Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2798 (Cy.237)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

18 Hydref 2006

Yn dod i rym

20 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 20 Hydref 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) yn rhagfarnu effaith adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(2) o ran unrhyw ddarpariaeth yn Gorchymyn hwn neu at ddibenion cysylltiedig ag ef sy'n creu tramgwydd.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Canolfan Monitro Pysgodfeydd” (“Fisheries Monitoring Centre”) yw Canolfan Monitro Pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3(7) o Reoliad y Cyngor 2847/93;

ystyr “cwch pysgota Cymunedol” (“Community fishing boat”) yw cwch pysgota sy'n chwifio baner Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi cael ei gofrestru yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(3) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf;

ystyr “cwch pysgota trydedd gwlad” (“third country fishing boat”) yw llong bysgota sy'n chwifio baner gwladwriaeth ac eithrio Aelod-wladwriaeth o'r Cymunedau Ewropeaidd ac sydd wedi cael ei chofrestru yn y wladwriaeth honno ac mae'n cynnwys llong dderbyn yn ystyr Rheoliad y Cyngor 2847/93;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw Orchymyn arall a wneir at ddibenion gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn, sy'n rhychwantu unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ganddi effaith gyfatebol i ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, y gellir rhoi rheithdrefnau ar waith yng Nghymru ynglyn â hi yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981;

ystyr “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yw dyfais sy'n anfon yr wybodaeth sy'n ofynnol drwy gyfrwng lloeren a gorsaf ddaearol ar y tir i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd;

ystyr “person sydd â gofal” (“person in charge”), o ran cwch pysgota, yw perchennog, meistr neu'r siartrwr, os oes un, y cwch pysgota neu asiant unrhyw un ohonynt;

ystyr “Rheoliad y Cyngor 2847/93” (“Council Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(5) fel y'i newidiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2870/95(6), Penderfyniad y Cyngor (EC) Rhif 95/528(7), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2489/96(8), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 686/97(9), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2205/97(10), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2635/97(11), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2846/98(12), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003(13), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1954/2003(14)) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 768/2005(15));

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren(16)); ac

ystyr “yr wybodaeth sy'n ofynnol” (“required information”) yw'r wybodaeth a osodir yn Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn.

(2Mae unrhyw gyfeiriad at lyfr lòg, datganiad, dogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol yn cynnwys, yn ogystal â llyfr lòg, datganiad, dogfen neu'r wybodaeth sy'n ofynnol mewn ysgrifen—

(a)unrhyw fap, cynllun, graff, lluniad neu ddyddiadur;

(b)unrhyw ffotograff;

(c)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); ac

(ch)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel (fel y crybwyllwyd ynghynt) atgynhyrchu'r delweddau ymhellach.

Cymhwyso

3.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn unig i gychod pysgota y mae Rheoliad y Comisiwn yn gymwys iddynt.

RHAN 2DARPARIAETHAU SY'N YMWNEUD Å CHYCHOD PYSGOTA PRYDEINIG A CHYCHOD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU

Cymhwyso Rhan 2

4.  Mae erthyglau 5 i 9 yn gymwys i—

(a)cychod pysgota Prydeinig yng Nghymru; a

(b)cychod pysgota Cymunedol yng Nghymru;

Gosod dyfais olrhain drwy loeren

5.—(1Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y gellir ei diystyru â llaw yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn sy'n caniatáu rhoi mewnbwn ac allbwn safleoedd anwir yn euog o dramgwydd.

(3Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd heb ddyfais olrhain drwy loeren sy'n gweithio ar ei fwrdd yn euog o dramgwydd.

Gwahardd diffodd dyfais olrhain drwy loeren tra byddir mewn porthladd heb hysbysu ymlaen llaw

6.  Mae person sydd â gofal cwch pysgota lle diffoddwyd dyfais olrhain drwy loeren heblaw yn unol ag Erthygl 8(3) o Rheoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.

Trosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol

7.—(1Mae person sydd â gofal cwch pysgota, y mae'r ddyfais olrhain drwy loeren sydd arno'n methu â throsglwyddo data gan gydymffurfio ag Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn fesul awr, yn euog o dramgwydd ac eithrio—

(a)os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren yn trosglwyddo data gan gydymffurfio ag Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn fesul dwyawr a bod Canolfan Monitro Pysgodfeydd gwladwriaeth y faner yn gallu, yn unol ag Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, nodi safle gwirioneddol y cwch pysgota, neu

(b)os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren wedi cael ei diffodd gan gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, neu

(c)os caiff y data ei gyfathrebu gan gydymffurfio ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn.

Cyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r ddyfais olrhain drwy loeren

8.—(1Yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglŷn ag ef i gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglyn ag ef i gydymffurfio ag Erthyglau 6(2) (a), (b), (c) neu (d) o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir gydag Erthygl 11(4) o'r Rheoliad hwnnw, yn euog o dramgwydd.

(3Nid yw person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglyn ag ef i gydymffurfio ag Erthygl 6(2)(d) o Reoliad y Comisiwn, os yw'r rhanddirymiad yn Erthygl 12(1) o Rheoliad hwnnw yn gymwys, yn euog o dramgwydd.

(4Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n mynd yn groes i Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.

Methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio

9.—(1Os oes methiant technegol yn y ddyfais olrhain drwy loeren sydd ynglŷn â chwch pysgota neu os nad yw'r ddyfais olrhain drwy loeren ynglŷn ag ef yn gweithio, mae person sydd â gofal y cwch pysgota hwnnw ac sy'n methu â chyfathrebu gwybodaeth yn unol ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd yn groes i Erthygl 11(2) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.

(3Yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 11(2) o Reoliad y Comisiwn yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

RHAN 3DARPARIAETHAU SY'N YMWNEUD Å CHYCHOD PYSGOTA TRYDEDD GWLAD YNG NGHYMRU

Cymhwyso Rhan 3

10.  Mae erthyglau 11 i 14 yn gymwys i gychod pysgota trydedd gwlad yng Nghymru.

Gosod dyfais olrhain drwy loeren

11.—(1Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y gellir ei diystyru â llaw yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn sy'n caniatáu rhoi mewnbwn ac allbwn safleoedd anwir yn euog o dramgwydd.

(3Mae person sydd â gofal cwch pysgota sydd heb ddyfais olrhain drwy loeren sy'n gweithio ar ei fwrdd yn euog o dramgwydd.

Trosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol

12.  Mae person sydd â gofal cwch pysgota, y mae'r ddyfais olrhain drwy loeren sydd arno'n methu â throsglwyddo data i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd gwladwriaeth y faner gan gydymffurfio ag Erthyglau 18 a 20 o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.

Cyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r ddyfais olrhain drwy loeren

13.—(1Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 19(1) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 19(2) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.

(3Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n mynd yn groes i Erthygl 19(3) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.

Methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio

14.—(1Os oes methiant technegol yn y ddyfais olrhain drwy loeren sydd ynglŷn â chwch pysgota neu os nad yw'r ddyfais olrhain drwy loeren ynglŷn ag ef yn gweithio, mae person sydd aa gofal y cwch pysgota hwnnw ac sy'n methu â chyfathrebu gwybodaeth yn unol ag Erthyglau 23(1) a 23(2) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd yn groes i Erthygl 23(3) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.

(3Yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 23(3) o Reoliad y Comisiwn yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

RHAN 4COSBAU A CHASGLU DIRWYON

Cosbau

15.  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthyglau 5, 6, 7, 8, 9, 11, 12, 13 neu 14 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na £50,000; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.

Casglu dirwyon

16.—(1Os gosodir dirwy gan lys ynadon ar berson sydd â gofal cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff y llys—

(a)dyroddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â'r tramgwydd a gafodd ei gyflawni a'i offer pysgota a'i ddalfa ac unrhyw eiddo gan y person a gollfarnwyd at godi'r swm ar gyfer y ddirwy; a

(b)gorchymyn dal gafael yn y cwch a'i offer a'i ddalfa am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis ar ôl dyddiad y collfarniad neu hyd nes y telir y ddirwy neu hyd nes y codir y swm ar gyfer y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.

(2Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(17) yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn, o ran dirwy ynghylch tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, o dan Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(18) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995(19) (y mae'r ddwy yn ymwneud â throsglwyddo dirwyon o un awdurdodaeth i un arall) yn pennu ardal cyfiawnder lleol yng Nghymru, mae'r erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi cael eu gosod gan lys yn yr ardal cyfiawnder lleol honno.

RHAN 5PWERAU SWYDDOGION PYSGODFEYDD MÔR PRYDEINIG

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn cysylltiad â chychod pysgota

17.—(1At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag—

(a)cwch pysgota Prydeinig yng Nghymru;

(b)cwch pysgota Cymunedol yng Nghymru; neu

(c)cwch pysgota trydedd gwlad yng Nghymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.

(3Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar fwrdd y llong yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) ac, yn benodol—

(a)caiff chwilio am unrhyw gyfarpar ar y cwch, gan gynnwys dyfais olrhain drwy loeren, a chaiff eu harchwilio a chynnal profion arnynt, a'i gwneud yn ofynnol i'r personau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad a'r prawf;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, neu gyfarpar y cwch neu unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau eraill cysylltiedig neu unrhyw ddogfen ynglŷn â'r personau ar y bwrdd sydd dan ofal neu ym meddiant y person hwnnw;

(c)at ddibenion canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol i unrhwy berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad;

(ch)caiff archwilio a chymryd copïau a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch, tra bydd y swyddog yn cwblhau unrhyw chwilio, archwilio neu arolygu y darperir ar ei gyfer o dan yr erthygl hon;

(d)caiff ei gwneud yn ofynnol i feistr y cwch neu unrhyw berson sydd ar y pryd â gofal y cwch i roi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol ar ffurf weledol a darllenadwy y gellir mynd â hi oddi yno;

(dd)os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff gymryd meddiant a dal gafael yn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd; a

(e)caiff symud oddi yno, neu awdurdodi yn ysgrifenedig berson arall i symud oddi yno, y ddyfais olrhain drwy loeren, neu unrhyw ran ohoni, ac unrhyw gyfarpar arall ar fwrdd y cwch y mae'r swyddog o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn cadarnhau—

(i)a fu ymyrraeth â'r ddyfais olrhain drwy loeren, neu

(ii)a oes unrhyw gyfarpar arall ar fwrdd y cwch yn amharu ar drosglwyddo'r wybodaeth a nodir yn Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn

neu er mwyn archwilio, profi, trwsio neu ailosod y cyfryw gyfarpar.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu'r swyddog ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a

(b)dal gafael, neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn dal gafael, yn y cwch yn y porthladd,

a phan fydd swyddog o'r fath yn dal gafael mewn cwch neu'n gwneud hynny'n ofynnol, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y delir gafael yn y cwch neu fod hynny'n ofynnol hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig ychwanegol a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig

Diogelu swyddogion

18.  Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n cynorthwyo swyddog o'r fath yn rhinwedd erthygl 17(2) o'r Gorchymyn hwn yn atebol mewn unrhyw reithdrefnau sifil neu droseddol am unrhyw beth a gaiff ei wneud wrth arfer yn honedig y pwerau a roddwyd yn rhinwedd erthygl 17 o'r Gorchymyn os yw'r llys wedi'i fodloni—

(a)bod y weithred wedi cael ei gwneud mewn modd didwyll;

(b)bod seiliau rhesymol dros ei gwneud; a

(c)ei bod wedi cael ei gwneud gyda sgil resymol a gofal rhesymol.

Rhwystro etc

19.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)ym methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddog o'r fath gan erthygl 17 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu

(c)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny, unrhyw berson sy'n cynorthwyo swyddog o'r fath yn rhinwedd erthygl 17(2) neu unrhyw swyddog a awdurdodwyd gan swyddog o'r fath o dan erthygl 17(3)(e),

yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.

RHAN 6AMRYWIOL AC ATODOL

Darpariaethau o ran tramgwyddau a rheithdrefnau

20.—(1Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu gymeradwyaeth, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae'r partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r gymdeithas, mae'r swyddog hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Derbynioldeb tystiolaeth llyfrau lòg a dogfennau eraill

21.  Bydd unrhyw—

(a)llyfr lòg a gedwir o dan Erthyglau 6, 17(2) neu 28c;

(b)datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8(1), 11, 12, 17(2) neu 28f;

(c)adroddiad ar ymdrech wedi'i gwblhau o dan Erthygl 19b a 19c; neu

(ch)dogfen a luniwyd o dan Erthyglau 9 neu 13,

o Reoliad y Cyngor 2847/93 ac unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol a dderbynir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd, mewn unrhyw reithdrefnau am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan ddarpariaeth gyfatebol, yn cael eu derbyn yn dystiolaeth heb iddynt gael eu dangos gan unrhyw dyst neu fod unrhyw dyst yn mynd ar ei lw yn eu cylch a bydd yn dystiolaeth ddigonol o'r materion a ddatgenir ynddynt neu sy'n ymddangos ynddynt.

RHAN 7DIRYMU

Dirymu

22.—(1Dirymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000(20) .

(2Dirymir Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002(21)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(22).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru Reoliad y Comisiwn (EC) 2244/2003 (OJ Rhif L333, 20.12.03, t.17) sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail Lloeren (“y Rheoliad y Comisiwn”).

Mae erthyglau 5 i 9 yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig a'r Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru yn creu tramgwyddau am fynd yn groes i ofynion sy'n ymwneud â: gosod dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 5); diffodd dyfais olrhain drwy loeren mewn porthladd heb hysbysiad ymlaen llaw (erthygl 6); yr wybodaeth sydd i'w throsglwyddo gan y ddyfais olrhain drwy loeren (erthygl 7); y cyfrifoldebau ynghylch dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 8) a methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio (erthygl 9).

Mae erthyglau 11 i 14 yn gymwys i gychod pysgota trydedd gwlad yng Nghymru ac yn creu tramgwyddau am fynd yn groes i ofynion sy'n ymwneud â: gosod dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 11); yr wybodaeth sydd i'w throsglwyddo gan y ddyfais olrhain drwy loeren (erthygl 12); y cyfrifoldebau ynghylch dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 13) a methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio (erthygl 14).

Mae'r Gorchymyn yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd, heblaw am dramgwydd o dan erthygl 19, yn atebol ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na £50,000 ac ar gollfarn ar dditiad i ddirwy. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer casglu'r dirwyon a gaiff eu gosod, neu pan ymdrinnir â hwy fel pe baent wedi'u gosod, gan lys ynadon (erthygl 16).

At ddibenion gorfodi Rheoliad y Comisiwn mae'r Gorchymyn yn rhoi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig y pwerau i: fyrddio cychod pysgota; cynnal prawf ar unrhyw gyfarpar ar fwrdd y cwch; ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau sy'n ymwneud â'r cwch, cyfarpar, neu bysgota neu weithrediadau atodol yn cael eu dangos; chwilio'r cwch; tynnu oddi yno y ddyfais olrhain drwy loeren neu unrhyw gyfarpar arall ar y cwch; mynd â'r cwch i'r porthladd agosaf mwyaf addas a dal gafael yn y cwch (erthygl 17). Darperir amddiffyniad i swyddogion o'r fath rhag atebolrwydd yn erthygl 18. Mae methu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan swyddogion neu eu rhwystro wrth iddynt arfer eu pwerau yn dramgwydd o dan erthygl 19, sy'n dwyn atebolrwydd o ddirwy hyd at y mwyafswm statudol ar gollfarn ddiannod neu am ddirwy ar gollfarn ar dditiad. Mae erthyglau 20 a 21 yn ymdrin â thramgwyddau corfforaethol a thramgwyddau cyfatebol a derbynioldeb dogfennau mewn tystiolaeth.

Mae erthygl 22 yn dirymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 a Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002.

Mae Asesiad o Effaith Reoliadol o ran y Gorchymyn hwn wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 29. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

(2)

Mewnosodwyd adran 30(2A) gan O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 68(1) a (5)(a).

(5)

O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1.

(6)

O.J. Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(7)

O.J. Rhif L301, 14.12.95, t.35.

(8)

O.J. Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(9)

O.J. Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(10)

O.J. Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(11)

O.J. Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(12)

O.J. Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(13)

O.J. Rhif L122, 16.5.03, t.1.

(14)

O.J. Rhif L289, 7.11.03, t.1.

(15)

O.J. Rhif L128, 21.5.05, t.1.

(16)

O.J. Rhif L333, 20.12.03, t.17.

(17)

1980 p.43. Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adrannau 37 a 46, a Deddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) ac Atodlen 8 paragraff 219(a).

(19)

1995 p.46.

(22)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources