Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.

(2Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Ionawr 2007.

(3Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo i rym ar 31 Ionawr 2007.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dynodi “camp berthnasol”

2.  Dynodir camp sy'n ymddangos yn y rhestr o gampau a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn “gamp berthnasol” at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1).

Diwygio Gorchmyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006

3.  Diwygir Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006(2) fel a ganlyn—

(a)yn y testun Cymraeg yn y pennawd i erthygl 5 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(b)yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 5 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(c)yn y testunau Cymraeg a Saesneg o'r pennawd i erthygl 6 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(ch)yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 6 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(d)yn y testun Cymraeg yn lle'r pennawd I erthygl 7 rhodder—

  • Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw erthygl 2 o Orchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen'r Gorchymyn hwnnw i rym;

(dd)yn y testun Saesneg yn lle'r pennawd i erthygl 7 rhodder—

  • Provisions of the 2005 Act coming into force on the date on which article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007 come into force;

(e)yn y testun Cymraeg yn ngeiriau agoriadol erthygl 7 yn lle'r geiriau “Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006” rhodder “erthygl 2 o Prchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw”;

(f)yn y testun Saesneg yng ngeiriau agoriadol erthygl 7 rhodder y geiriau “article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007” yn lle'r geiriau “the Statutory Nuisance (Artificial Lighting) (Designation of Relevant Sports) (Wales Order 2006”;

(ff)yn y testun Cymraeg o erthygl 10(1) yn lle “â rheoliad” rhodder “ag erthygl”;

(g)yn nhestun Saesneg erthygl 10(1) yn lle “regulation” rhodder “article”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007