xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL IECHYD A PHROFFESIYNAU CYSYLLTIEDIG, CYMRU
Wedi
29 Mawrth 2006
Yn dod i rym
1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 5 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “awdurdod goruchwylio lleol” (“local supervising authority”) yw'r corff sy'n arfer swyddogaethau yn unol ag erthyglau 42(1)(b) a 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(2);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Gorchymyn 2004” (“the 2004 Order”) yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydliad, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004(3);
ystyr “PIC” (“HPW”) yw'r corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru (Health Professions Wales) ac a sefydlwyd gan Orchymyn 2004;
2. Diddymir PIC.
3. Mae Gorchymyn 2004 a Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004(4) yn cael eu dirymu.
4. Ar 1 Ebrill 2006—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg;
(b)bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogaeth gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â sicrhau ansawdd cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth naill ai ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5. Ar 1 Ebrill 2006—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd pob eiddo yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b)bydd y les y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)bydd y cofnodion a ddelir gan PIC mewn perthynas ag arfer swyddogaeth dyfarndaliadau myfyrwyr a roddir o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968(5) yn cael eu trosglwyddo i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg.
6.—(1) Mae unrhyw hawl y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi gan neu yn erbyn PIC yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi yn erbyn PIC, yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
7.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion PIC gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy PIC.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 1 Hydref 2006.
(3) Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
(a)archwilio ac ardystio cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (2); a
(b)gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd ag adroddiad arnynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2006
Erthygl 5
Mangreoedd swyddfa ar ail lawr Golate House, Heol Eglwys Fair, Caerdydd a gynhwysir mewn les dyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd(1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru(2).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ar 1 Ebrill 2006 y corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru ac a sefydlwyd o dan adran 4 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003. Mae'r Gorchymyn yn dirymu'r Gorchmynion a bennir yn erthygl 3 ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo a chofnodion. Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer dirwyn i ben faterion y corff.