ATODLENTALIADAU AWDURDODEDIG

Erthygl 2

Y weithred a gyflawnir gan yr awdurdod tân ac achub

Y person y caniateir codi tâl arno

1

Hurio neu ddarparu cyfarpar, cerbydau, mangreoedd neu gyflogeion awdurdod tân ac achub, ac eithrio pan wneir hyn yn unol ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

a

adran 6;

b

adran 8; neu

c

adrannau 13 i 17.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

2

Arolygu, profi, cynnal ac atygyweirio cyfarpar a cherbydau, gan gynnwys ailwefru silindrau aer cywasgedig a chyfarpar anadlu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

3

Dal a chlirio ysbwriel, gorlifoedd, arllwysiadau neu ollyngiadau o gerbyd, tanc storio neu bibell.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre neu gerbyd a oedd, cyn y digwyddiad a arweiniodd at y tâl, yn dal neu'n cludo'r deunydd sydd i'w ddal neu i'w glirio, neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

4

Darparu dŵ r neu gael gwared â dŵ r.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

5

Galluogi pobl i fynd i mewn i fangre neu i ddod o fangre

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y fangre neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

6

Achub pobl o gabanau lifftiau

Perchennog neu weithredydd y lifft.

7

Achub anifeiliaid.

Perchennog neu geidwad yr anifail.

8

Darparu dogfennau, ffotograffau, tâpiau, fideos neu recordiadau tebyg eraill, pan na fo codi taliadau eisoes wedi'i awdurdodi neu ei wahardd gan ddeddfiad arall.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

9

Darparu hyfforddiant, heblaw hyfforddiant a ddarperir i gyflogeion awdurdodau tân ac achub eraill o dan gynllun atgyfnerthu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

10

Symud strwythurau peryglus.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y strwythur neu'r fangre lle mae'r strwythur neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

11

Rhoi cyngor i bersonau mewn perthynas â mangre lle dygir masnach, busnes neu ymgymeriad arall ymlaen, heblaw rhoi cyngor y mae'n ofynnol gwneud trefniadau ar ei gyfer o dan adran 6(2)(b) o'r Ddeddf.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

12

Codi personau analluog.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth.

13

Diffodd tân ar y môr neu o dan y môr, neu amddiffyn bywyd ac eiddo os digwydd tân o'r fath.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.