Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006

Arbedion: Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac er gwaethaf ei diddymu gan adran 65 o Ddeddf 2005 a Rhan 5 o Atodlen 5 iddi, mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn y dyddiad y diddymir Deddf 1996 yn unol â rheoliad 5(e) o'r Gorchymyn hwn.

(2Bydd unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn diddymu Deddf 1996 gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn yn peidio â bod yn dir dynodedig ar y dyddiad y daw'r diddymiad yn weithredol—

(a)i'r graddau y mae gorchymyn rheoli cŵn (p'un a yw'n ymwneud â baeddu tir gan gŵn) a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2005 yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw;

(b)os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddirymu; neu

(c)os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i leihau maint y tir dynodedig, i'r graddau y mae hwnnw wedi'i leihau.

(3O ran effaith barhaol Deddf 1996—

(a)mae adran 88(2) i (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1), fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) a (3) o Ddeddf 1996, yn parhau i fod yn gymwys fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 19 o Ddeddf 2005 i adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb eu gwneud;

(b)er gwaethaf eu diddymu gan Ran 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, mae paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 a pharagraff 1(2)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002(2) yn parhau i fod yn effeithiol;

(c)er gwaethaf ei diddymu gan Ran 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, bydd adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn parhau i fod yn effeithiol fel petai is-adrannau (2)(a), (3)(a) ac (c) a (4) o'r adran honno wedi'u dileu.

(4Yn yr erthygl hon—

  • mae i “tir dynodedig” yr ystyr a roddir i “designated land” yn adran 2(1) o Ddeddf 1996; ac

  • ystyr “gorchymyn dynodi” (“designation order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 2(1) o Ddeddf 1996.

(1)

1990 p. 43; mae adran 119(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu bod effaith adran 88(6)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn peidio o ran bod yn gymwys i'r ail o'r Deddfau hyn ac, yn rhinwedd adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996, i gosbau penodedig am dramgwyddau cwn yn baeddu.