Search Legislation

Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2496 (Cy.215)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

28 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Awst 2007

Yn dod I rym

24 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2007.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliad Ewropeaidd” (“the European Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela ac asiantau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd (2);

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(3);

ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodlen i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(4).

Ffioedd

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd yn eu barn hwy yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—

(a)cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;

(b)archwilio samplau rheoli swyddogol;

(c)prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(ch)prosesu dogfennaeth y gymeradwyaeth yn dilyn cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (c);

(d)prosesu cais adnewyddu blynyddol o labordy a gymeradwyir o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o Reoliad Senedd Ewrop;

(dd)archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(e)gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.

(2Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan —

(a)y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd o ran y gweithgareddau ym mharagraff 2(a) a (b); a

(b)gweithredydd y labordy o ran y gweithgareddau ym mharagraff (2)(c) i (g).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Weinidogion Cymru godi ffioedd am weithgareddau sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Rhestrir y gweithgareddau yn rheoliad 3(1).

Mae asesiad rheoliadol llawn o'r effaith a gaiff y Rheoliadau hyn wedi cael ei lunio ac mae wedi ei atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

OJ Rhif L325, 12.12.2003, p.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 dyddiedig 20 Tachwedd 2006.

(4)

OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources