Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym—

a

i'r graddau y mae Rhan 2A o Ddeddf 1990 yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau neu orchmynion, i roi cyfarwyddiadau neu i gyhoeddi canllawiau, neu i'r graddau y mae Rhan 2A yn darparu mewn perthynas ag arfer unrhyw bŵer o'r fath, ar 16 Tachwedd 2006; a

b

ar gyfer pob diben arall, ar 10 Rhagfyr 2006.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.