xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Mawrth 2006
Yn dod i rym
1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 67(2), 2(A), (6) ac adran 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 8 iddi,(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn,
ystyr “awdurdod lleol priodol” (“appropriate local authority”) yw—
yr awdurdod lleol y maethir y plentyn yn breifat yn ei ardal; neu
yn achos cynnig i faethu plentyn yn breifat, yr awdurdod lleol y cynigir bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat yn ei ardal;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989; ac
ystyr “gofalydd maeth preifat” (“private foster carer”) yw person sy'n maethu plentyn yn breifat.
3.—(1) Rhaid i berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig—
(a)o leiaf chwe wythnos cyn bod y trefniant maethu preifat i gychwyn; neu
(b)os yw'r trefniant maethu preifat i gychwyn o fewn chwe wythnos, ar unwaith.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n ymwneud a threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) i blentyn gael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r trefniant cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud.
(3) Rhaid i riant plentyn, a pherson nad yw'n rhiant ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn, nad yw'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, ond sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol o'r trefniant.
(4) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (1) i (3) gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a bennir yn Atodlen 1 y mae'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gallu ei darparu.
4.—(1) Os bydd awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 3 rhaid iddo drefnu, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf (lles plant a faethir yn breifat), bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—
(a)yn ymweld â'r fangre y cynigir y gofalir am y plentyn ynddi a'i letya ynddi;
(b)yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau'r aelwyd;
(c)yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol;
(ch)yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a
(d)cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(2) Ar ôl cwblhau'r swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
5.—(1) Rhaid i berson sy'n maethu plentyn yn breifat ond nad yw wedi hysbysu'r awdurdod lleol priodol yn unol â rheoliad 3 hysbysu'r awdurdod lleol priodol ar unwaith.
(2) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys cymaint o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1 ag y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei darparu.
6.—(1) Rhaid i berson a roddodd hysbysiad o dan reoliad 3(1), o fewn 48 awr ar ôl cychwyn y trefniant, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.
(2) Rhaid i riant plentyn, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(2) neu 3(3) o fewn 48 awr ar ôl i'r plentyn fynd i fyw at ofalydd maeth preifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.
7. Os yw awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 5 neu 6, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf rhaid iddo drefnu bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—
(a)yn ymweld â'r fangre y gofalir am y plentyn ynddi a'i letya ynddi;
(b)yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;
(c)yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol;
(ch)yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a
(d)yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(2) Ar ôl iddo gwblhau ei swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
8.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â phob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal—
(a)ym mlwyddyn gyntaf y trefniant maethu preifat ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na chwe wythnos; a
(b)mewn ail flwyddyn neu unrhyw flwyddyn wedyn, ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na 12 wythnos.
(2) Yn ychwanegol at ymweliadau a wneir yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod pob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal yn cael ymweliad gan swyddog pan wneir cais rhesymol am hynny gan y plentyn, y gofalydd maeth preifat, rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(3) Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog siarad â'r plentyn ar ei ben ei hun onid yw o'r farn bod hynny'n amhriodol.
(4) Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog gadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 y mae'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(5) Rhaid i'r swyddog wneud adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol ar ôl pob ymweliad a wnaed yn unol â'r rheoliad hwn.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y trefniant maethu preifat yn cychwyn pan ddaw'r awdurdod lleol yn ymwybodol ohono.
9.—(1) Rhaid i ofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol—
(a)o unrhyw newid yn ei gyfeiriad;
(b)o unrhyw berson sy'n peidio â bod yn rhan o'i aelwyd neu'n gyflogedig ar ei aelwyd;
(c)o unrhyw dramgwydd pellach y collfarnwyd y gofalydd maeth preifat ohono neu berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd;
(ch)o unrhyw ddatgymhwysiad pellach a osodwyd arno neu ar berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd o dan adran 68 o'r Ddeddf; ac
(d)os oes unrhyw berson yn dechrau bod yn rhan o aelwyd y gofalydd maeth preifat neu'n gyflogedig ar ei aelwyd, ac unrhyw dramgwydd y collfarnwyd y person hwnnw ohono, ac unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r ddwy adran honno.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi—
(a)ymlaen llaw pan fo hynny'n ymarferol;
(b)ym mhob achos arall, dim mwy na 48 awr ar ôl y newid mewn amgylchiadau.
(3) Os bydd cyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat yn ardal awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r awdurdod y cyflwynir yr hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn anfon at yr awdurdod dros yr ardal—
(a)enw a chyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat;
(b)enw'r plentyn a faethir yn breifat; ac
(c)enw a chyfeiriad rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(4) Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o unrhyw newid yng nghyfeiriad personol y person hwnnw.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i unrhyw berson a fu'n maethu plentyn yn breifat, ond sydd wedi gorffen gwneud hynny, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o fewn 48 awr a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.
(2) Os bu unrhyw berson yn maethu plentyn yn breifat, ond mae wedi gorffen gwneud hynny, oherwydd bod y plentyn wedi marw, yn yr hysbysiad rhaid i'r person hwnnw nodi mai dyna yw'r rheswm.
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os bydd y gofalydd maeth preifat yn bwriadu ailddechrau'r trefniant maethu preifat ar ôl bwlch nad yw'n fwy na 27 diwrnod ond—
(a)os bydd y gofalydd maeth preifat wedyn yn rhoi'r gorau i'w fwriad; neu
(b)os yw'r bwlch yn dod i ben ac nad yw'r gofalydd maeth preifat wedi gweithredu ei fwriad,
rhaid i'r gofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr ar ôl iddo roi'r gorau i'w fwriad neu, yn ôl y digwydd, ar ôl i'r bwlch ddod i ben.
(4) Rhaid i unrhyw riant i blentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod lleol o dan reoliad 3(2) neu (3), hysbysu'r awdurdod lleol priodol o ddiweddu'r trefniant maethu preifat a rhaid iddynt gynnwys hefyd yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.
11. Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.
12. Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r dull y mae'n cyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf a rhaid iddo benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw.
13. Dirymir Rheoliadau Plant (Trefniadau ar gyfer Maethu Preifat) 1991(2) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio bod unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hynny cyn bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym yn cael ei drin fel pe bai wedi'i roi o dan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
Rheoliadau 3 a 5
1. Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) yw—
(a)enw, rhyw, dyddiad a man geni, cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn;
(b)enw a chyfeiriad presennol y person sy'n rhoi'r hysbysiad ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;
(c)enw a chyfeiriad presennol gofalydd maeth arfaethedig y plentyn neu ofalydd maeth presennol y plentyn ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;
(ch)hyd arfaethedig y trefniant maethu preifat;
(d)enw a chyfeiriad presennol rhieni'r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac (os yw'n wahanol) unrhyw berson arall y derbynnir neu y derbyniwyd y plentyn oddi wrtho;
(dd)enw a chyfeiriad presennol brodyr a chwiorydd y plentyn sy'n finoriaid, a manylion y trefniadau am eu gofal;
(e)enw a chyfeiriad presennol unrhyw berson, heblaw person a bennir yn is-baragraff (d), sydd â rhan neu a fu â rhan (p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) wrth drefnu i'r plentyn gael ei faethu'n breifat; a
(f)y dyddiad y bwriedir bod y trefniant maethu yn cychwyn, neu'r dyddiad pan gychwynnodd.
2. Yn achos person sy'n rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(1) neu 5(1) mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) hefyd yn cynnwys—
(a)unrhyw dramgwydd y collfarnwyd ef ohono;
(b)unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r adrannau hynny;
(c)unrhyw gollfarn, datgymhwysiad neu waharddiad o'r fath a osodwyd ar unrhyw berson arall sy'n byw ar yr un aelwyd neu a gyflogir ar yr un aelwyd.
(ch)unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg yn ei gylch;
(d)unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg o ran plentyn a fu yn ei ofal; ac
(dd)unrhyw hawl neu bŵer ynglŷn â phlentyn sydd neu a fu o dan ei ofal a gafodd eu breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod a bennwyd mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf o dan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau hynny.
Rheoliad 4
Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(d) yw—
(a)bod hyd arfaethedig y trefniant wedi cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—
(i)rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a
(ii)y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
(b)dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(c)addasrwydd y llety arfaethedig;
(ch)gallu'r gofalydd maeth preifat arfaethedig i edrych ar ôl y plentyn;
(d)addasrwydd aelodau eraill o aelwyd y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
(dd)bod y trefniadau a gytunir ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, personau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, a phersonau eraill sy'n arwyddocaol i'r plentyn, wedi cael eu cytuno a'u deall ac y bydd y trefniadau hynny'n foddhaol ar gyfer y plentyn;
(e)bod y rhieni neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cytuno ar drefniadau ariannol â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal;
(f)bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol y plentyn;
(ff)bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
(g)sut y gwneir penderfyniadau ynghylch gofal y plentyn; ac
(ng)a yw'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen.
Rheoliadau 7 ac 8
3. Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliadau 7(1)(d) ac 8(4) yw—
(a)bod diben a hyd arfaethedig y trefniant maethu yn cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—
(i)rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a
(ii)y gofalydd maeth preifat;
(b)dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(c)bod datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad yn briodol a boddhaol;
(ch)bod anghenion y plentyn sy'n codi o'i gred grefyddol, ei darddiad hiliol, a'i gefndir diwylliannol ac ieithyddol yn cael eu diwallu;
(d)bod y trefniadau ariannol ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal yn gweithio;
(dd)gallu'r gofalydd maeth preifat i edrych ar ôl y plentyn;
(e)addasrwydd y llety;
(f)bod y trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol, wrth law, ac yn benodol, fod y plentyn wedi'i roi ar restr person sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol â Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
(ff)y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
(g)safon y gofal a roddir i'r plentyn;
(ng)addasrwydd aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;
(h)a yw'r gofalydd maeth preifat, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen;
(i)sut y gwneir penderfyniadau am ofal y plentyn; ac
(l)a yw'r cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, neu unrhyw berson arall y trefnwyd cyswllt ag ef, yn foddhaol ar gyfer y plentyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) 1991 o ran Cymru, heblaw bod unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Rheoliadau hynny i'w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn. Mae hyn yn dilyn diwygiadau i'r cynllun hysbysu maethu preifat a wnaed gan adran 44 o Ddeddf Plant 2004.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat, unrhyw berson sy'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, a rhiant y plentyn neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, i hysbysu'r awdurdod lleol ymlaen llaw bod y trefniant yn cychwyn. Rhaid i hysbysiad gan y gofalydd maeth preifat arfaethedig gael ei roi o leiaf chwe wythnos cyn bod y trefniant maethu preifat i gychwyn, neu os yw'r trefniant i gychwyn o fewn chwe wythnos yna ar unwaith. Rhaid i bawb arall y mae'n ofynnol iddynt roi hysbysiad o dan reoliad 3 wneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud, neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol o'r trefniant.
Dylai'r hysbysiad gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a osodir yn Atodlen 1 y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei rhoi.
Ar ôl iddo gael hysbysiad rhaid i'r awdurdod lleol wedyn drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â'r lle y bydd y plentyn yn byw a siarad â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, aelodau ei aelwyd, y plentyn ac eraill (rheoliad 4) a chadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos yn berthnasol i'r swyddog. Yna rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod.
Mae rheoliad 5 yn gosod y gofyniad i hysbysu'r awdurdod lleol o'r trefniant os na roddwyd hysbysiad o dan reoliad 3. Mae rheoliad 6 yn gosod y gofyniad i hysbysu awdurdod lleol pan fydd trefniant maethu preifat yr hysbyswyd hwy ohono o dan reoliad 3 yn cychwyn mewn gwirionedd. Ar ôl iddo gael hysbysiad o dan naill ai reoliad 5 neu reoliad 6 rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod swyddog yn gwneud ymweliadau ac yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol (rheoliad 7).
Mae rheoliad 8 yn ymwneud ag ymweliadau'r awdurdod lleol â'r plentyn cyn gynted ag y bydd y trefniant maethu preifat wedi cychwyn. Mae'n darparu pryd y dylai ymweliadau ddigwydd a beth ddylai swyddog o'r awdurdod ei wneud wrth ymweld. Ar ôl pob ymweliad mae'n ofynnol i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
Mae'n ofynnol i ofalwyr maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o newidiadau penodol mewn amgylchiadau, megis newid yn y cyfeiriad neu pan fydd rhywun yn ymuno neu'n ymadael â'r aelwyd. Os bydd y gofalydd maeth preifat yn symud i ardal awdurdod lleol arall yna mae'n ofynnol bod gwybodaeth benodol yn cael ei rhoi i'r awdurdod lleol dros yr ardal newydd gan yr awdurdod lleol dros yr hen ardal. Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol o newid yn y cyfeiriad (rheoliad 9).
Mae rheoliad 10 yn ymwneud â hysbysu diwedd y trefniant. Rhaid i berson a fu'n maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr o ddiweddu maethu'r plentyn yn breifat, ac os y rheswm dros ddiweddu'r trefniant yw bod y plentyn wedi marw, yna rhaid i'r person ddweud wrth yr awdurdod lleol mai hwnnw yw'r rheswm.
Rhaid i bob hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig (rheoliad 11).
Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro'r dull y maent yn cyflawni eu swyddogaethau o ran plant a faethir yn breifat ac i benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw.
1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)).