Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU 2006

5.  Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs a ddyfernir yn unol â pharagraff (1A);

ystyr “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree student”) yw myfyriwr cymwys—

(a)

sy'n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y “cwrs”);

(b)

sy'n dechrau'r cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006; ac

(c)

naill ai—

(i)

mae'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am ran o'r flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer; neu

(ii)

mae'n fyfyriwr anabl nad yw'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd;;

(b)yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—

  • ystyr “cwrs dwys” (intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;;

(c)yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “Gweithiwr o Dwrci” (“Turkish Worker”) yw gwladolyn o Dwrci—

(a)

sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

(b)

sydd neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;.

6.  Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—

“(1A) Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw'r cwrs hwnnw, yn ei farn—

(a)yn gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd sylfaen);

(b)yn gwrs amser-llawn a ddynodir o dan reoliad 5(1); ac

(c)yn para am ddwy flynedd academaidd..

7.  Yn rheoliad 7(5), ar ôl “yn bresennol arno”, mewnosoder “neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig, yr ymgymerodd ag ef yn y Deyrnas Unedig”.

8.  Yn lle rheoliad 8(2) rhodder —

(2) Dyma'r rhesymau dros drosglwyddo —

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;

(ii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad; neu

(iii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad.

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(ii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig mewn sefydliad arall;

(c)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad..

9.  Ar ôl rheoliad 10(2)(d) mewnosoder—

(da)os yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru erbyn 3 Mawrth 2008 neu o fewn cyfnod o naw mis gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynir y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;.

10.  Ar ôl rheoliad 11A(2) mewnosoder—

(3) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresenol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth ffioedd.

(4) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

11.  Ar ôl rheoliad 11C(d), mewnosoder—

(da)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

12.  Ar ôl rheoliad 18(8)(ch), mewnosoder—

(cha)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

13.  Ar ôl rheoliad 18(8), mewnosoder—

(9) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer y grantiau canlynol—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(c)grant addysg uwch.

(10) Mae paragraff (9) yn gymwys ar gyfer—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

14.  Ar ôl rheoliad 31(3), mewnosoder—

(4) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer benthyciad at gostau byw.

(5) Mae paragraff (4) yn gymwys ar gyfer—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

15.  Yn rheoliad 32, yn lle “cwrs carlam” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “cwrs dwys”.

16.  Yn rheoliad 33 yn lle “cwrs carlam” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “cwrs dwys”.

17.  Yn rheoliad 35 yn lle “cwrs carlam” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “cwrs dwys”.

18.  Yn lle rheoliad 37, rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 39, mae'r benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter y flwyddyn academaidd.

(2) Nid yw'r benthyciad at gostau byw yn daladwy —

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, o ran y chwarter a enwebwyd gan Weinidogion Cymru;

(b)ym mhob achos arall, o ran y chwarter pan fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, y gwyliau hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd.

19.  Ar ôl rheoliad 39(2)(ch) mewnosoder—

(cha)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

20.  Ar ôl rheoliad 46(4)(d), mewnosoder—

(dd)GFF yw swm y grant at ffioedd, os oes un, y mae'r myfyriwr cymwys yn dod yn gymwys i'w gael o dan Ran 4;.

21.  Yn rheoliad 46(6) yn lle “cwrs carlam”, rhodder “cwrs dwys”.

22.  Yn rheoliad 50, ar ôl paragraff 14(dd) rhodder—

(dda)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

23.  Ar ôl rheoliad 55(3)(b), mewnosoder—

(ba)os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Gweinidogion Cymru erbyn 1 Rhagfyr 2007 neu o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynir y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;.

24.  Ar ôl rheoliad 62(12), mewnosoder—

“(13Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid yw grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(14Dyma'r digwyddiadau—

(a)mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(c)pan fydd y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ynddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;

(dd)pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn gwladolyn o'r Swistir.

25.  Yn Atodlen 1 —

(a)yn lle paragraff 1(4), rhodder—

(4) At ddibenion yr Atodlen hon, dylid ymdrin â pherson fel rhywun sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, y diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu'r diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel pe bai'n breswylydd felly oni bai am y ffaith bod —

(a)y person hwnnw;

(b)ei briod neu ei bartner sifil;

(c)ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro yn yr ardal o dan sylw.;

(b)yn lle paragraff 1(5), rhodder—

(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, y diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu'r diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd;;

(c)ar ôl paragraff 11, mewnosoder—

12.  Person—

(a)sydd yn blentyn i weithiwr o Dwrci;

(b)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs..

26.  Ar ôl paragraff 8(ch) o Atodlen 3A, mewnosoder—

(cha)os bydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources