- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4. Mae erthyglau 5 i 9 yn gymwys i—
(a)cychod pysgota Prydeinig yng Nghymru; a
(b)cychod pysgota Cymunedol yng Nghymru;
5.—(1) Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y gellir ei diystyru â llaw yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn sy'n caniatáu rhoi mewnbwn ac allbwn safleoedd anwir yn euog o dramgwydd.
(3) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd heb ddyfais olrhain drwy loeren sy'n gweithio ar ei fwrdd yn euog o dramgwydd.
6. Mae person sydd â gofal cwch pysgota lle diffoddwyd dyfais olrhain drwy loeren heblaw yn unol ag Erthygl 8(3) o Rheoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
7.—(1) Mae person sydd â gofal cwch pysgota, y mae'r ddyfais olrhain drwy loeren sydd arno'n methu â throsglwyddo data gan gydymffurfio ag Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn fesul awr, yn euog o dramgwydd ac eithrio—
(a)os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren yn trosglwyddo data gan gydymffurfio ag Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn fesul dwyawr a bod Canolfan Monitro Pysgodfeydd gwladwriaeth y faner yn gallu, yn unol ag Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, nodi safle gwirioneddol y cwch pysgota, neu
(b)os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren wedi cael ei diffodd gan gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, neu
(c)os caiff y data ei gyfathrebu gan gydymffurfio ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglŷn ag ef i gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglyn ag ef i gydymffurfio ag Erthyglau 6(2) (a), (b), (c) neu (d) o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir gydag Erthygl 11(4) o'r Rheoliad hwnnw, yn euog o dramgwydd.
(3) Nid yw person sydd â gofal cwch pysgota y mae methiant ynglyn ag ef i gydymffurfio ag Erthygl 6(2)(d) o Reoliad y Comisiwn, os yw'r rhanddirymiad yn Erthygl 12(1) o Rheoliad hwnnw yn gymwys, yn euog o dramgwydd.
(4) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n mynd yn groes i Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
9.—(1) Os oes methiant technegol yn y ddyfais olrhain drwy loeren sydd ynglŷn â chwch pysgota neu os nad yw'r ddyfais olrhain drwy loeren ynglŷn ag ef yn gweithio, mae person sydd â gofal y cwch pysgota hwnnw ac sy'n methu â chyfathrebu gwybodaeth yn unol ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd yn groes i Erthygl 11(2) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd.
(3) Yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 11(2) o Reoliad y Comisiwn yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: