Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2797 (Cy.236) (C.93)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

17 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1978” (“the 1978 Act”) yw Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978(2);

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(3);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996(4);

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005.

Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 27 Hydref 2006

2.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 27 Hydref 2006—

(a)adran 11 (hysbysiad symud);

(b)adran 12 (gwaredu);

(c)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 13 (canllawiau);

(ch)adran 15 (hysbysiad symud);

(d)adran 16 (gwaredu);

(dd)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 17 (canllawiau);

(e)adran 34 (tynnu placardiau a phosteri);

(f)at ddibenion amnewid adran 5 (ond gan eithrio adran 5(2)(d)) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(5), adran 37 (pwerau gorfodi);

(ff)adran 50 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol i berchennog tir symud gwastraff oddi yno);

(g)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 56 (gorchmynion rheoli cŵn: darpariaethau atodol);

(ng)adran 66 (“person priodol”);

(h)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 67 (rheoliadau a gorchmynion);

(i)adran 80 (gorchmynion a rheoliadau);

(j)adran 81 (dehongli);

(ll)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 83 (tramgwyddau sŵn: defnyddio derbynebau cosb benodedig);

(m)adran 84 at ddibenion dwyn i rym paragraffau 2, 7(2)(a) a (3), 8(2) a 12(2), (5) a (6) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (estyn Deddf Sŵn 1996(6) i gwmpasu mangreoedd trwyddedig etc.);

(n)adran 86 (gohirio dyletswydd i gyflwyno hysbysiad gostegu);

(o)adran 99 (trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig);

(p)adran 100 (adran 99: darpariaeth drosiannol);

(ph)yn Rhan 1 (cerbydau) o Atodlen 5 (diddymiadau), y diddymiadau i Ddeddf 1978 a Deddf 1984.

Darpariaeth yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 i rym

3.  I'r graddau nad yw eisoes mewn grym, mae adran 2 (gorchmynion gatio) yn dod i rym ar y dyddiad y mae Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 yn dod i rym.

Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym

4.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym—

(a)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 6 (pŵer i roi hysbysiadau cosb benodedig);

(b)adran 7 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);

(c)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 8 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);

(ch)adran 9 (hysbysiadau cosb benodedig: materion atodol);

(d)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 10 (tramgwydd gadael cerbyd: hysbysiadau cosb benodedig);

(dd)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 19 (tramgwydd ysbwriel: hysbysiadau cosb benodedig);

(e)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 20 (hysbysiadau clirio ysbwriel);

(f)adran 21 (hysbysiadau rheoli ysbwriel ar y stryd);

(ff)adran 22 (methu â chydymffurfio â hysbysiad: hysbysiadau cosb benodedig);

(g)adran 23 (rheolaethau ar ddosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl);

(ng)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 24 (hysbysiadau cosb benodedig: darpariaeth gyffredin);

(h)adran 25 (eithrio atebolrwydd);

(i)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 28 (hysbysiadau cosb benodedig: swm y gosb benodedig);

(j)adran 29 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);

(l)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 30 (hysbysiadau cosb benodedig: swyddogion awdurdodedig);

(ll)adran 31 (estyn hysbysiadau gwaredu graffiti i gwmpasu gosod posteri yn anghyfreithlon);

(m)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 38 (methu â dangos awdurdod: hysbysiadau cosb benodedig);

(n)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 45 (methu â darparu dogfennau: hysbysiadau cosb benodedig);

(o)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 48 (tramgwyddau sy'n ymwneud â chynwysyddion gwastraff: hysbysiadau cosb benodedig);

(p)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 52 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);

(ph)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig);

(r)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 60 (swm y cosbau penodedig);

(rh)adran 61 (pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad);

(s)adran 62 (swyddogion cymorth cymuned etc.);

(t)adran 69 (dynodi ardaloedd hysbysu o larwm);

(th)adran 70 (tynnu dynodiad yn ôl);

(u)adran 71 (hysbysu deiliaid allweddi a enwyd);

(w)adran 72 (enwi deiliaid allweddi);

(y)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 73 (tramgwyddau o dan adran 71: hysbysiadau cosb benodedig);

(a2)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 74 (swm y gosb benodedig);

(b2)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 75 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);

(c2)adran 76 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);

(ch2)adran 77 (pŵer mynediad);

(d2)adran 78 (gwarant i fynd i mewn i fangre drwy rym);

(dd2)adran 79 (pwerau mynediad: darpariaethau atodol);

(e2)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 82 (tramgwyddau sŵn: hysbysiadau cosb benodedig);

(f2)adran 84 (estyn Deddf Sŵn 1996 i fangreoedd trwyddedig etc) at ddibenion dwyn i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 nad ydynt yn cael eu cychwyn gan erthygl 2(m);

(g2)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 96 (defnyddio derbynebau cosb benodedig: awdurdodau haen uwch);

(ng2)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 97 (defnyddio derbynebau cost benodedig: awdurdodau haen is);

(h2)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 98 (adrannau 96 a 97: darpariaethau atodol);

(i2)Rhan 2 o Atodlen 5 (dirymiadau);

(l2)Rhan 9 o Atodlen 5 mewn perthynas â diddymu adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(7).

Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym

5.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—

(a)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 55 (pŵer i wneud gorchmynion rheoli cwn);

(b)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 57 (tir y mae Pennod 1 yn gymwys iddo);

(c)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 58 (prif awdurdodau ac awdurdodau eilaidd);

(ch)adran 63 (pwerau sy'n gorgyffwrdd);

(d)adran 64 (is-ddeddfau);

(dd)adran 65 (Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996(8));

(e)Rhan 5 o Atodlen 5.

Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym

6.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—

(a)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 101 (niwsans statudol: trychfilod);

(b)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 103(2)(a) a (4)(a) (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol).

Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym

7.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym—

(a)adran 102 (niwsans statudol: goleuadau);

(b)adran 103 (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol) ac eithrio adran 103(2)(a) a (4)(a).

Darpariaethau trosiannol: Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978

8.—(1Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1978 gan—

(a)adran 11 (sy'n diwygio adran 3 o Ddeddf 1978);

(b)adran 12 (sy'n diwygio adran 4 o Ddeddf 1978);

(c)adran 13 (sy'n mewnosod adran 4A (canllawiau) yn Neddf 1978),

o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd y mae awdurdod lleol, a hynny cyn 27 Hydref 2006—

(a)wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 3(2) o Ddeddf 1978; neu

(b)wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.

Darpariaethau trosiannol: Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

9.—(1Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1984 gan—

(a)adran 15 (sy'n diwygio adran 99 o Ddeddf 1984);

(b)adran 16 (sy'n diwygio adran 101 o Ddeddf 1984);

(c)adran 12 (sy'n diwygio adran 103 o Ddeddf 1984),

o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 99, 101 a 103 o Ddeddf 1984 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd—

(a)sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef cyn 27 Hydref 2006 o dan adran 99(3) o Ddeddf 1984;

(b)y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno cyn 27 October 2006 o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno.

Arbedion: Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac er gwaethaf ei diddymu gan adran 65 o Ddeddf 2005 a Rhan 5 o Atodlen 5 iddi, mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn y dyddiad y diddymir Deddf 1996 yn unol â rheoliad 5(e) o'r Gorchymyn hwn.

(2Bydd unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn diddymu Deddf 1996 gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn yn peidio â bod yn dir dynodedig ar y dyddiad y daw'r diddymiad yn weithredol—

(a)i'r graddau y mae gorchymyn rheoli cŵn (p'un a yw'n ymwneud â baeddu tir gan gŵn) a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2005 yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw;

(b)os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddirymu; neu

(c)os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i leihau maint y tir dynodedig, i'r graddau y mae hwnnw wedi'i leihau.

(3O ran effaith barhaol Deddf 1996—

(a)mae adran 88(2) i (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(9), fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) a (3) o Ddeddf 1996, yn parhau i fod yn gymwys fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 19 o Ddeddf 2005 i adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb eu gwneud;

(b)er gwaethaf eu diddymu gan Ran 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, mae paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 a pharagraff 1(2)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002(10) yn parhau i fod yn effeithiol;

(c)er gwaethaf ei diddymu gan Ran 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, bydd adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn parhau i fod yn effeithiol fel petai is-adrannau (2)(a), (3)(a) ac (c) a (4) o'r adran honno wedi'u dileu.

(4Yn yr erthygl hon—

  • mae i “tir dynodedig” yr ystyr a roddir i “designated land” yn adran 2(1) o Ddeddf 1996; ac

  • ystyr “gorchymyn dynodi” (“designation order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 2(1) o Ddeddf 1996.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006

11.  Yn erthygl 5(1) o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006(11)

(a)ar ôl “adran 32” mewnosoder “(7) ac (8)”; a

(b)hepgorer “a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) o ran Cymru.

Ar 27 Hydref 2006 mae erthygl 2 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill) ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:

(a)cerbydau gadawedig (adrannau 11 i 13);

(b)cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon (adrannau 15 i 17);

(c)hysbysebion (adran 34);

(ch)cludo gwastraff (adran 37 (yn rhannol));

(d)casglu a gwaredu gwastraff gan awdurdod lleol (adran 50);

(dd)rheolaeth ar gŵn (adrannau 56, 66 a 67);

(e)larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 80 a 81);

(f)sŵn o fangreoedd (adrannau 83 a 84);

(ff)niwsansau sŵn statudol (adran 86); a

(g)trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig (adrannau 99 a 100).

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym adran 2 (gorchmynion gatio) o Ddeddf 2005 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006, i rym.

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:

(a)tramgwyddau o ran parcio sy'n niwsans (adrannau 6 i 9):

(b)cerbydau gadawedig (adran 10);

(c)ysbwriel a sorod (adrannau 19 i 25);

(ch)graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon (adrannau 28 i 31);

(d)gwastraff (adrannau 38, 45, 48 a 52);

(dd)rheolaeth ar gŵn (adrannau 59 i 62);

(e)larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 69 i 79);

(f)swn o fangreoedd (adrannau 82 a 84);

(ff)defnyddio derbynebau cosb benodedig (adrannau 96 i 98).

Mae erthygl 5 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â rheolaethau ar gŵn.

Mae erthygl 6 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym, ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â chategori newydd o niwsans statudol, sef trychfilod sy'n dod o fangreoedd diwydiannol, mangreoedd masnachol neu fangreoedd busnes ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans.

Mae erthygl 7 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at ddibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â chategori newydd o niwsans statudol, sef golau artiffisial sy'n cael ei belydru o fangre yn y fath fodd ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans.

Mae erthygl 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gerbyd, y mae awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad amdano o dan adran 3(2) o Ddeddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978, neu y mae awdurdod lleol wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno, cyn 27 Hydref 2006 yn y naill achos neu'r llall, barhau i gael ei drin yn unol ag adrannau 3 a 4 o'r Ddeddf honno yn y modd yr oedd yr adrannau hynny yn gymwys cyn i ddarpariaethau o dan y Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae erthygl 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gerbyd sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad amdano o dan adran 99(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 neu gerbyd y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno, cyn 27 Hydref yn y naill achos neu'r llall, barhau i gael ei drin yn unol ag adrannau 99, 101 a 103 o'r Ddeddf honno yn y modd yr oedd yr adrannau hynny'n gymwys cyn i ddarpariaethau o dan y Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae erthygl 10 yn gwneud arbedion y mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 (p.20) yn parhau i fod yn gymwys odanynt mewn perthynas â thir sy'n dir dynodedig (“designated land”) o dan y Ddeddf honno yn union cyn diddymu'r Ddeddf honno gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006 Rhif 768) (Cy. 75) (C. 18) (“Gorchymyn 2006”). Diddymodd Gorchymyn 2006 adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) (“Deddf 1990”) a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi. Cynhwysodd erthygl 5 o Orchymyn 2006 arbedion a oedd yn parhau effaith yr adrannau a ddiddymwyd mewn perthynas â chwmnïau gwaredu gwastraff o dan reolaeth awdurdodau gwaredu gwastraff ar y dyddiad y daeth y diddymiad yn weithredol. Mae erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn yn cyfyngu ar yr arbedion hynny gyda'r canlyniad mai dim ond adran 32(7) ac (8) o Ddeddf 1990 a fydd yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r cwmnïau hynny o 27 Hydref 2006 ymlaen.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 2 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 6 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 8 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 10 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 13 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 17 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 19 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 20 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 24 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 28 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 30 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adrannau 37 a 38 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adrannau 45 i 48 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 52 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 5316 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adrannau 55 i 60 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 67 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adrannau 73 i 75 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adran 82 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adrannau 96 i 98 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Adrannau 101 i 104 — at ddibenion penodol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Atodlen 4, paragraff 416 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)
Atodlen 5, Rhan 2 (sbwriel a sorod)16 Mawrth 20062006/768 (Cy.75) C.18)
Atodlen 5, Rhan 4 (gwastraff) yn rhannol16 Mawrth 20062006 / 768 (Cy.75) (C.18)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 321 Gorffennaf 20052005 / 1675 (C.69)
Adrannau 42 i 4418 Hydref 20062005 / 2896 (C.122)
Adran 49(1) a (3)7 Mawrth 20062006 / 656 (C.16)
Adran 49 (2) a (6) — at ddibenion penodol7 Mawrth 20062006 / 656 (C.16)
Adran 49 (2) a (6) — at ddibenion sy'n weddill6 Ebrill 20062006 / 656 (C.16)
Adran 49(4) a (9)6 Ebrill 20062006 /656 (C.16)
Adran 49 (8) — at ddibenion penodol6 Ebrill 20062006 / 656 (C.16)
Adrannau 87 i 951 Ionawr 20062005 / 3439 (C.144)
Atodlen 21 Ionawr 20062005 / 3439 (C.144)
Atodlen 31 Ionawr 20062005 / 3439 (C.144)
Atodlen 4, paragraff 3 yn rhannol6 Ebrill 20062006 / 656 (C.16)
Atodlen 5, Rhan 81 Ionawr 20062005 / 3439 (C.144)

Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru a Lloegr—

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1) 2005 (O.S. 2005 Rhif 1675) (C.69);

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2005 (O.S. 2005 Rhif 2896) (C. 122);

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) 2005 (O.S. 2005 Rhif 3439) (C. 144);

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) 2006 (O.S. 2006 Rhif 656) (C. 16);

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 Rhif 1002) (C. 31);

Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan y Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr—

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 795) (C. 19);

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 1361) (C. 46);

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 2006) (C. 69).

(5)

1989 p. 14; amnewidiwyd adran 5 gan adran 37 o Ddeddf 2005.

(9)

1990 p. 43; mae adran 119(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu bod effaith adran 88(6)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn peidio o ran bod yn gymwys i'r ail o'r Deddfau hyn ac, yn rhinwedd adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996, i gosbau penodedig am dramgwyddau cwn yn baeddu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources