Erthygl 2
Y weithred a gyflawnir gan yr awdurdod tân ac achub | Y person y caniateir codi tâl arno |
---|---|
1. Hurio neu ddarparu cyfarpar, cerbydau, mangreoedd neu gyflogeion awdurdod tân ac achub, ac eithrio pan wneir hyn yn unol ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol y Ddeddf— (a)adran 6; (b)adran 8; neu (c)adrannau 13 i 17. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
2. Arolygu, profi, cynnal ac atygyweirio cyfarpar a cherbydau, gan gynnwys ailwefru silindrau aer cywasgedig a chyfarpar anadlu. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
3. Dal a chlirio ysbwriel, gorlifoedd, arllwysiadau neu ollyngiadau o gerbyd, tanc storio neu bibell. | Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre neu gerbyd a oedd, cyn y digwyddiad a arweiniodd at y tâl, yn dal neu'n cludo'r deunydd sydd i'w ddal neu i'w glirio, neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
4. Darparu dŵ r neu gael gwared â dŵ r. | Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
5. Galluogi pobl i fynd i mewn i fangre neu i ddod o fangre | Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y fangre neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
6. Achub pobl o gabanau lifftiau | Perchennog neu weithredydd y lifft. |
7. Achub anifeiliaid. | Perchennog neu geidwad yr anifail. |
8. Darparu dogfennau, ffotograffau, tâpiau, fideos neu recordiadau tebyg eraill, pan na fo codi taliadau eisoes wedi'i awdurdodi neu ei wahardd gan ddeddfiad arall. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
9. Darparu hyfforddiant, heblaw hyfforddiant a ddarperir i gyflogeion awdurdodau tân ac achub eraill o dan gynllun atgyfnerthu. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
10. Symud strwythurau peryglus. | Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y strwythur neu'r fangre lle mae'r strwythur neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
11. Rhoi cyngor i bersonau mewn perthynas â mangre lle dygir masnach, busnes neu ymgymeriad arall ymlaen, heblaw rhoi cyngor y mae'n ofynnol gwneud trefniadau ar ei gyfer o dan adran 6(2)(b) o'r Ddeddf. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |
12. Codi personau analluog. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth. |
13. Diffodd tân ar y môr neu o dan y môr, neu amddiffyn bywyd ac eiddo os digwydd tân o'r fath. | Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo. |