Search Legislation

Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 940 (Cy.89)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

28 Mawrth 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 67(2), 2(A), (6) ac adran 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 8 iddi,(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn,

ystyr “awdurdod lleol priodol” (“appropriate local authority”) yw—

(i)

yr awdurdod lleol y maethir y plentyn yn breifat yn ei ardal; neu

(ii)

yn achos cynnig i faethu plentyn yn breifat, yr awdurdod lleol y cynigir bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat yn ei ardal;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989; ac

ystyr “gofalydd maeth preifat” (“private foster carer”) yw person sy'n maethu plentyn yn breifat.

Hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat

3.—(1Rhaid i berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig—

(a)o leiaf chwe wythnos cyn bod y trefniant maethu preifat i gychwyn; neu

(b)os yw'r trefniant maethu preifat i gychwyn o fewn chwe wythnos, ar unwaith.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n ymwneud a threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) i blentyn gael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r trefniant cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud.

(3Rhaid i riant plentyn, a pherson nad yw'n rhiant ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn, nad yw'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, ond sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol o'r trefniant.

(4Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (1) i (3) gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a bennir yn Atodlen 1 y mae'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gallu ei darparu.

Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan geir hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat

4.—(1Os bydd awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 3 rhaid iddo drefnu, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf (lles plant a faethir yn breifat), bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—

(a)yn ymweld â'r fangre y cynigir y gofalir am y plentyn ynddi a'i letya ynddi;

(b)yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau'r aelwyd;

(c)yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol;

(ch)yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a

(d)cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.

(2Ar ôl cwblhau'r swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.

Hysbysiad gan berson sydd eisoes yn maethu plentyn yn breifat

5.—(1Rhaid i berson sy'n maethu plentyn yn breifat ond nad yw wedi hysbysu'r awdurdod lleol priodol yn unol â rheoliad 3 hysbysu'r awdurdod lleol priodol ar unwaith.

(2Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys cymaint o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1 ag y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei darparu.

Hysbysiad bod plentyn yn mynd i fyw gyda gofalydd maeth preifat

6.—(1Rhaid i berson a roddodd hysbysiad o dan reoliad 3(1), o fewn 48 awr ar ôl cychwyn y trefniant, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.

(2Rhaid i riant plentyn, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(2) neu 3(3) o fewn 48 awr ar ôl i'r plentyn fynd i fyw at ofalydd maeth preifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.

Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan ddaw hysbysiad i law am blentyn a faethir yn breifat

7.  Os yw awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 5 neu 6, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf rhaid iddo drefnu bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—

(a)yn ymweld â'r fangre y gofalir am y plentyn ynddi a'i letya ynddi;

(b)yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;

(c)yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol;

(ch)yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a

(d)yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.

(2Ar ôl iddo gwblhau ei swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.

Ymweliadau dilynol â phlant a faethir yn breifat

8.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â phob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal—

(a)ym mlwyddyn gyntaf y trefniant maethu preifat ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na chwe wythnos; a

(b)mewn ail flwyddyn neu unrhyw flwyddyn wedyn, ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na 12 wythnos.

(2Yn ychwanegol at ymweliadau a wneir yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod pob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal yn cael ymweliad gan swyddog pan wneir cais rhesymol am hynny gan y plentyn, y gofalydd maeth preifat, rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

(3Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog siarad â'r plentyn ar ei ben ei hun onid yw o'r farn bod hynny'n amhriodol.

(4Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog gadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 y mae'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.

(5Rhaid i'r swyddog wneud adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol ar ôl pob ymweliad a wnaed yn unol â'r rheoliad hwn.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y trefniant maethu preifat yn cychwyn pan ddaw'r awdurdod lleol yn ymwybodol ohono.

Hysbysiad o newid mewn amgylchiadau

9.—(1Rhaid i ofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol—

(a)o unrhyw newid yn ei gyfeiriad;

(b)o unrhyw berson sy'n peidio â bod yn rhan o'i aelwyd neu'n gyflogedig ar ei aelwyd;

(c)o unrhyw dramgwydd pellach y collfarnwyd y gofalydd maeth preifat ohono neu berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd;

(ch)o unrhyw ddatgymhwysiad pellach a osodwyd arno neu ar berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd o dan adran 68 o'r Ddeddf; ac

(d)os oes unrhyw berson yn dechrau bod yn rhan o aelwyd y gofalydd maeth preifat neu'n gyflogedig ar ei aelwyd, ac unrhyw dramgwydd y collfarnwyd y person hwnnw ohono, ac unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r ddwy adran honno.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi—

(a)ymlaen llaw pan fo hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, dim mwy na 48 awr ar ôl y newid mewn amgylchiadau.

(3Os bydd cyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat yn ardal awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r awdurdod y cyflwynir yr hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn anfon at yr awdurdod dros yr ardal—

(a)enw a chyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat;

(b)enw'r plentyn a faethir yn breifat; ac

(c)enw a chyfeiriad rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

(4Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o unrhyw newid yng nghyfeiriad personol y person hwnnw.

Hysbysiad o ddiwedd trefniant maethu preifat

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i unrhyw berson a fu'n maethu plentyn yn breifat, ond sydd wedi gorffen gwneud hynny, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o fewn 48 awr a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.

(2Os bu unrhyw berson yn maethu plentyn yn breifat, ond mae wedi gorffen gwneud hynny, oherwydd bod y plentyn wedi marw, yn yr hysbysiad rhaid i'r person hwnnw nodi mai dyna yw'r rheswm.

(3Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os bydd y gofalydd maeth preifat yn bwriadu ailddechrau'r trefniant maethu preifat ar ôl bwlch nad yw'n fwy na 27 diwrnod ond—

(a)os bydd y gofalydd maeth preifat wedyn yn rhoi'r gorau i'w fwriad; neu

(b)os yw'r bwlch yn dod i ben ac nad yw'r gofalydd maeth preifat wedi gweithredu ei fwriad,

rhaid i'r gofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr ar ôl iddo roi'r gorau i'w fwriad neu, yn ôl y digwydd, ar ôl i'r bwlch ddod i ben.

(4Rhaid i unrhyw riant i blentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod lleol o dan reoliad 3(2) neu (3), hysbysu'r awdurdod lleol priodol o ddiweddu'r trefniant maethu preifat a rhaid iddynt gynnwys hefyd yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.

Ffurf yr hysbysiadau

11.  Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

Monitro cyflawni'r swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf

12.  Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r dull y mae'n cyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf a rhaid iddo benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw.

Dirymu a darpariaeth drosiannol

13.  Dirymir Rheoliadau Plant (Trefniadau ar gyfer Maethu Preifat) 1991(2) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio bod unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hynny cyn bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym yn cael ei drin fel pe bai wedi'i roi o dan y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2006

Rheoliadau 3 a 5

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU YN YR HYSBYSIAD

1.  Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) yw—

(a)enw, rhyw, dyddiad a man geni, cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn;

(b)enw a chyfeiriad presennol y person sy'n rhoi'r hysbysiad ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;

(c)enw a chyfeiriad presennol gofalydd maeth arfaethedig y plentyn neu ofalydd maeth presennol y plentyn ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;

(ch)hyd arfaethedig y trefniant maethu preifat;

(d)enw a chyfeiriad presennol rhieni'r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac (os yw'n wahanol) unrhyw berson arall y derbynnir neu y derbyniwyd y plentyn oddi wrtho;

(dd)enw a chyfeiriad presennol brodyr a chwiorydd y plentyn sy'n finoriaid, a manylion y trefniadau am eu gofal;

(e)enw a chyfeiriad presennol unrhyw berson, heblaw person a bennir yn is-baragraff (d), sydd â rhan neu a fu â rhan (p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) wrth drefnu i'r plentyn gael ei faethu'n breifat; a

(f)y dyddiad y bwriedir bod y trefniant maethu yn cychwyn, neu'r dyddiad pan gychwynnodd.

2.  Yn achos person sy'n rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(1) neu 5(1) mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) hefyd yn cynnwys—

(a)unrhyw dramgwydd y collfarnwyd ef ohono;

(b)unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r adrannau hynny;

(c)unrhyw gollfarn, datgymhwysiad neu waharddiad o'r fath a osodwyd ar unrhyw berson arall sy'n byw ar yr un aelwyd neu a gyflogir ar yr un aelwyd.

(ch)unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg yn ei gylch;

(d)unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg o ran plentyn a fu yn ei ofal; ac

(dd)unrhyw hawl neu bŵer ynglŷn â phlentyn sydd neu a fu o dan ei ofal a gafodd eu breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod a bennwyd mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf o dan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau hynny.

Rheoliad 4

ATODLEN 2LLES PLANT SYDD I'W MAETHU YN BREIFAT

Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(d) yw—

(a)bod hyd arfaethedig y trefniant wedi cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—

(i)rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a

(ii)y gofalydd maeth preifat arfaethedig;

(b)dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);

(c)addasrwydd y llety arfaethedig;

(ch)gallu'r gofalydd maeth preifat arfaethedig i edrych ar ôl y plentyn;

(d)addasrwydd aelodau eraill o aelwyd y gofalydd maeth preifat arfaethedig;

(dd)bod y trefniadau a gytunir ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, personau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, a phersonau eraill sy'n arwyddocaol i'r plentyn, wedi cael eu cytuno a'u deall ac y bydd y trefniadau hynny'n foddhaol ar gyfer y plentyn;

(e)bod y rhieni neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cytuno ar drefniadau ariannol â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal;

(f)bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol y plentyn;

(ff)bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;

(g)sut y gwneir penderfyniadau ynghylch gofal y plentyn; ac

(ng)a yw'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen.

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 3LLES PLANT A FAETHIR YN BREIFAT

3.  Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliadau 7(1)(d) ac 8(4) yw—

(a)bod diben a hyd arfaethedig y trefniant maethu yn cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—

(i)rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a

(ii)y gofalydd maeth preifat;

(b)dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);

(c)bod datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad yn briodol a boddhaol;

(ch)bod anghenion y plentyn sy'n codi o'i gred grefyddol, ei darddiad hiliol, a'i gefndir diwylliannol ac ieithyddol yn cael eu diwallu;

(d)bod y trefniadau ariannol ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal yn gweithio;

(dd)gallu'r gofalydd maeth preifat i edrych ar ôl y plentyn;

(e)addasrwydd y llety;

(f)bod y trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol, wrth law, ac yn benodol, fod y plentyn wedi'i roi ar restr person sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol â Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

(ff)y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;

(g)safon y gofal a roddir i'r plentyn;

(ng)addasrwydd aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;

(h)a yw'r gofalydd maeth preifat, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen;

(i)sut y gwneir penderfyniadau am ofal y plentyn; ac

(l)a yw'r cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, neu unrhyw berson arall y trefnwyd cyswllt ag ef, yn foddhaol ar gyfer y plentyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) 1991 o ran Cymru, heblaw bod unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Rheoliadau hynny i'w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn. Mae hyn yn dilyn diwygiadau i'r cynllun hysbysu maethu preifat a wnaed gan adran 44 o Ddeddf Plant 2004.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat, unrhyw berson sy'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, a rhiant y plentyn neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, i hysbysu'r awdurdod lleol ymlaen llaw bod y trefniant yn cychwyn. Rhaid i hysbysiad gan y gofalydd maeth preifat arfaethedig gael ei roi o leiaf chwe wythnos cyn bod y trefniant maethu preifat i gychwyn, neu os yw'r trefniant i gychwyn o fewn chwe wythnos yna ar unwaith. Rhaid i bawb arall y mae'n ofynnol iddynt roi hysbysiad o dan reoliad 3 wneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud, neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol o'r trefniant.

Dylai'r hysbysiad gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a osodir yn Atodlen 1 y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei rhoi.

Ar ôl iddo gael hysbysiad rhaid i'r awdurdod lleol wedyn drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â'r lle y bydd y plentyn yn byw a siarad â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, aelodau ei aelwyd, y plentyn ac eraill (rheoliad 4) a chadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos yn berthnasol i'r swyddog. Yna rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod.

Mae rheoliad 5 yn gosod y gofyniad i hysbysu'r awdurdod lleol o'r trefniant os na roddwyd hysbysiad o dan reoliad 3. Mae rheoliad 6 yn gosod y gofyniad i hysbysu awdurdod lleol pan fydd trefniant maethu preifat yr hysbyswyd hwy ohono o dan reoliad 3 yn cychwyn mewn gwirionedd. Ar ôl iddo gael hysbysiad o dan naill ai reoliad 5 neu reoliad 6 rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod swyddog yn gwneud ymweliadau ac yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol (rheoliad 7).

Mae rheoliad 8 yn ymwneud ag ymweliadau'r awdurdod lleol â'r plentyn cyn gynted ag y bydd y trefniant maethu preifat wedi cychwyn. Mae'n darparu pryd y dylai ymweliadau ddigwydd a beth ddylai swyddog o'r awdurdod ei wneud wrth ymweld. Ar ôl pob ymweliad mae'n ofynnol i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.

Mae'n ofynnol i ofalwyr maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o newidiadau penodol mewn amgylchiadau, megis newid yn y cyfeiriad neu pan fydd rhywun yn ymuno neu'n ymadael â'r aelwyd. Os bydd y gofalydd maeth preifat yn symud i ardal awdurdod lleol arall yna mae'n ofynnol bod gwybodaeth benodol yn cael ei rhoi i'r awdurdod lleol dros yr ardal newydd gan yr awdurdod lleol dros yr hen ardal. Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol o newid yn y cyfeiriad (rheoliad 9).

Mae rheoliad 10 yn ymwneud â hysbysu diwedd y trefniant. Rhaid i berson a fu'n maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr o ddiweddu maethu'r plentyn yn breifat, ac os y rheswm dros ddiweddu'r trefniant yw bod y plentyn wedi marw, yna rhaid i'r person ddweud wrth yr awdurdod lleol mai hwnnw yw'r rheswm.

Rhaid i bob hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig (rheoliad 11).

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro'r dull y maent yn cyflawni eu swyddogaethau o ran plant a faethir yn breifat ac i benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw.

(1)

1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources