Search Legislation

Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3

YR ATODLEN

RHAN 1CAMAU O DAN DDEDDF 1985 SY'N YMWNEUD AG ANFFITRWYDD

Hysbysiadau trwsio

1.—(1Bydd hysbysiad trwsio a gyflwynwyd o dan adran 189 neu 190 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad trwsio—

(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 189(4) neu 190(4) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu

(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 191 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.

(3Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2007, ni fydd diddymu adrannau 189 i 208, 345, 398, 604 a 604A o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

(4Pan fo—

(a)apêl ynglŷn â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a

(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 191(3) o Ddeddf 1985,

rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.

(5Bydd hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2007 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.

(6Ni fydd diddymu adran 191(3A)(b) o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn a wnaed gan lys o dan y paragraff hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.

(7Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 4(2) o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 (sy'n diwygio Deddf Iawndal Tir 1973) yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

Gorchmynion cau

2.—(1Bydd gorchymyn cau a wnaed o dan adran 264 neu 368(4) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n orchymyn y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i orchymyn cau—

(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 268(2) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu

(b)y mae apêl yn ei gylch wedi'i dwyn o dan adran 269 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.

(3Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd y canlynol yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)diddymu adrannau 264, 267(2) a (3), 269(2A) a (3A), 276 i 278, 368, 395, 396, 397, 604 a 604A o Ddeddf 1985;

(b)y diddymiadau yn adrannau 317, 319(1)(b) a 323 o'r Deddf honno; ac

(c)y diwygiadau a wnaed gan adran 48(2) a (4) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13, 14, 22, 26, 27 a 33 o Atodlen 15 iddi.

(4Pan fo—

(a)apêl ynglŷn â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a

(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 269(3A) o Ddeddf 1985,

rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.

(5Bydd gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2008 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.

(6Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan—

(a)paragraffau 3, 4(3), 5 a 6 o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 (sy'n diwygio Deddf Iawndal Tir 1973); a

(b)paragraffau 30 a 31 o'r Atodlen honno (sy'n cymryd lle'r darpariaethau iawndal yn Neddf Tai 1985),

yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn cau y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

Gorchmynion dymchwel

3.—(1Bydd gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 neu 279 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n orchymyn y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i orchymyn dymchwel—

(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 268(2) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu

(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 269 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.

(3Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd y canlynol yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)diddymu adrannau 269(2A) a (3A), 604 a 604A o Ddeddf 1985;

(b)y diddymiadau yn adran 323 o'r Deddf honno; ac

(c)y diwygiadau a wnaed gan adrannau 46 a 48(2) i (4) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13 i 18, 21, 22, 26, 27 a 33 o Atodlen 15 iddi.

(4Pan fo—

(a)apêl ynglŷn â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a

(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 269(3A) o Ddeddf 1985,

rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os byddant wedyn yn ystyried cymryd camau o fath a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 Act ynglŷn â'r fangre o dan sylw.

(5Yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (3)—

(a)bydd adran 275 o Ddeddf 1985 (gorchmynion dymchwel: amnewid gorchmynion cau) yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo fel petai—

(i)y geiriau “and make a closing order as respects the premises” yn is-adran (1) wedi'u hepgor; a

(ii)y geiriau canlynol wedi'u rhoi yn lle is-adran (2)—

(2) The authority must serve notice that the demolition order has been determined on every person on whom they would be required by section 268 to serve a copy of a demolition order as respects the premises.; a

(b)bydd is-adran (2) o adran 304 o Ddeddf 1985 (gorchymyn cau sydd i'w wneud ynglŷn ag adeilad rhestredig sy'n ddarostyngedig i adran 265) yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn o'r fath fel petai'r geiriau “and they must serve notice that the demolition order has been determined on every person on whom they would be required by section 268 to serve a copy of a demolition order as respects the premises” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau ar ôl “operative”.

(6Bydd gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2008 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.

(7Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan—

(a)paragraffau 3, 4(3), 5 a 6 o Atodlen 15 i Ddeddf 2004; a

(b)paragraffau 30 a 31 o'r Atodlen honno,

yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn dymchwel y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

Gorchmynion adeilad rhwystrol

4.  Bydd gorchymyn adeilad rhwystrol a gyflwynwyd o dan adran 284 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r gorchymyn cyn y dyddiad hwnnw.

Ardaloedd clirio

5.—(1Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 47 o Ddeddf 2004, a pharagraffau 19, 22, 26 a 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas ag ardal y datganwyd ei bod yn ardal glirio o dan adran 289(3)(b) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, cyn y dyddiad cychwyn—

(a)wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 289(2B)(a) o Ddeddf 1985 o'i fwriad i gynnwys adeilad mewn ardal sydd i ddod yn ardal glirio; ond

(b)heb basio penderfyniad o dan adran 289(3)(b) o'r Deddf honno yn datgan bod yr ardal yn ardal glirio.

(3Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)bydd yr hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol; a

(b)bydd gofynion adran 289(2B)(b) ac (c) a (2F) yn peidio â bod yn gymwys i'r awdurdod tai lleol.

Prynu tai sy'n agored i gael eu dymchwel neu eu cau

6.—(1Bydd hysbysiad o benderfyniad i brynu mangre a gyflwynwyd o dan adran 300(2)(a) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad o benderfyniad—

(a)sydd wedi dod yn weithredol o dan adran 268(2) o Ddeddf 1985(1) cyn y dyddiad cychwyn; neu

(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 269 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.

(3Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 48(2) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 13, 14, 20, 21, 26 a 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad o benderfyniad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

Cynigion perchennog ar gyfer ailddatblygu

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyflwynwyd i awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) o adran 308 o Ddeddf 1985 (cymeradwyo cynigion perchennog ar gyfer ailddatblygu) cyn y dyddiad cychwyn.

(2Pan na fydd hysbysiad o dan is-adran (2) o'r adran honno wedi'i roi cyn y dyddiad hwnnw, bydd yr awdurdod yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ofynion yr is-adran honno ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), bydd unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr is-adran honno cyn y dyddiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad ag ef cyn y dyddiad hwnnw.

(4Os bydd yr awdurdod, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn ystyried cymryd camau o fath a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud â hi, rhaid i'r awdurdod, pan fydd yn gwneud ei benderfyniad, gymryd i ystyriaeth yr hysbysiad ac i ba raddau y bwriwyd ymlaen â'r ailddatblygu yn unol â'r cynigion ac o fewn y terfynau amser a bennwyd yn yr hysbysiad (yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad neu estyniad a gymeradwywyd gan yr awdurdod cyn y dyddiad hwnnw).

Cynigion perchennog ar gyfer gwella neu newid

8.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd unrhyw gynigion a gyflwynwyd gan berchennog, neu dystysgrif a ddyroddwyd gan awdurdod tai lleol, o dan adran 310 o Ddeddf 1985 (gwelliannau neu newidiadau gan berchennog) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â hwy cyn y dyddiad hwnnw.

(2Ni fydd diddymu adran 311(2) o Ddeddf 1985 (cynigion sydd i'w trin fel gwrthwynebiad i orchymyn prynu gorfodol) yn effeithiol mewn perthynas â chynigion—

(a)a gyflwynwyd gan berchennog o dan adran 310 o'r Deddf honno; a

(b)a drosglwyddwyd gan yr awdurdod tai lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 311(1) o'r Deddf honno,

cyn y dyddiad cychwyn.

Awdurdodiad gan lys i gyflawni gwaith ar fangre anffit etc.

9.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 48(5) o Ddeddf 2004, a pharagraffau 25 i 27 o Atodlen 15 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â chais a wnaed i'r llys o dan adran 318 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.

Hysbysiadau gohirio gweithredu etc.

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), bydd unrhyw hysbysiad gohirio gweithredu a gyflwynwyd o dan adran 81 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“Deddf 1996”) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.

(2Ni fydd diddymu adran 86 o Ddeddf 1996 (anffitrwydd i breswyliad dynol etc: pŵer i wella gweithdrefnau gorfodi) yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw apêl a ddygir o dan adran 191 (hysbysiadau trwsio) neu 269 (gorchmynion cau a gorchmynion dymchwel) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.

(3Ni fydd diddymu adrannau 87 (anffitrwydd i breswyliad dynol etc: pŵer i godi tâl am gamau gorfodi) ac 88 (adennill tâl am gamau gorfodi) yn effeithiol mewn perthynas â'r canlynol—

(a)unrhyw gamau a grybwyllir yn adran 87(1) o'r Deddf honno ac sydd wedi'u cymryd cyn y dyddiad cychwyn ; neu

(b)apêl fel a grybwyllir yn adran 87(6) o'r Deddf honno, a honno'n apêl sydd wedi'i dwyn cyn y dyddiad hwnnw.

RHAN 2MESURAU SY'N YMWNEUD Å THAI AMLFEDDIANNAETH O DAN RAN 11 O DDEDDF TAI 1985

Dehongli'r Rhan hon

1.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “bloc fflatiau perthnasol a addaswyd” yw adeilad neu ran o'r adeilad sydd—

(i)yn floc fflatiau a addaswyd ac y mae adran 257 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo; a

(ii)yn dŷ amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf 1985;

(b)ystyr “HMO rhagnodedig” yw HMO(2) sy'n dod o dan y disgrifiad a ragnodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn Gorchymyn a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2004; ac

(c)ystyr “cynllun perthnasol” yw cynllun cofrestru a wnaed o dan adran 346 o Ddeddf 1985 sy'n cynnwys unrhyw un o'r darpariaethau rheoli neu'r darpariaethau rheoli arbennig a ddisgrifir yn adran 347, 348, 348A, 348B, 348C, 348D, 348E neu 348F o'r Deddf honno.

(2Ni fydd diddymu adrannau 345, 398, 399 a 400 o Ddeddf 1985 (sy'n rhoi ystyron ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 11 o Ddeddf 1985) yn effeithiol i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n berthnasol i ddehongli unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon sy'n cyfeirio at Ran 11 o'r Deddf honno neu unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan 11 honno.

Cynlluniau Cofrestru

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adrannau 346, 346A, 346B, 347, 348, 348A i 348G, 350, 351 a 395 i 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gynllun cofrestru sydd—

(a)yn cydymffurfio â chynllun model a baratoir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 346B o Ddeddf 1985; neu

(b)sy'n cael ei gadarnhau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y dyddiad cychwyn,

i'r graddau y mae'r cynllun hwnnw'n gymwys i floc fflatiau perthnasol sydd wedi'i addasu.

(2Ni chaniateir i unrhyw gynllun cofrestru newydd gael ei wneud o dan adran 346(1) ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn.

(3Er gwaethaf diddymu adrannau 346 a 347 o Ddeddf 1985, caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio'r wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gofrestr y mae wedi'i llunio a'i chynnal o dan adran 346—

(a)at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig ag arfer unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod o dan Rannau 1 i 4 o Ddeddf 2004 mewn perthynas â HMOs; neu

(b)at ddibenion ymchwilio a oes unrhyw dramgwydd wedi'i gyflawni o dan unrhyw un o'r Rhannau hynny neu o dan Ran 11 o Ddeddf 1985 mewn perthynas â HMOs.

Ardaloedd y bernir eu bod wedi'u dynodi o dan adran 56 o Ddeddf 2004

3.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw ardal y mae awdurdod tai lleol wedi gwneud cynllun perthnasol ar ei chyfer.

(2Ar y dyddiad cychwyn bernir bod awdurdod tai lleol wedi dynodi, o dan adran 56(1) o Ddeddf 2004, bob ardal y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddi yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol mewn perthynas â'r HMOs a gofrestrwyd o dan gynllun o'r fath.

(3Mae dynodiad y bernir ei fod wedi'i wneud o dan is-baragraff (2) yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn.

(4Nid yw gofynion adrannau 56(2) i (6), 57, 58 a 59(1) a (2) o Ddeddf 2004 yn gymwys o ran dynodiadau y bernir eu bod wedi'u gwneud o dan is-baragraff (2).

(5Mae is-baragraffau (6), (7) ac (8) yn gymwys i ddynodiad y bernir ei fod wedi'i wneud o dan is-baragraff (2).

(6O fewn y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn, rhaid i'r awdurdod tai lleol gyhoeddi hysbysiad sy'n datgan pa ardaloedd yn ei ddosbarth sy'n ardaloedd dynodedig o ganlyniad i gael eu hystyried yn ardaloedd dynodedig o dan is-baragraff (2) yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (7).

(7Rhaid i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi'n unol â rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 59 a 60 o Ddeddf 2004

(8Mae adran 60 o Ddeddf 2004 (hyd y dynodiad, adolygu'r dynodiad a'i ddirymu) yn gymwys i ddynodiad y bernir ei fod wedi'i wneud o dan is-adran (2) ac, at ddibenion is-adran (2) o'r adran honno, bernir bod yr awdurdod tai lleol wedi pennu 16 Mehefin 2009 fel yr amser y mae'r dynodiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol.

HMOs a gofrestrir o dan gynlluniau perthnasol penodol: trefniadau trosiannol ynghylch cyflwyno trwyddedau

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i HMO sydd yn union cyn y dyddiad cychwyn wedi'i gofrestru o dan gynllun perthnasol ac sydd naill ai—

(a)yn HMO rhagnodedig; neu

(b)wedi'i leoli mewn ardal y bernir bod dynodiad wedi'i wneud ynglŷn â hi o dan baragraff 3(2).

(2Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i HMO sy'n floc fflatiau a addaswyd ac y mae adran 257 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo.

(3Bernir bod awdurdod tai lleol wedi rhoi trwydded ar gyfer HMO y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo i unrhyw berson yr oedd, cyn y dyddiad cychwyn, wedi'i gofnodi ar y gofrestr a awdurdodwyd gan y cynllun perthnasol fel y person sy'n rheoli'r HMO.

(4Yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, o ran trwydded y bernir ei bod wedi'i rhoi o dan is-baragraff (3)—

(a)rhaid iddi gael ei thrin at holl ddibenion Deddf 2004 fel trwydded o dan Ran 2 o'r Deddf honno;

(b)rhaid barnu bod y dyddiad cychwyn wedi'i bennu ynddi fel y dyddiad y mae'r drwydded yn dod i rym;

(c)onid yw wedi'i therfynu o'r blaen gan adran 68(7) neu wedi'i dirymu o dan adran 70 o Ddeddf 2004, rhaid iddi barhau mewn grym tan y byddai cofrestriad yr HMO o dan y cynllun perthnasol wedi dod i ben(3); ac

(ch)rhaid barnu ei bod wedi'i rhoi o dan yr un amodau â'r rhai a osodwyd ar y cofrestriad o dan y cynllun perthnasol.

(5Nid yw'r amodau y bernir bod trwydded o'r fath wedi'i rhoi odanynt yn cynnwys unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad HMO o dan gynllun perthnasol sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)hysbysiad trwsio a gyflwynwyd o dan adrannau 189 neu 190 o Ddeddf 1985;

(b)hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 352 o'r Deddf honno (pŵer i'w gwneud yn ofynnol i waith gael ei gyflawni i wneud mangre yn ffit ar gyfer y nifer o feddianwyr); neu

(c)cyfarwyddyd meddiannaeth a wnaed o dan adran 348D o'r Deddf honno na ellid ei osod fel amod o dan adran 67(2) o Ddeddf 2004.

(6O fewn y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn rhaid i'r awdurdod tai lleol—

(a)anfon at y person y bernir bod y drwydded wedi'i rhoi iddo o dan is-baragraff (3) (“deiliad y drwydded”) fanylion y drwydded gan gynnwys—

(i)amodau'r drwydded; a

(ii)y dyddiad y daw'r drwydded i ben; a

(b)os bydd y drwydded yn dod i ben mewn llai na 6 mis ar ôl y dyddiad cychwyn, anfon at ddeiliad y drwydded hysbysiad yn rhoi gwybod iddo fod angen iddo wneud cais am drwydded newydd pan fydd y drwydded yn dod i ben.

(7Nid yw Atodlen 4 (trwyddedau o dan Rannau 2 a 3: amodau mandadol) a Rhan 1 o Atodlen 5 (trwyddedau o dan Rannau 2 a 3: gweithdrefn ac apelau) i Ddeddf 2004 yn gymwys o ran trwydded y bernir ei bod wedi'i rhoi o dan is-baragraff (3).

(8Mae cofrestriad HMO o dan gynllun perthnasol y bernir bod trwydded wedi'i rhoi ar ei gyfer o dan is-baragraff (3) yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad cychwyn.

(9Ni chodir tâl ar ddeiliad y drwydded am unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod tai lleol sy'n cymryd unrhyw gamau o dan y paragraff hwn.

Ceisiadau am gofrestru HMO sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad cychwyn: trefniadau trosiannol

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais am gofrestru, o dan gynllun perthnasol, HMO rhagnodedig neu HMO sydd wedi'i leoli mewn ardal y bernir bod dynodiad wedi'i wneud mewn perthynas â hi o dan baragraff 3(2) a hwnnw'n gais—

(a)sydd wedi'i wneud i awdurdod tai lleol cyn y dyddiad cychwyn ac sydd heb ei dynnu'n ôl; a

(b)nad yw'r awdurdod hwnnw wedi gwneud penderfyniad amdano cyn y dyddiad hwnnw.

(2Rhaid i'r awdurdod ddod i benderfyniad ar y cais yn y modd y byddai wedi gwneud pe na bai Rhan 11 o Ddeddf 1985 wedi'i diddymu.

(3Os yw'r awdurdod yn penderfynu bod yr HMO yn bodloni'r amodau ar gyfer cofrestru o dan gynllun perthnasol, rhaid iddo beidio â'i gofrestru ond yn lle hynny rhaid iddo roi trwydded i'r person a bennir yn y cais fel y person sy'n rheoli'r HMO—

(a)am gyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn; a

(b)yn ddarostyngedig i'r un amodau (ac eithrio unrhyw amod o ddisgrifiad a grybwyllir ym mharagraff 4(5)(a), (b) neu (c)) â'r rhai y byddai wedi'u gosod petai wedi cofrestru'r HMO o dan y cynllun perthnasol.

(4Pan fo'r awdurdod yn penderfynu nad yw'r HMO yn bodloni'r amodau ar gyfer cofrestru o dan y cynllun, rhaid iddo—

(a)hysbysu'r ceisydd o'r angen i wneud cais am drwydded o dan adran 63 o Ddeddf 2004; a

(b)rhoi copi o'r ffurflen i'r ceisydd, pan fo'r awdurdod yn darparu ffurflen i wneud cais o'r fath i geiswyr am drwydded.

(5Ni chodir tâl ar ddeiliad y drwydded am unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod tai lleol sy'n cymryd unrhyw gamau o dan y paragraff hwn.

(6Pan fo ceisydd y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo wedi talu ffi am ei gais am gofrestru o dan gynllun perthnasol, rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo dalu ffi am ei gais am drwydded o dan adran 63 o Ddeddf 2004.

Ffitrwydd tŷ amlfeddiannaeth ar gyfer y nifer o feddianwyr

6.—(1Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adrannau 352, 352A na 353 yn effeithiol mewn perthynas â HMO sy'n floc fflatiau perthnasol a addaswyd.

(2Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac yn dod i ben ar 15 Mehefin 2007—

(a)ni fydd diddymu adrannau 352, 352A a 353 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 352(1) o'r Deddf honno cyn y dyddiad cychwyn; a

(b)ni fydd diddymu adrannau 354, 355, 356, 396 neu 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â chyflawni unrhyw dramgwydd a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn o dan—

(i)is-adran (2) o adran 355 o'r Deddf honno; neu

(ii)is-adran (2) o adran 356 o'r Deddf honno.

(3O ran apêl a ddygwyd o dan is-adran (2) o adran 357 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn, ni fydd penderfyniad llys i amrywio, neu i beidio â dirymu, cyfarwyddyd o dan adran 354 o'r Deddf honno yn effeithiol.

Hysbysiadau gorlenwi

7.—(1Bydd hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 358(1) o Ddeddf 1985 (cyflwyno hysbysiad gorlenwi) cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad—

(a)sydd wedi dod yn weithredol o dan adran 358(3) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu

(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 362 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.

(3Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd diddymu adrannau 358 i 364, 395, 396 a 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.

Moddion dianc rhag tân

8.  Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd diddymu adrannau 365, 368, 395, 396 neu 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas ag ymrwymiad a dderbyniwyd gan awdurdod tai lleol o dan is-adran (2) o adran 368 o'r Deddf honno cyn y dyddiad cychwyn.

Safonau Rheoli

9.—(1Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adrannau 369, 372, 373 a 378 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.

(2Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac yn dod i ben ar 15 Mehefin 2007—

(a)ni fydd diddymu adrannau 369, 395, 396 a 397 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â chyflawni unrhyw dramgwydd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 369 o'r Deddf honno cyn y dyddiad cychwyn;

(b)ni fydd diddymu adran 372 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-adran (1) o'r adran honno cyn y dyddiad hwnnw; ac

(c)ni fydd diddymu adran 373 o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw apêl a ddygwyd o dan is-adran (1) o'r adran honno cyn y dyddiad hwnnw.

Gwaith a wnaed gan awdurdod tai lleol a gorfodi

10.—(1Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o Ddeddf 2004 yn dod i rym, ni fydd diddymu adran 375 yn effeithiol mewn perthynas â bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.

