Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Codi Taliadau) (Cymru) 2006

Erthygl 2

ATODLENTALIADAU AWDURDODEDIG

Y weithred a gyflawnir gan yr awdurdod tân ac achubY person y caniateir codi tâl arno

1.  Hurio neu ddarparu cyfarpar, cerbydau, mangreoedd neu gyflogeion awdurdod tân ac achub, ac eithrio pan wneir hyn yn unol ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)adran 6;

(b)adran 8; neu

(c)adrannau 13 i 17.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

2.  Arolygu, profi, cynnal ac atygyweirio cyfarpar a cherbydau, gan gynnwys ailwefru silindrau aer cywasgedig a chyfarpar anadlu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

3.  Dal a chlirio ysbwriel, gorlifoedd, arllwysiadau neu ollyngiadau o gerbyd, tanc storio neu bibell.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre neu gerbyd a oedd, cyn y digwyddiad a arweiniodd at y tâl, yn dal neu'n cludo'r deunydd sydd i'w ddal neu i'w glirio, neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

4.  Darparu dŵ r neu gael gwared â dŵ r.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

5.  Galluogi pobl i fynd i mewn i fangre neu i ddod o fangre

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y fangre neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

6.  Achub pobl o gabanau lifftiau

Perchennog neu weithredydd y lifft.

7.  Achub anifeiliaid.

Perchennog neu geidwad yr anifail.

8.  Darparu dogfennau, ffotograffau, tâpiau, fideos neu recordiadau tebyg eraill, pan na fo codi taliadau eisoes wedi'i awdurdodi neu ei wahardd gan ddeddfiad arall.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

9.  Darparu hyfforddiant, heblaw hyfforddiant a ddarperir i gyflogeion awdurdodau tân ac achub eraill o dan gynllun atgyfnerthu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

10.  Symud strwythurau peryglus.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y strwythur neu'r fangre lle mae'r strwythur neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

11.  Rhoi cyngor i bersonau mewn perthynas â mangre lle dygir masnach, busnes neu ymgymeriad arall ymlaen, heblaw rhoi cyngor y mae'n ofynnol gwneud trefniadau ar ei gyfer o dan adran 6(2)(b) o'r Ddeddf.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

12.  Codi personau analluog.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth.

13.  Diffodd tân ar y môr neu o dan y môr, neu amddiffyn bywyd ac eiddo os digwydd tân o'r fath.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.