Diwygiadau i Reoliadau 2001
9. Ar ôl paragraff (9) o reoliad 22, mewnosoder—
“(10) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn rhwystro aelodau pwyllgor safonau rhag ethol cadeirydd neu is-gadeirydd sy'n aelod annibynnol o'r pwyllgor hwnnw ac sydd—
(a)wedi'i ailbenodi'n aelod o'r fath o dan reoliad 21(2); a
(b)wedi'i ethol yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y pwyllgor hwnnw yn ystod tymor swydd cyntaf yr aelod.”.