xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dirymu a darpariaeth drosiannol

13.  Dirymir Rheoliadau Plant (Trefniadau ar gyfer Maethu Preifat) 1991(1) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio bod unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hynny cyn bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym yn cael ei drin fel pe bai wedi'i roi o dan y Rheoliadau hyn.