Search Legislation

Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 867 (Cy.79)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

21 Mawrth 2006

Yn dod i rym

31 Mawrth 2006

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 6, 7(1), 15(4), 28, 32(2) 34(7), 35(3), 87(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 a daw i rym ar 31 Mawrth 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw tarw, buwch, bustach, anner (heffer, treisiad) neu lo;

ystyr “anifail dan amheuaeth” (“suspected animal”) yw anifail buchol dan amheuaeth o fod wedi'i effeithio gan lewcosis buchol ensootig oherwydd—

(a)

ei fod yn dangos nodau lymff chwyddedig di-boen neu newidiadau tiwmorol (heblaw haemangiomâu, papilomâu neu ddafadennau) ar rannau o'i gorff; neu

(b)

bod archwiliad hematolegol o'r anifail wedi datgelu cyfrif lymffosytau o fewn yr ystod a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; neu

(c)

bod unrhyw brawf arall a wnaethpwyd ar yr anifail wedi dangos presenoldeb posibl haint o achos feirws lewcosis buchol;

ystyr “anifail yr effeithiwyd arno” (“affected animal” yw anifail buchol yr effeithiwyd arno gan lewcosis buchol ensootig neu a heintiwyd gan feirws lewcosis buchol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw arolygydd milfeddygol a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas anifail buchol ac mae'n cynnwys rhan o garcas a'r cig, esgyrn, croen, carnau, gweddillion neu ran arall o anifail buchol, ar wahân neu fel arall, neu unrhyw gyfran ohono;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “labordy a gymeradwywyd” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i brofi llaeth am lewcosis buchol ensootig;

ystyr “lladd-dy a gymeradwywyd” (“approved slaughterhouse”) yw lladd-dy a gymeradwywyd gan swyddog i gigydda adweithyddion;

ystyr “llawfeddyg milfeddygol” (“veterinary surgeon”) yw llawfeddyg milfeddygol neu ymarferydd milfeddygol a gofrestrwyd o dan Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol 1966(2);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys tir ag adeiladau neu dir hebddynt;

ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd ar y pryd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth am anifeiliaid a'r clefyd arnynt neu anifeiliaid yr amheuir bod y clefyd arnynt, neu garcasau anifeiliaid y bu'r clefyd arnynt neu anifeiliaid yr amheuir y bu'r clefyd arnynt, ar gyfer yr ardal lle mae'r anifeiliaid neu'r carcasau; ac

ystyr “swyddog” (“officer”) yw arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol.

(2At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 wrth ei gymhwyso i'r Gorchymyn hwn, estynnir diffiniad “disease” yn adran 88(1) drwy hyn i gynnwys pob ffurf ar lewcosis buchol.

(3Rhaid i bob hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig a gellir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu yn ysgrifenedig unrhyw bryd.

Hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol

3.—(1Rhaid i berson sy'n meddu ar anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth neu berson sydd â rheolaeth ar yr anifail hwnnw, neu lawfeddyg milfeddygol sy'n archwilio'r anifail hwnnw, hysbysu'r canlynol am y ffaith honno cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl —

(a)arolygydd awdurdod lleol; neu

(b)y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol.

(2Pan hysbysir arolygydd awdurdod lleol o dan baragraff (1) o'r erthygl hon, rhaid i'r arolygydd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno ar unwaith.

(3Rhaid i berson sy'n meddu ar anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth neu berson â gofal yr anifail hwnnw, ei gadw yn y fangre lle y'i cedwir hyd nes i arolygydd milfeddygol ei archwilio.

Hysbysu am glefyd mewn carcasau

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar garcas anifail buchol sy'n dangos arwyddion newidiadau tiwmorol (heblaw haemangiomâu, papilomâu, neu ddafadennau) yn y nodau lymff neu unrhyw ran ohono neu berson â gofal y carcas hwnnw, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.

(2Rhaid i berson sy'n meddu ar garcas y mae paragraff (1) o'r erthygl hon yn gymwys iddo, neu berson â gofal y carcas hwnnw, ei gadw yn y fangre lle y'i cedwir hyd nes i arolygydd milfeddygol ei archwilio neu hyd nes i arolygydd milfeddygol benderfynu nad oes angen archwiliad.

Hysbysu am glefyd mewn samplau labordy

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pan fydd archwiliad mewn labordy o sampl a gymerwyd oddi wrth anifail buchol yn dangos tystiolaeth o fodolaeth lewcosis buchol ensootig, rhaid i'r person â gofal y labordy hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno o fewn 24 awr.

(2Nid yw'r rhwymedigaeth i hysbysu ym mharagraff (1) yn gymwys pan fydd lewcosis buchol ensootig wedi'i gyflwyno i sampl labordy yn fwriadol.

Samplo llaeth i'w brofi am dystiolaeth o lewcosis buchol ensootig

6.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n prynu llaeth oddi wrth berchennog buches odro yng Nghymru neu'r person â gofal amdani i'w ailwerthu fel llaeth neu gynnyrch llaeth—

(a)ddewis labordy a gymeradwywyd i brofi'r llaeth hwnnw am lewcosis buchol ensootig;

(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am y labordy a ddewiswyd;

(c)unwaith bob pum mlynedd ac ar ei draul ei hun gyflwyno dwy sampl o laeth i'r labordy hwnnw i'w brofi am dystiolaeth o lewcosis buchol ensootig a rhaid gadael bwlch o bedwar mis o leiaf rhwng pob tro y cymerir samplau a rhaid i'r samplau gynnwys llaeth oddi wrth bob buwch odro yn y fuches honno y mae ei llaeth ar gael i'w werthu;

(ch)ychwanegu at y sampl y cadwolyn hwnnw y mae'r person â gofal am y labordy yn gofyn amdano;

(d)sicrhau bod label ar y sampl sy'n cynnwys—

(i)cod bariau neu ddyfais arall sy'n galluogi'r labordy i adnabod y fuches neu'r rhan o fuches y cymerwyd y sampl ohoni; a

(ii)dyddiad cymryd y sampl.

(2Mae person yn esempt o'r dyletswydd a osodir gan baragraff (1) uchod, os yw'r person hwnnw dim ond yn prynu llaeth amrwd wedi'i ragbacio i'w ailwerthu—

(a)yn y cynhwysydd y cafodd y person hwnnw ef ynddo a'r caewyr heb eu torri;

(b)o gerbyd a ddefnyddir yn gyfreithlon fel mangre siop; a

(c)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.

(3Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “defnyddiwr olaf” yw unrhyw berson sy'n prynu llaeth heblaw at ddibenion—

(a)ei ailwerthu;

(b)sefydliad arlwyo; neu

(c)busnes gweithgynhyrchu.

(4Ni chaiff unrhyw berson mewn unrhyw ddull na modd drin, ac eithrio drwy ychwanegu cadwolyn yn unol â pharagraff (1)(ch) uchod, unrhyw sampl neu ei label, nac ymyrryd â hwy a bernir bod person wedi trin neu ymyrryd â sampl os yw'r person yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas ag ef sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad y profi sy'n ofynnol o dan yr erthygl hon.

(5Rhaid i'r person â gofal am labordy a gymeradwywyd gydymffurfio â'r darpariaethau canlynol fel un o amodau'r gymeradwyaeth —

(a)rhaid i'r person hwnnw gadw cofnod o'r buchesi yr anfonir eu llaeth i'w brofi o dan baragraff (1) uchod;

(b)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os na cheir sampl pan y'i disgwylir oddi wrth un o'r buchesi a restrir yn y cofnodion a gedwir dan is-baragraff (a) uchod;

(c)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 24 awr pan fydd sampl wedi ei brofi am dystiolaeth o fodolaeth o lewcosis buchol ensootig a bod y canlyniad yn gadarnhaol;

(ch)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis pan fydd sampl wedi ei brofi am dystiolaeth o fodolaeth lewcosis buchol ensootig a bod y canlyniad yn negyddol; a

(d)rhaid i'r person hwnnw gadw cofnod o ganlyniadau'r holl brofion a wneir am dystiolaeth o fodolaeth lewcosis buchol ensootig am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad y prawf.

(6Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gam sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd y cam hwnnw, neu beri ei gymryd, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chymryd y cam gofynnol.

Ymchwiliad milfeddygol i fodolaeth lewcosis buchol ensootig

7.—(1Pan fydd rheswm i gredu, ar sail gwybodaeth a gafwyd o dan erthyglau 3, 4, 5, neu 6 neu fel arall, bod lewcosis buchol ensootig yn bodoli neu wedi bodoli yn ystod y 56 o ddyddiau blaenorol yn unrhyw fangre, rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl i gadarnhau —

(a)ai lewcosis buchol ensootig yw'r clefyd hwnnw;

(b)y cyfnod o amser y mae'r clefyd wedi bodoli yn y fangre; ac

(c)tarddiad posibl y clefyd yn y fangre.

(2Pan fydd arolygydd milfeddygol yn cynnal ymchwiliad o dan yr erthygl hon i fodolaeth lewcosis buchol ensootig, rhaid i—

(a)meddiannydd y fangre y mae'r ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef, a chyflogeion y meddiannydd;

(b)unrhyw berson sydd neu a fu'n meddu ar unrhyw anifail buchol sydd neu a fu yn y fangre hwnnw, neu berson sydd neu a fu â gofal yr anifail hwnnw; ac

(c)unrhyw lawfeddyg milfeddygol a fu'n trin unrhyw anifail buchol yn y fangre honno neu yr ymgynghorwyd ag ef ynghylch unrhyw anifail buchol neu garcas a gadwyd yn y fangre honno

roi'r cyfleusterau rhesymol hynny, a chydymffurfio â'r gofynion rhesymol hynny, sy'n angenrheidiol at ddibenion yr ymchwiliad.

(3Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n mynd i fangre o dan ddarpariaethau'r erthygl hon roi'r rhesymau dros fynd iddi, os bydd y meddiannydd neu'r person â gofal yr anifeiliaid buchol yn y fangre yn gofyn amdanynt.

Pwerau arolygwyr milfeddygol i wahardd neu reoli symud anifeiliaid buchol

8.  Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros gredu y gall symud unrhyw anifail buchol o'r naill le i'r llall greu perygl lledaenu lewcosis buchol ensootig, caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion atal y clefyd rhag cael ei ledaenu, gyflwyno hysbysiad i berchennog neu feddiannydd y lle hwnnw neu i berchennog yr anifail buchol, neu i'r person a gofal amdano—

(a)sy'n gwahardd symud yr anifail hwnnw;

(b)ei gwneud yn ofynnol ei gadw ar wahân yn gorfforol oddi wrth anifeiliaid buchol eraill ar y fangre;

(c)yn gosod yr amodau hynny yn ymwneud â'i symud ac a fernir yn gyfleus.

Marcio anifeiliaid yr effeithiwyd arnynt

9.—(1Rhaid i berchennog anifeiliaid buchol neu'r person a gofal amdanynt ac a gedwir ar y fangre, os mynnir hynny gan hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd milfeddygol, farcio'r anifeiliaid hynny mewn dull a benna'r arolygydd milfeddygol.

(2Caiff arolygydd milfeddygol baentio, stampio, clipio, tagio neu farcio anifeiliaid buchol a gedwir yn unrhyw fangre mewn dull arall.

(3Ni chaiff unrhyw berson newid, tynnu, dileu, difwyno, na cheisio newid, tynnu, dileu, neu ddifwyno'r marc hwnnw.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio semen

10.  Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros unrhyw anifeiliaid yr effeithir arnynt neu unrhyw anifeiliaid amheus a gedwir ar unrhyw fangre a hwnnw'n hysbysiad sy'n gwahardd defnyddio semen o anifeiliaid o'r fath. neu sy'n cyfyngu ar ei ddefnyddio.

Glanhau a diheintio

11.—(1Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae neu lle y bu anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth, neu garcas y fath anifal, ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd, ar draul y meddiannydd ei hun, lanhau a diheintio—

(a)y fangre neu unrhyw ran ohoni; neu

(b)unrhyw offer, cyfarpar neu beth a ddefnyddir mewn cysylltiad ag anifail yr effeithiwyd arno, anifail dan amheuaeth, neu garcas y fath anifal.

(2Os na chydymffurfir â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni'r gwaith glanhau a diheintio, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae arolygydd milfeddygol wedi mynd iddynt yn rhesymol oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.

(3At ddibenion arfer y pwerau o dan baragraff (1) uchod caiff arolygydd milfeddygol, drwy ddangos ei awdurdod pan ofynnir iddo wneud hynny, fynd i mewn i fangre y cyflwynwyd hysbysiad o dan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag ef, a chaiff fynd ag unrhyw berson y barna ei fod yn angenrheidiol gydag ef, a rhaid i'r arolygydd milfeddygol, os bydd y meddiannydd neu'r person â gofal y fangre yn gofyn iddo wneud hynny, ddweud wrtho beth yw'r rhesymau dros fynd i mewn i'r fangre.

Darpariaethau arbennig ar gyfer anifeiliaid a fewnforir

12.  Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd a gymeradwyd o dan Orchymyn Menwforio Anifeiliaid 1977(3) a dim ond mewn perthynas ag anifeiliaid buchol a fewnforir o'r amser a bennir yn y drwydded a ddyroddir ar gyfer yr anifeiliaid hynny o dan erthygl 11(5) o'r Gorchymyn hwnnw y byddant yn gymwys.

Cymhwyso adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i lewcosis buchol ensootig

13.  Mae adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gymwys i lewcosis buchol ensootig.

Hysbysu am gigydda arfaethedig

14.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfaethu cigydda anifail buchol o dan y pwerau a gynhwysir yn adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 wrth iddi gael ei chymhwyso i lewcosis buchol ensootig, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad cigydda arfaethedig i berchennog yr anifail neu i'r person sydd â gofal amdano ac sy'n hysbysu'r person hwnnw am y cigydda arfaethedig ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ildio'r anifail i gael ei gigydda (neu i gadw'r anifail tra erys am gael ei gigydda) a'i ynysu i'r graddau y mae'n ymarferol oddi wrth anifeiliaid nas pennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i'r person y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw iddo beidio â symud yr anifail o'r fangre neu o ran ohoni ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac yn unol â'r telerau ynddi.

Pwerau arolygwyr

15.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, bydd gan arolygydd, ar ôl dangos os gofynnir iddo neu iddi, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre a feddiennir fel mangre preifat.

(2Caiff arolygydd—

(a)arolygu unrhyw anifail buchol neu unrhyw garcas ar y fangre;

(b)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt ar y fangre a chymryd copïau o'r cofnodion hynny; neu

(c)mynd ag unrhyw berson arall gydag ef neu hi y gellir ei ystyried yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau

16.  Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o'r Gorchymyn hwn neu'n methu â chydymffurfio â hi heb awdurdod neu esgus cyfreithlon yn euog o dramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Gorfodi

17.  Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn yn ei ardal ddaearyddol.

Dirymu

18.  I'r graddau y mae yn gymwys i Gymru, mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig 1997(4) drwy hyn wedi'i ddirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006

ATODLENProfi anifeiliaid buchol yn hematolegol

Oedran yr Anifail BucholYstod annormal: y nifer o lymffosytau fesul milimetr ciwbigUnedau S.I.
O dan flwydd oedMwy nag 11,000mwy nag 11.0
Blwydd ond o dan 2 flwyddMwy na 10,000mwy na 10.0
2 flwydd ond o dan 3 blwyddMwy nag 8,500mwy nag 8.5
3 blwydd ond o dan 4 blwyddMwy na 7,500mwy na 7.5
4 blwydd ond o dan 5 mlwyddMwy na 6,500mwy na 6.5
5 mlwydd ond o dan 6 mlwyddMwy na 6,000mwy na 6.0
6 blwydd a throsoddMwy na 5,500mwy na 5.5

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig 1997 (O.S. 1997/757) o ran Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn gweithredu'r darpariaethau sy'n ymwneud â llaeth yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC, fel y'i diwygiwyd (ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned) (O.J. Rhif L121, 29.7.64, t.1977) a Chyfarwyddeb y Cyngor 77/391 EEC, fel y'i diwygiwyd, (cyflwyno mesurau'r Gymuned i ddileu brwselosis, twbercwlosis a lewcosis) (O.J. Rhif L145, 13.6.77, t.44). Mae'r Cyfarwyddebau hyn yn gwneud gweithredu rhaglen fonitro a phrofi yn ofynnol at ddiben cadw statws swyddogol Prydain Fawr fel lle sy'n rhydd rhag lewcosis buchol ensootig o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC.

Mae'r prif newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn yn ymwneud â'r trefniadau profi llaeth am dystiolaeth o lewcosis buchol ensootig a dileu'r rhestr o labordai a gymeradwywyd a gynhwyswyd yn Atodlen 1 i Orchymyn 1997.

Rhaid hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol os canfyddir bod unrhyw anifail, carcas neu sampl labordy wedi'i heintio â lewcosis buchol ensootig (erthyglau 3, 4 a 5).

Mae Erthygl 6 yn nodi dyletswyddau'r sawl sy'n prynu llaeth i'w ailwerthu i sicrhau bod y llaeth yn cael ei anfon i'w brofi mewn labordy a gymeradwywyd.

Rhaid i'r person y mae labordy a gymeradwywyd dan ei ofal hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 24 awr os yw canlyniad unrhyw brawf yn gadarnhaol ac o fewn mis os yw'r canlyniad yn negyddol. Hefyd, rhaid i'r person hwnnw gadw cofnodion o'r holl brofion a wneir am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad y prawf (erthygl 6(5)(e)).

Mae methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn yn dramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Mae Arfarniad Rheoliadol yn ymwneud â'r Gorchymyn hwn wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa y Prif Swyddog Milfeddygol, Adran Clefydau Endemig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1981 p.22. Fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42. Mae'r swyddogaethau o dan Ddeddf 1981 yn awr wedi eu breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol drwy O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources