xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1535 (Cy.152)(C.54)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

13 Mehefin 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 76(6), 250(2) a 270(4), (5) a (10) o Ddeddf Tai 2004(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

(1)

2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 270(4), (5) a (10) yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.