- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
31 Ionawr 2006
Yn dod i rym
1 Chwefror 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 87 a 100 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(1) i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(2) a chan ei fod wedi'i fodloni bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer cyhoeddi'r cod a gymeradwywyd gan y Gorchymyn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006 a fe ddaw i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.
2. Mae'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094), a gyflwynwyd i'w gymeradwyo ar 6 Hydref 2005 gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac sydd i'w gyhoeddi gan RICS Business Services Limited, wedi'i gymeradwyo.
3. Mae'r gymeradwyaeth o'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996(3) wedi'i thynnu'n ôl.
4. Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn achos cyfreithiol) o ran gweithred neu anwaith sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo cod ymarfer sy'n ymwneud â gwaith rheoli eiddo preswyl gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094) yw'r cod a gymeradwyir ac mae i'w gyhoeddi gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Drwy'r Gorchymyn hwn mae'r Cynulliad hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth a roddwyd yng Ngorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996, (O.S. 1996/2839), i god sy'n dwyn yr enw Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X).
Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu nad yw methiant â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwyir yn peri ynddo'i hun i unrhyw berson fod yn agored i unrhyw achos cyfreithiol yn ei erbyn, ond bod y cod ymarfer, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn dderbyniol fel tystiolaeth ac y bydd unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei fod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn yr achos cyfreithiol yn cael ei chymryd i ystyriaeth.
Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4.
1993 p. 28; diwygiwyd adran 87 gan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ac Atodlen 9 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 100, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac adran 177 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: