Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) o ran Cymru.

Ar 27 Hydref 2006 mae erthygl 2 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill) ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:

(a)cerbydau gadawedig (adrannau 11 i 13);

(b)cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon (adrannau 15 i 17);

(c)hysbysebion (adran 34);

(ch)cludo gwastraff (adran 37 (yn rhannol));

(d)casglu a gwaredu gwastraff gan awdurdod lleol (adran 50);

(dd)rheolaeth ar gŵn (adrannau 56, 66 a 67);

(e)larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 80 a 81);

(f)sŵn o fangreoedd (adrannau 83 a 84);

(ff)niwsansau sŵn statudol (adran 86); a

(g)trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig (adrannau 99 a 100).

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym adran 2 (gorchmynion gatio) o Ddeddf 2005 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006, i rym.

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:

(a)tramgwyddau o ran parcio sy'n niwsans (adrannau 6 i 9):

(b)cerbydau gadawedig (adran 10);

(c)ysbwriel a sorod (adrannau 19 i 25);

(ch)graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon (adrannau 28 i 31);

(d)gwastraff (adrannau 38, 45, 48 a 52);

(dd)rheolaeth ar gŵn (adrannau 59 i 62);

(e)larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 69 i 79);

(f)swn o fangreoedd (adrannau 82 a 84);

(ff)defnyddio derbynebau cosb benodedig (adrannau 96 i 98).

Mae erthygl 5 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â rheolaethau ar gŵn.

Mae erthygl 6 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym, ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â chategori newydd o niwsans statudol, sef trychfilod sy'n dod o fangreoedd diwydiannol, mangreoedd masnachol neu fangreoedd busnes ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans.

Mae erthygl 7 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at ddibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â chategori newydd o niwsans statudol, sef golau artiffisial sy'n cael ei belydru o fangre yn y fath fodd ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans.

Mae erthygl 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gerbyd, y mae awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad amdano o dan adran 3(2) o Ddeddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978, neu y mae awdurdod lleol wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno, cyn 27 Hydref 2006 yn y naill achos neu'r llall, barhau i gael ei drin yn unol ag adrannau 3 a 4 o'r Ddeddf honno yn y modd yr oedd yr adrannau hynny yn gymwys cyn i ddarpariaethau o dan y Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae erthygl 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gerbyd sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad amdano o dan adran 99(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 neu gerbyd y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno, cyn 27 Hydref yn y naill achos neu'r llall, barhau i gael ei drin yn unol ag adrannau 99, 101 a 103 o'r Ddeddf honno yn y modd yr oedd yr adrannau hynny'n gymwys cyn i ddarpariaethau o dan y Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae erthygl 10 yn gwneud arbedion y mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 (p.20) yn parhau i fod yn gymwys odanynt mewn perthynas â thir sy'n dir dynodedig (“designated land”) o dan y Ddeddf honno yn union cyn diddymu'r Ddeddf honno gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006 Rhif 768) (Cy. 75) (C. 18) (“Gorchymyn 2006”). Diddymodd Gorchymyn 2006 adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) (“Deddf 1990”) a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi. Cynhwysodd erthygl 5 o Orchymyn 2006 arbedion a oedd yn parhau effaith yr adrannau a ddiddymwyd mewn perthynas â chwmnïau gwaredu gwastraff o dan reolaeth awdurdodau gwaredu gwastraff ar y dyddiad y daeth y diddymiad yn weithredol. Mae erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn yn cyfyngu ar yr arbedion hynny gyda'r canlyniad mai dim ond adran 32(7) ac (8) o Ddeddf 1990 a fydd yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r cwmnïau hynny o 27 Hydref 2006 ymlaen.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources