xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8. Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—
“21A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18A, caniateir i aelod pwyllgor cymunedol o bwyllgor safonau awdurdod lleol gael ei ailbenodi gan yr awdurdod lleol hwnnw am un tymor olynol arall.
(2) Cyn ailbenodi aelod pwyllgor cymunedol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori—
(a)â'r cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli o fewn ei ardal; a
(b)â chymdeithasau cynghorau cymuned a sefydlwyd (os o gwbl) ar gyfer yr ardal honno, ac sy'n gweithredu oddi mewn iddi.”.