Enwi, cymhwyso a dehongli

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.

2

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Diwrnod penodedig4

1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaeth Drosiannol5

Hyd nes bod rheoliadau'n cael eu gwneud o dan adran 31 mewn perthynas â Chymru, mae'r cyfeiriad ym mharagraff 9 o Atodlen 2 at “any transfer of control authorised by regulations under section 31” i fod yn effeithiol fel pe bai'n gyfeiriad at “any transfer of control agreement under Schedule 13” o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19982.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol