Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) ar 16 Mawrth 2006—
(a)adran 47 (ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r adran honno, Rhan 4 o Atodlen 5);
(b)adran 53;
(c)paragraff 4 o Atodlen 4; ac
(ch)darpariaethau eraill i'r graddau y maent yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym, adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nas daw i rym drwy'r Gorchymyn hwn ar 16 Mawrth 2006), a Rhan 10 o Atodlen 5 iddi.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn—
(a)yn diddymu adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac Atodlen 2 iddi, a fydd yn dileu'r gofyniad i awdurdodau lleol i gontractio allan eu swyddogaethau gwaredu gwastraff (adran 47 o Ddeddf 2005);
(b)yn gwneud rhai diddymiadau canlyniadol i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005);
(c)yn rhoi effaith i fân ddiwygiad i adran 60(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 o ran ymyriad â safleoedd gwastraff a daliedyddion gwastraff (paragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005); ac
(ch)yn galluogi awdurdodau casglu gwastraff i ddefnyddio'u pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (adran 53 o Ddeddf 2005).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf 2005 i'r graddau y maent yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth (neu i wneud darpariaeth drwy ddulliau o'r fath).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym yn rhinwedd erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn). Mae adran 104 yn diwygio'r trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac yn dwyn i rym y diddymiad cysylltiedig yn Rhan 10 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005.
Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud arbediad ynglŷn â chychwyn adran 47 o Ddeddf 2005.