- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifieliaid (Cymru) 2006 (OS 2006/116 (Cy.14) a ddiwygiwyd eisoes gan O.S. 2006/617 (Cy.69) ac O.S. 2006/2928 (Cy.263) (“y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid”), ac maent hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) Rheoliadau 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265) (“y Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu'r Cyfarwyddebau CE a ganlyn—
(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/86/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid o ran camffeclor (OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.16);
(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/87/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid o ran plwm, fflworin a chadmiwm (OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.19); ac
(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/13/EC sy'n diwygio Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid o ran deuocsinau a PCBs o fath deuocsin (OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.44).
3. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu hefyd ddarpariaeth a gynhwysir yng Nhgyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchredu fwydydd anifeiliaid cyfansawdd (OJ Rhif L86, 6.4.1979, t.30), fel y'i diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 807/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.36). Mae'r darpariaeth hon yn perthyn i gyfyngiadau ar amrywio ar gyfer datganiad o gynnwys lleithedd Bwydydd Anifeiliaid ar gyfer Anifeiliad anwes.
4. Mae'r Rheoliadau'n diwygio'r Rheoliadau Bwydydd Anifieiliaid—
(a)Yn Rhan B o Atodlen 4 drwy fewnosod cyfyngiadau ar amrywio ar gyfer datganiadau o gynnwys lleithedd bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes (rheoliad 2(2) ac Atodlen 1);
(b)ym Mhennod A o Atodlen 5 drwy ddiwygio'r cofnodion presennol ar gyfer cadmiwm, deuocsinau, fflworin a phlwm, a thrwy ychwanegu cofnodion newydd at swm y deuocsinau a PCBs o fath deuocsin (rheoliad 2(2) a Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn); a
(c)ym Mhennod D o Atodlen 5 drwy ddiwygiolr cofnodion presennol ar gyfer camffeclor (tocsaffen) (rheoliad 2(3) a Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn).
5. Mae'r Rheoliadau'n diwygio'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid—
(a)drwy fewnosod rheoliad 24A newydd i roi i swyddogion awdurdodedig awdurdod bwyd anifeiliaid bwerau mynediad, samplu, arolygu a gweithgareddau cysylltiedig er mwyn cyflawni'r swyddogaethau ymchwil sy'n ofynnol gan Gyfarwyddeb 2002/32/EC fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/13/EC (rheoliad 3(2)); a
(b)drwy ddiwygio rheoliad 27(4) (sy'n ymdrin â datgelu gwybodaeth ynghylch samplu) er mwyn ymestyn ei gymhwysiad i samplu a gynhelir o dan reoliad 24A (rheoliad 3(3)).
6. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: