Diwygiadau i Reoliadau 20018
Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—
21A
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18A, caniateir i aelod pwyllgor cymunedol o bwyllgor safonau awdurdod lleol gael ei ailbenodi gan yr awdurdod lleol hwnnw am un tymor olynol arall.
2
Cyn ailbenodi aelod pwyllgor cymunedol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori—
a
â'r cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli o fewn ei ardal; a
b
â chymdeithasau cynghorau cymuned a sefydlwyd (os o gwbl) ar gyfer yr ardal honno, ac sy'n gweithredu oddi mewn iddi.