(2Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2008, ni fydd diddymu adrannau 375, 376, 377, 377A a 378 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 352 neu 372 o'r Deddf honno cyn y dyddiad cychwyn.

Gorchmynion Rheoli

11.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i orchymyn rheoli a wnaed o dan adran 379(1) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn.

(2Ni fydd diddymu adrannau 379 i 397 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 13 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo.

(3Cyhyd ag y bydd gorchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau mewn grym ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn, ni fydd darpariaethau Rhan 2 a 3, a Phennod 1 o Ran 4, o Ddeddf 2004 yn effeithiol mewn perthynas â thŷ sy'n ddarostyngedig i'r gorchymyn.

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i dŷ sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo os yw'r tŷ, ar y dyddiad, neu'n union cyn y dyddiad, y mae'r gorchymyn yn dod i ben neu'n cael ei ddirymu yn unol ag adran 392 o Ddeddf 1985—

(a)yn HMO y mae'n ofynnol iddo fod wedi'i drwyddedu o dan Ran 2 neu 3 o Ddeddf 2004 ond nad yw wedi'i drwyddedu felly a bod yr awdurdod tai lleol o'r farn naill ai—

(i)nad oes unrhyw obaith rhesymol y caiff ei drwyddedu felly yn y dyfodol agos, neu

(ii)bod yr amod ynghylch iechyd a diogelwch a ddisgrifir yn adran 104 o Ddeddf 2004 wedi'i fodloni; neu

(b)yn dŷ nad yw'n un y mae'n ofynnol ei drwyddedu o dan Ran 2 o Ddeddf 2004 ond bod yr awdurdod tai lleol o'r farn bod yr amod hwnnw wedi'i fodloni mewn perthynas â'r tŷ hwnnw.

(5Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod tai lleol wneud gorchymyn rheoli interim o dan adran 102 o Ddeddf 2004 cyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol o dan adran 113 o'r Deddf honno ynglŷn â thy y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.

(6Mae adran 113 o Ddeddf 2004 yn effeithiol at ddibenion gwneud gorchymyn rheoli terfynol ynglŷn â thŷ y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo fel petai-

(a)yn is-adran (1) y geiriau “who have made an interim management order in respect of a house under section 102 (“the IMO”)” wedi'u hepgor; a

(b)yn is-adrannau (2) a (3)—

(i)y cyfeiriadau at yr IMO wedi'u dehongli fel cyfeiriadau at y gorchymyn rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo; a

(ii)y cyfeiriadau at y dyddiad dod i ben wedi'u dehongli fel cyfeiriadau at y dyddiad a grybwyllir yn is-baragraff (4).

(7Mae adran 114 o Ddeddf 2004 yn effeithiol at ddibenion gwneud gorchymyn rheoli terfynol ynglŷn â thŷ y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo fel petai—

(a)cyfeiriadau at “new final management order” yn gyfeiriadau at orchymyn rheoli terfynol a wnaed o dan adran 113 o'r Deddf honno fel y'i haddaswyd gan is-baragraff (6); a

(b)cyfeiriadau at yr “existing order” yn is-adrannau (5) i (7) yn gyfeiriadau at y gorchmynion rheoli y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt.

(8Mae gorchymyn rheoli y mae is-baragraff 4 yn gymwys iddo yn aros mewn grym hyd nes—

(a)y bydd gorchymyn rheoli interim o dan adran 102 o Ddeddf 2004 wedi'i wneud;

(b)y bydd gorchymyn rheoli terfynol o dan adran 113 o Ddeddf 2004 wedi'i wneud; neu

(c)y bydd yr awdurdod tai lleol yn penderfynu na ddylid gwneud y naill fath o orchymyn na'r llall o'r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (a) neu (b) o'r is-baragraff hwn.

(1)

Mae adran 300(2)(b) o Ddeddf Tai 1985 yn cymhwyso adrannau 268(2) a 269(1), (2), (3) a (6) o'r Deddf honno i hysbysiad o dan adran 300 fel y maent yn gymwys i orchymyn dymchwel neu orchymyn cau.

(2)

I gael ystyr “HMO” gweler adran 77 o Ddeddf 2004.

(3)

Yn ôl adran 346A(2)(a) o Ddeddf 1985 mae cofrestriad o dan gynllun a wnaed o dan adran 346 yn gofrestriad am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y cofrestru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources