Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 249 (Cy.37)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

7 Chwefror 2006

Yn dod i rym

8 Chwefror 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 101 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, â chynrychiolwyr cyflogeion awdurdodau perthnasol, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 8 Chwefror 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae “aelod” (“member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)

aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol; neu

(b)

person sydd yn aelod o unrhyw gyd-bwyllgor neu is-bwllgor, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod perthnasol ar y cyd-bwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân a gyfansoddwyd drwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(2), awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(3) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi, ac awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(4);

ystyr “camau Rhan III” (“Part III proceedings”) yw unrhyw ymchwiliad, adroddiad, cyfeiriad, beirniadaeth neu unrhyw gamau eraill arall yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “Cod Ymddygiad” (“Code of Conduct”) yw Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd am y tro gan awdurdod perthnasol yn unol ag adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “mesurau disgyblu” (“disciplinary measures”) yw—

(a)

atal, neu atal yn rhannol; neu

(b)

anghymhwyso;

ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw Pwyllgor Safonau, neu is-bwyllgor ohono, a sefydlwyd gan awdurdod perthnasol yn unol ag adran 53, adran 54A, neu adran 56 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000; ac

mae “sicrhau” (“secure”), mewn perthynas ag unrhyw indemniad a ddarperir drwy gyfrwng yswiriant yn cynnwys trefnu'r yswiriant hwnnw a thalu amdano a dehonglir ymdraddion perthynol yn unol â hynny.

Indemniadau

3.  Caiff awdurdod perthnasol ddarparu indemniadau, yn yr achosion a grybwyllir yn erthygl 5, i unrhyw un oi aelodau neu ei swyddogion.

Yswiriant

4.  Yn lle bod awdurdod perthnasol yn darparu indemniad o dan erthygl 3, neu yn ychwanegol at ei ddarparu, caiff awdurdod perthnasol sicrhau, yn yr achosion a grybwyllir yn erthygl 5, ddarparu indemniad drwy sicrhau yswiriant ar gyfer unrhyw un o'i aelodau neu ei swyddogion.

Achosion lle caniateir i indemniad neu yswiriant gael ei ddarparu

5.  Yn ddarostyngedig i erthygl 6, caniateir i indemniad gael ei ddarparu mewn perthynas ag unrhyw weithred, neu fethiant i weithredu, gan yr aelod neu'r swyddog o dan sylw, a hwnnw'n indemniad sydd—

(a)wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol; neu

(b)yn ffurfio rhan, neu'n deillio, o unrhyw bwerau a roddwyd, neu ddyletswyddau a osodwyd, ar yr aelod neu'r swyddog hwnnw, o ganlyniad i unrhyw swyddogaeth sy'n cael ei harfer gan yr aelod neu'r swyddog hwnnw (p'un a yw'r aelod neu'r swyddog hwnnw, wrth arfer y swyddogaeth honno, yn gwneud hynny yn rhinwedd ei swydd fel aelod neu swyddog i'r awdurdod perthnasol ai peidio)—

(i)ar gais yr awdurdod perthnasol neu gyda'i gymeradwyaeth, neu

(ii)at ddibenion yr awdurdod perthnasol.

Cyfyngiadau ar indemniadau

6.—(1Ni chaniateir i unrhyw indemniad gael ei ddarparu o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw weithred, neu fethiant i weithredu, gan unrhyw aelod neu swyddog, sydd—

(a)yn dramgwydd troseddol; neu

(b)yn ganlyniad twyll, neu ddrygioni bwriadol arall neu fyrbwylltra ar ran yr aelod neu'r swyddog hwnnw.

(2Er gwaethaf paragraff 1(a), caniateir darparu indemniad mewn perthynas ag—

(a)yn ddarostyngedig i erthygl 8, amddiffyniad unrhyw gamau troseddol a ddygir yn erbyn swyddog neu aelod;

(b)unrhyw atebolrwydd sifil sy'n codi o ganlyniad o unrhyw weithred neu fethiant â gweithredu sydd hefyd yn dramgwydd troseddol; ac

(c)yn ddarostynedig i erthygl 8, amddiffyniad unrhyw gamau Rhan III yn erbyn aelod.

(3Ni chaniateir darparu unrhyw indemniad o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw hawliad a wneir gan yr aelod neu'r swyddog sydd wedi'i indemnio mewn perthynas â'r difenwad honedig o'r aelod neu'r swyddog ond caniateir ei ddarparu mewn perthynas â'r amddiffyniad gan yr aelod neu'r swyddog hwnnw o unrhyw honiad o ddifenwi a wnaed yn erbyn yr aelod neu'r swyddog hwnnw.

Materion sy'n mynd y tu hwnt i bwerau'r awdurdod perthnasol

7.—(1Er gwaethaf unrhyw gyfyngiad ar bwerau awdurdod perthnasol sy'n rhoi indemniad, caniateir i awdurdod perthnasol ddarparu indemniad i'r graddau yr oedd yr aelod neu'r swyddog o dan sylw—

(a)yn credu bod y weithred, neu'r methiant i weithredu, o dan sylw o fewn pŵer yr awdurdod perthnasol, neu

(b)pan fo'r weithred neu'r methiant â gweithredu yn cynnwys dyroddi neu awdurdodi unrhyw ddogfen sy'n cynnwys unrhyw ddatganiad ynghylch pwerau'r awdurdod perthnasol, neu unrhyw ddatganiad bod camau penodol wedi cael eu cymryd neu fod gofynion wedi cael eu bodloni, yn credu bod cynnwys y datganiad hwnnw yn wir,

a'i bod yn rhesymol i'r aelod neu'r swyddog hwnnw gredu hynny ar yr adeg y gweithredodd yr aelod neu'r swyddog hwnnw neu y methodd â gweithredu.

(2Caniateir darparu indemniad mewn perthynas â gweithred neu methiant i weithredu y ceir wedyn ei fod y tu hwnt i bwerau'r aelod neu'r swyddog dan sylw, ond dim ond i'r graddau yr oedd yr aelod neu'r swyddog yn credu'n rhesymol bod y weithred neu'r methiant â gweithredu dan sylw o fewn pwerau'r aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw ar yr adeg y gweithredodd yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw neu y methodd â gweithredu.

Telerau indemniad neu yswiriant

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) isod caiff telerau unrhyw indemniad a roddir (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir) o dan y Gorchymyn hwn fod yn delerau y caiff yr awdurdod perthnasol gytuno arnynt.

(2Mae paragraffau (3), (4) a (5) yn gymwys pan fo unrhyw indemniad a roddir i unrhyw aelod neu swyddog (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir ar gyfer yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw) yn effeithiol mewn perthynas ag amddiffyniad—

(a)unrhyw gamau troseddol; neu

(b)unrhyw gamau Rhan III.

(3Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, ac unrhyw yswiriant a sicrheir, ar y telerau yn achos camau troseddol, os collfernir yr aelod neu'r swyddog dan sylw o dramgwydd troseddol ac ni wrthdroir y gollfarn honno o ganlyniad i unrhyw apêl, rhaid i'r aelod hwnnw neu i'r swyddog hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) am unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.

(4Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau yn achos camau Rhan III, lle—

(a)dyfernir, yn y camau hynny, bod yr aelod dan sylw wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ac ni wrthdroir y dyfarniad hwnnw o ganlyniad i unrhyw apêl, neu

(b)mae'r aelod yn addef ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, ac

(c)os cymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnwo ganlyniad i fethiant â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad,

rhaid i'r aelod hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.

(5Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau, yn achos camau Rhan III, lle—

(a)dyfernir yn y camau hynny bod yr aelod dan sylw wedi methu â chydmffurfio â'r Cod Ymddygiad ac os na wrthdroir y dyfarniad hwnnw o ganlyniad i unrhyw apêl; neu

(b)mae'r aelod yn addef ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad; ac

(c)mae'r aelod o dan sylw wedi'i geryddu neu ni chymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnw o ganlyniad i'w fethiant â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad;

caiff Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yr aelod benderfynu bod rhaid i'r aelod ad-adlu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.

(6Pan fo aelod neu swyddog dan rwymedigaeth i ad-dalu i awdurdod perthnasol neu i yswiriwr yn unol â'r telerau a grybwyllir ym mharagraff (3), (4) a (5) uchod, bydd y symiau hynny yn adenilladwy gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr (yn ôl y digwydd) fel dyled sifil.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Chwefror 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer amgylchiadau lle caiff awdurdod perthnasol yng Nghymru ddarparu indemniad i unrhyw rai o'i aelodau neu ei swyddogion neu sicrhau bod yswiriant yn cael ei ddarparu iddynt. Mae'r pwerau hyn yn ychwanegol at unrhyw bwerau sy'n bodoli eisoes y mae awdurdodau perthnasol o'r fath yn meddu arnynt.

Yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru yw—

  • cynghorau sir

  • cynghorau bwrdeistref sirol

  • cynghorau cymuned

  • awdurdodau tân a gyfansoddwyd drwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947

  • awdurdodau tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi

  • awdurdodau Parciau Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Mae erthygl 4 yn egluro y caiff yr awdurdod perthnasol ddarparu indemniad drwy sicrhau bod polisi yswiriant yn cael i ddarparu i aelod neu i swyddog.

Mae erthygl 5 yn nodi'r achosion lle caniateir darparu indemniadau (gan gynnwys y rheini a ddarperir drwy yswiriant). Mae'r erthygl hon yn cyfyngu'r fath ddarpariaeth i achosion lle mae'r aelod neu'r swyddog yn cyflawni unrhyw swyddogaeth ar gais yr awdurdod perthnasol, gyda'i gymeradwyaeth neu at ddibenion yr awdurdod hwnnw. Serch hynny, mae'n ymestyn i achosion lle mae'r swyddog neu'r aelod, wrth arfer y swyddogaeth o dan sylw, yn gwneud hynny yn rhinwedd swydd ac eithro swydd aelod o'r awdurdod perthnasol neu swyddog i'r awdurdod hwnnw. Byddai hynny'n caniatáu i indemniad, er enghraifft, gwmpasu achos lle mae aelod neu swyddog yn gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni ar gais yr awdurdod perthnasol, ac felly yn gweithredu yn rhinwedd swydd yr aelod neu'r swyddog hwnnw fel cyfarwyddwr.

Mae erthygl 6 yn atal indemniad rhag cael ei ddarparu neu yswiriant rhag cael ei sicrhau mewn perthynas â thramgwydd troseddol, unrhyw ddrygioni bwriadol arall, twyll, byrbwylltra, neu mewn perthynas â dwyn (ond nid amddiffyn) unrhyw achos difenwi.

Mae erthygl 7 yn rhoi pŵer cyfyngedig i ddarparu indemniad (gan gynnwys unrhyw indemniad a ddarperir drwy yswiriant) pan fo'r weithred neu'r anweithred y cwynir amdani y tu allan i bŵer yr awdurdod perthnasol ei hun. Mae hefyd yn cwmpasu achosion lle mae aelod neu swyddog yn datgan bod camau penodol wedi'u cymryd neu fod gofynion penodol wedi'u bodloni ond daw'n eglur wedyn nad felly y bu. Mae'r pŵer wedi'i gyfyngu i achosion lle'r oedd y person a oedd wedi'i indemnio neu wedi'i yswirio—

  • yn credu'n rhesymol nad oedd y mater o dan sylw y tu allan i'r pwerau hynny, neu

  • pan fo dogfen wedi'i dyroddi a bod honno'n cynnwys datganiad anwir ynghylch pwerau'r awdurdodau perthnasol, neu ynghylch y camau a gymerwyd neu'r gofynion a fodlonwyd, yn credu'n rhesymol fod y datganiad yn wir pan gafodd ei dyroddi neu pan awdurdodwyd ei dyroddi gan y person hwnnw.

Mae erthygl 8 yn rhoi rhyddid i'r awdurdod perthnasol negodi'r telerau ar gyfer unrhyw indemniad neu bolisi yswiriant y mae'n credu ei fod yn briodol ond mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r telerau hynny gynnwys darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau sy'n cael eu gwario gan yr awdurdod perthnasol neu'r yswiriwr mewn achosion lle—

  • y dyfarnwyd bod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad sy'n gymwys i'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod perthnasol, a lle cymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnw o ganlyniad i'w fethiant â chydymffurfio â'r Cod (os byddai'r indemniad neu'r polisi yswiriant fel arall yn cwmpasu'r camau a arweiniodd at y gollfarn honno), neu

  • y collfarnwyd aelod neu swyddog o dramgwydd troseddol (os byddai'r indemniad neu'r polisi yswiriant fel arall yn cwmpasu'r camau a arweiniodd at y dyfarniad hwnnw).

Os dyfarnwyd bod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad sy'n gymwys i'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod perthnasol ac os yw'r aelod o dan sylw wedi'i geryddu neu, lle ni chymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnw o ganlyniad o'i fethiant â chydymffurfio â'r Cod, caiff Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yr aelod hwnnw ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu'r symiau a werir gan yr awdurdod perthansol neu gan yr yswiriwr. Caniateir adennill unrhyw symiau adenilladwy fel dyled sifil.

(2)

1947 (p.41). Effaith adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yw, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r adran honno, y bydd awdurdod tân a gyfansoddir o dan adran 5 neu adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 yn parhau i fod yn effeithiol er bod yr adrannau hynny wedi cael eu diddymu gan Ddeddf 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources