Search Legislation

Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1512 (Cy.148)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

13 Mehefin 2006

Yn dod i rym

14 Mehefin 2006

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan reoliadau Eneffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(3).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw gwartheg yn cynnwys buail a byfflo (gan gynnwys byfflo dŵr);

ystyr “BSE” (“BSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf buchol;

mae gan “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(4);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

Iawndal am anifeiliaid buchol sy'n cael eu cigydda oherwydd TSE

3.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal–

(a)pan fo anifail yn cael ei ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006;

(b)pan fo anifail i'w ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, a bod yr anifail wedi ei brisio ar gyfer pwrpasau iawndal, ond fod yr anifail yn marw (neu yn cael ei ladd am resymau eraill) wedi prisio; neu

(c)lle bo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad symud o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 a bod yn rhaid ei ladd fel mater o frys, a bod milfeddyg wedi datgan yn ysgrifenedig y byddai'r anifail fel arall wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(5), ac os felly yr iawndal yw gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).

Swm yr iawndal sy'n daladwy

4.—(1Yr iawndal yw'r pris cyfartalog a delir ym Mhrydain fawr am anifail o'r oed a'r categori hwnnw o anifail–

(a)yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri; ac

(b)yn achos unrhyw anifail buchol eraill, yn y mis blaenorol

(2Anifail pedigri yw anifail sydd wedi cael tystysgrif pedigri gan sefydliad neu gymdeithas bridwyr sy'n cyflawni amodau Penderfyniad y Cyngor 84/247/EEC sy'n gosod y meini prawf ar gyfer cydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy'n cadw llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth buchol(6).

(3Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gategoreiddio anifeiliaid fel a ganlyn, ac at bwrpas penderfynu ynglŷn â pha gategori i roi'r anifail, oed yr anifail yw'r oed, fel y dangosir gan ei basport gwartheg, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o'r bwriad i'w ladd.

Categorïau

GwrywMenyw
Sector Eidion—anifail sydd ddim yn bedigri
Hyd at ac yn cynnwys 3 misHyd at ac yn cynnwys 3 mis
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 misDros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnnwys 9 misDros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 9 mis
Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 misDros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 misDros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 misDros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis
Dros 20 mis–Dros 20 mis–
Teirw bridioWedi bwrw llo
ArallHeb fwrw llo
Sector Llaeth—anifail sydd ddim yn bedigri
Hyd at ac yn cynnwys 3 misHyd at ac yn cynnwys 3 mis
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 misDros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 misDros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 misDros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 misDros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis
Dros 20 misDros 20 mis–
Wedi bwrw lloHeb fwrw llo
Sector Eidion — anifail pedigri
6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 misDros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis
Dros 24 misDros 24 mis (heb fwrw llo)
Wedi bwrw llo o dan 36 mis
Wedi bwrw llo 36 mis a drosodd
Sector Llaeth—anifail pedigri
Hyd at ac yn cynnwys 2 fisHyd at ac yn cynnwys 2 fis
Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 12 misDros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 10 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 misDros 10 mis hyd at ac yn cynnwys 18 mis
Dros 24 misDros 18 mis (heb fwrw llo)
Wedi bwrw lllo o dan 36 mis
Wedi bwrw llo 36 mis a throsodd

Eithriadau i'r swm o iawndal sydd yn daladwy

5.—(1Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r data i gyfrifo'r pris cyfartalog yn ddigonol, yna mae'n rhaid iddo dalu iawndal–

(a)am anifeiliaid yn y categori hwnnw, y pris cyfartalog a gyfrifwyd yn flaenorol yn fwyaf diweddar lle roedd digon o ddata i gyfrifo'r pris cyfartalog; neu

(b)pris y farchnad, am yr anifail unigol.

(2Ar gyfer byfflo neu bison, yr iawndal yw pris y farchnad.

(3Pris y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am anifail unigol oddi wrth brynwr yn y farchnad agored adeg prisio pe na bai'n ofynnol lladd yr anifail o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, wedi ei gyfrifo o dan reoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Trosgwlyddadwy (Cymru) 2006, gyda'r ffioedd am enwebu'r prisiwr a ffioedd y prisiwr yn daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Dirymu

6.  Dirymir Rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan III o Atodlen 1, rheoliad 17 o Ran IV o Atodlen 6A a rheoliadau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda anifail buchol, o Reoliadau TSE (Cymru) 2002(7)pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn peri cigydda anifail buchol o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda anifail buchol yw y pris cyfartalog a dalwyd ym Mhrydain Fawr ar gyfer oed a chategori yr anifail yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri, ac ar gyfer unrhyw anifail buchol arall yn y mis blaenorol.

Yr iawndal ar gyfer Byffalo a Buail yw pris y farchnad.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339.

(5)

OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22.

(6)

OJ Rhif L125, 12.05.1984, t.58.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources