
Adran 38Cyrchfan adroddiadau: ysgolion a gynhelir.
Adran 39Datganiad i'w baratoi gan awdurdod priodol i'r ysgol.
Adran 40Datganiad i'w baratoi gan awdurdod addysg lleol.
Adran 41Cyrchfan adroddiadau: ysgolion nas cynhelir.
Adran 42Datganiad i'w baratoi gan berchennog ysgol.
Adran 43Dehongli Pennod 4.
Adran 50Arolygu addysg grefyddol: Cymru.
Adran 52Darparu gwasanaethau arolygu gan AALl yng Nghymru.
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 7.Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod.Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Adran 123, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod.Diddymiadau.
Atodlen 2Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Atodlen 3Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru: Tribiwnlysoedd sy'n gwrando apelau o dan adran 27.
Atodlen 4Arolygiadau Ysgolion yng Nghymru o dan adran 28.
Atodlen 6Arolygiadau o addysg enwadol yng Nghymru.
Paragraff 5 o Atodlen 7.Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Paragraffau 6, 7, 22 , 24, 25 a 27 o Atodlen 9.Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Yn Atodlen 19, Rhan 1, yn Neddf Plant 1989, diddymu yn adran 79T(2)(a) y geiriau “the quality and standards of”.Diddymiadau.

Erthygl 5

ATODLEN 3Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 55Arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.
Adran 56Arolygu gwasanaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.
Adran 57Arolygiadau o dan adrannau 55 a 56: darpariaethau pellach.
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud a darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod.Diddymiadau.
Yn Atodlen 19, Rhan 1, y diddymiadau yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a diddymiad adran 81 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.Diddymiadau.

Erthygl 6

ATODLEN 4DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

1.  Mae paragraffau 2 i 5 o'r Atodlen hon yn gymwys er i adran 60 (Diddymu Deddf 1996) gael ei dwyn i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

2.  Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol wedi'i wneud o dan Ddeddf 1996 a phan fo'r adroddiad hwnnw wedi nodi bod gofyn cymryd camau arbennig mewn perthynas â'r ysgol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod gofyn cymryd camau arbennig o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–

(a)adrannau 34(7)(b) a 35(2)(b) a (5)(b); a

(b)adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998 (ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder).

3.  Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad o ysgol yn un a wnaed o dan y Ddeddf honno ac a nododd fod gan yr ysgol wendidau difrifol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod yr ysgol yn un yr oedd gofyn ei gwella'n sylweddol o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–

(a)adrannau 34(8)(b) a 35(3)(b) a (6)(b); a

(b)adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998.

4.  Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol yn un a wnaed o dan Ddeddf 1996 ac a nododd fod gan yr ysgol ddosbarth chwech diffygiol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad arolygiad a nododd fod gofyn gwella sylweddol ar ddosbarth chwech yr ysgol at ddibenion adran 113 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7 iddi (fel y'i diwygiwyd gan adran 46 o Ddeddf 2005 ac Atodlen 5 iddi).

5.  Pan fo hysbysiad apêl yn cael ei gyflwyno i'r tribiwnlys cyn 1 Medi 2006, mae adran 27 ac Atodlen 3 i fod yn gymwys i'r apêl fel petai is-adran (2) o adran 27 yn cael ei hepgor.

6.  Er i adran 27 ac Atodlen 3 iddi gael eu dwyn i rym, ac er i adran 9 o Ddeddf 1996 ac Atodlen 2 iddi gael eu diddymu, oll gan y Gorchymyn hwn ar 1 Medi 2006, mae unrhyw reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1996 sydd mewn grym ar 31 Awst 2006 (“y Rheoliadau presennol”) i barhau i fod yn effeithiol o ran Cymru hyd at y dyddiad pryd y daw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3 ddod i rym, fel petai'r Rheoliadau presennol wedi cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwnnw o'r Atodlen honno.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Addysg 2005 (“Deddf 2005”) i gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n dwyn i rym holl ddarpariaethau Deddf 2005 sy'n gofyn am orchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w dwyn i rym, ac eithrio adran 101 ac Atodlen 16 (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir, ac adran 70 (a diwygiad canlyniadol perthynol yn Atodlen 12) ynghylch cynigion i gau ysgolion cynradd gwledig. Er hynny, dygir adrannau 41 a 42 i rym yn unig wrth eu cymhwyso i ysgolion arbennig o'r math y cyfeirir ato yn adran 28(2)(d).

Ar wahân i ddarpariaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru ac a ddygir i rym gan y Gorchymyn ar 1 Ebrill 2007 (gweler Atodlen 3), dygir y darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn i rym ar 1 Medi 2006 (gweler Atodlenni 1 a 2). Dygir y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 i rym o ran Cymru yn unig. Am resymau technegol, mae'r rhai a restrir yn Atodlenni 2 a 3 yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr, ond at ddibenion ymarferol, nid ydynt yn gymwys yn Lloegr.

Mae disgrifiad cryno isod o'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn. Yn yr hyn a ganlyn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.

Darpariaethau yn Rhan 1 a ddygir i rym gan y Gorchymyn

Gan mwyaf, mae darpariaethau ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Gymru i'r rhai sy'n gymwys i Loegr. Mae penodau 1 a 2 o Ran 1 o Ddeddf 2005, a ddaeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol (7 Ebrill 2005) yn ddarpariaethau newydd nad ydynt yn gymwys ond i Loegr. O ran Lloegr, maent yn disodli'r gyfraith sy'n ymwneud ag arolygiadau ysgolion yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1966 (“Deddf 1996”). Yn rhinwedd adran 62 gellir cyflwyno system debyg i Gymru os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gwneud hynny ac ar adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phenderfynu. Yn y cyfamser, mae darpariaethau Rhan 1 (gan gynnwys Atodlenni 1 - 9) a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn gan mwyaf yn ailddeddfu Deddf 1996 fel y mae'n gymwys i Gymru. Diddymir y Ddeddf honno yn ei chyfanrwydd gan adran 60. Ar wahân i'r darpariaethau a ailddeddfir, mae'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer arolygu'r gwasanaethau gyrfaoedd, ac yn gwneud rhai diwygiadau (diwygiadau canlyniadol at ei gilydd) i amrywiol ddeddfiadau sy'n ymwneud ag arolygiadau (gan gynnwys deddfiadau sy'n ymwneud ag arolygu dosbarthiadau chwech; gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin; ac ysgolion annibynnol) - Atodlenni 5 i 9.

Ymhlith y newidiadau sylweddol y mae–

  • darpariaeth newydd ar gyfer arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru (adrannau 55 - 57)

  • pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyngor ar benodi neu ddiswyddo Prif Arolygydd Cymru, ac i sefydlu bwrdd cynghori i roi cyngor ynghylch swyddogaethau'r Prif Arolygydd (adrannau 19 a 22)

  • newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder; yn enwedig, yn y ffordd y mae'r ysgolion hynny i'w categoreiddio mewn adroddiadau arolygu (Pennod 5 o Ran 1)

  • O ran arolygiadau o addysg grefyddol, mae gofyniad newydd i ysgolion eglwysig ymgynghori â phersonau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn dewis arolygydd (adran 50)

  • darpariaeth newydd sy'n galluogi gwneud adroddiadau cyfunol o ran arolygiadau a wneir o dan Ddeddf 2005 ac amryw o ddeddfiadau eraill sy'n ymwneud ag addysg a phlant (adran 59)

Darpariaethau yn Rhannau 2 a 4 a ddygir i rym gan y Gorchymyn

Mae adran 71 yn diwygio adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i wneud ymgynghori yn ofynnol o ran cynigion penodol sy'n ymwneud ag ysgol arbennig a gynhelir.

Mae adran 73 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 2.

Mae adran 105 yn mewnosod adran 28A newydd yn Neddf Addysg 2002 sy'n rhoi pwerau cyfyngedig i ysgolion a gynhelir gynnig cyrsiau addysg uwch i'w disgyblion.

Mae adran 106 yn mewnosod adran 89(1A) newydd yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ynghylch trefniadau derbyn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Mae adran 115 yn diwygio adran 29(3) o Ddeddf Addysg 2002 (ynghylch pŵer corff llywodraethu ysgol i gyfarwyddo disgyblion i fynychu darpariaeth addysgol amgen).

Mae adran 116 yn mewnosod adran newydd 444ZA yn Neddf Addysg 1996 ynghylch methiant â sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol a hysbysiadau cosb.

Mae adran 117 yn cyflwyno Atodlen 18 sy'n diwygio amryw o ddeddfiadau.

Mae adran 118 yn diffinio “the 2002 Act” at ddibenion Rhan 4.

Mae adran 123 yn cyflwyno Atodlen 19 (Diddymu).

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaethu trosiannol ac arbedion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources