2007 Rhif 3165 (Cy.276)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

Gwnaed

Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi1, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy 2.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3 cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.