Search Legislation

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3165 (Cy.276)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Tachwedd 2007

Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

28 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy (2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a Dwr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “crynodiad neu werth a ragnodwyd” (“prescribed concentration or value”), o ran unrhyw baramedr, yw'r crynodiad neu werth a bennir ynghylch y paramedr hwnnw yn unrhyw Dabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 fel y mesurir ef drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly;

ystyr “Cyfarwyddeb 80/777” (“Directive 80/777”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 80/777/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch datblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol(4);

ystyr “Cyfarwyddeb 98/83” (“Directive 98/83”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 2003/40/EC” (“Directive 2003/40/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynhonnau(6);

ystyr “dŵr mwynol naturiol” (“natural mineral water”) yw dŵr—

(a)

sy'n iachus yn ficrobiolegol;

(b)

sy'n tarddu o lefel trwythiad neu ddyddodion tanddaearol ac sy'n codi allan o ffynnon a dapiwyd mewn allanfa neu allanfeydd naturiol neu wedi'u tyllu;

(c)

y gellir ei wahaniaethu'n amlwg oddi wrth dŵr yfed cyffredin oherwydd y nodweddion canlynol a gafodd eu cadw'n ddifreg oherwydd tarddiad tanddaearol y dŵr, a rhaid bod y tarddiad hwnnw wedi cael ei ddiogelu rhag pob risg o lygredd—

(i)

ei natur, a nodweddir gan ei gynnwys mwynol, elfennau hybrin neu ansoddau eraill a, pan fo hynny'n briodol, gan effeithiau penodol,

(ii)

yn ei gyflwr gwreiddiol; ac

(ch)

sydd am y tro'n cael ei gydnabod yn unol â rheoliad 4;

ystyr “dŵr mwynol naturiol eferw” (“effervescent natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol sydd, yn ei ffynhonnell neu ar ôl ei botelu, yn gollwng carbon deuocsid yn ddigymell ac mewn dull a welir yn eglur o dan amodau tymheredd a phwysedd arferol;

ystyr “dŵr yfed” (“drinking water”) yw dŵr a fwriadwyd ar gyfer ei yfed gan bobl heblaw —

(a)

dŵr mwynol naturiol; neu

(b)

dŵr a botelwyd mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” neu “dŵr ffynnon” yn unol â rheoliad 11;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae i “hysbyseb” a “hysbysebu” yr ystyr a roddir i “advertisement” ac “advertise” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(7);

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, cynnig neu ddangos neu hysbysebu rhywbeth i'w werthu;

ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodwedd, elfen, organeb neu sylwedd a restrir yn yr ail golofn o unrhyw Dabl yn Rhan 2 o Atodlen 2;

ystyr “potel” (“bottle”) yw cynhwysydd caeedig o unrhyw fath y gwerthir dŵr ynddo i'w yfed gan bobl neu o'r lle y daw dŵr a werthir i'w yfed gan bobl ohono, a dehonglir “potelu” ac ymadroddion cytras yn unol â hynny; ac

ystyr “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” (“authorised ozone-enriched air oxidation technique” ) yw—

(a)

triniaeth ag aer a gyfoethogwyd ag osôn a awdurdodwyd ac a gyflawnwyd yn unol ag Atodlen 1; neu

(b)

yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy'n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40 fel y'i gweithredir yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig neu'r Wladwriaeth AEE honno.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 80/777 neu Gyfarwyddeb 98/83 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb o dan sylw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â Rhif , ac eithrio lle yr ymddengys bwriad i'r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 80/777.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at farcio neu labelu potel yn cynnwys y marcio a'r labelu a wnaed cyn bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu a'r marcio a'r labelu a wnaed ar ôl potelu.

Esemptiadau

3.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr —

(a)sydd â thrwydded cynnyrch a ddyroddwyd o dan ddarpariaethau Deddf Meddyginiaethau 1968(8), neu awdurdodiad marchnata o fewn ystyr Rheoliadau Meddyginiaethau ar gyfer Defnydd Dynol (Awdurdodiadau Marchnata etc.) 1994(9), neu awdurdodiad marchnata o fewn ystyr Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(10);

(b)sy'n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei darddiad at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;

(c)nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i'w yfed gan bobl; neu

(ch)sy'n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio i oeri bwyd.

RHAN 2dŵr mwynol naturiol

Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol

4.—(1Cydnabyddir dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—

(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru, rhoddir cydnabyddiaeth gan yr awdurdod perthnasol yn unol â Rhan 1 o Atodlen 3;

(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, cydnabyddir ef yn y fan honno yn unol â Chyfarwyddeb 80/777 gan awdurdod cyfrifol yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig;

(c)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig, cydnabyddir ef yn y fan honno yn unol â Chyfarwyddeb 80/777 gan awdurdod cyfrifol yn y Wladwriaeth AEE honno; ac

(ch)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—

(i)cydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu

(ii) mae ganddo gydnabyddiaeth gyfartal a roddir gan awdurdod cyfrifol —

(aa)rhan arall o'r Deyrnas Unedig, neu

(bb)Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig.

(2Os gwelir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan baragraff (1)(a) neu (ch)(i),—

(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 3, na fodlonir gofynion paragraff 3 o'r Rhan honno;

(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu

(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 2(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 2(c) o Ran 2 o Atodlen 3,

caniateir i'r awdurdod perthnasol neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu'r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.

(3Os—

(a)bydd yr awdurdod perthnasol yn peidio â rhoi cydnabyddiaeth o ddŵr neu'n ei thynnu'n ôl; neu

(b)bydd yr Asiantaeth yn peidio â rhoi cydnabyddiaeth o ddŵr neu'n ei thynnu'n ôl;

caiff y person sy'n datblygu neu sy'n dymuno datblygu'r ffynnon y mae'r dŵr hwnnw'n tarddu ohoni neu, os yw'n wahanol, y person sy'n berchen y tir y lleolir y ffynnon arno, wneud cais i'r Asiantaeth am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.

(4Pan wneir cais am adolygiad o benderfyniad o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ymchwilio i'r mater fel y mae'n ystyried sy'n briodol ac, ar ôl iddo ystyried canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddaw i'r golwg drwyddo, rhaid iddo naill ai—

(a)cadarnhau'r penderfyniad; neu

(b)cyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i roi neu adfer, neu adfer ei hun, fel y bo'n briodol, gydnabyddiaeth o'r dŵr o dan sylw.

(5Caiff person sy'n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr ohoni a gydnabyddir yn ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff (1)(a) neu (ch)(i), wneud cais i'r awdurdod perthnasol neu i'r Asiantaeth, fel y bo'n briodol, i gael tynnu'r gydnabyddiaeth honno yn ôl.

(6O ran yr awdurdod perthnasol—

(a)os bydd yn rhoi cydnabyddiaeth, yn ei hadfer neu'n ei thynnu'n ôl, rhaid iddo ar unwaith hysbysu'r Asiantaeth o'r ffaith honno;

(b)os hysbysir ef o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol dŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnir dŵr mwynol naturiol ohoni, rhaid iddo ar unwaith hysbysu'r Asiantaeth o'r newid hwnnw; neu

(c)os cyfarwyddir ef gan yr Asiantaeth o dan baragraff (4)(b) i roi neu adfer cydnabyddiaeth, rhaid iddo ar unwaith gydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(7O ran unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddir o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985(11) neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999(12) ac sy'n bodoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—

(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru, rhaid ei thrin fel pe bai'n gydnabyddiaeth gan yr awdurdod perthnasol o dan baragraff (1)(a).

(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE, rhaid ei thrin fel pe bai'n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan baragraff (1)(ch)(i); a

(8Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn y Gymuned at ddibenion Cyfarwyddeb 80/777, ac eithrio pan roddwyd y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 3, yn dystiolaeth derfynol bod y dŵr hwnnw'n cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

(9Mae Atodlen 5 yn effeithiol at y dibenion a bennir yn Atodlen 3.

Datblygu ffynhonnau dwr mwynol naturiol

5.—(1Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata'r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—

(a)bod y dŵr a echdynnwyd o'r ffynnon honno'n ddŵr mwynol naturiol;

(b)bod yr awdurdod perthnasol wedi rhoi caniatâd i'r ffynnon honno gael ei datblygu; a

(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.

(2Os gwelir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi cael ei lygru ac y byddai potelu'r dŵr yn mynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi'i ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato

6.—(1Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad —

(a)drwy unrhyw driniaeth heblaw—

(i)techneg awdurdodedig ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn,

(ii) gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, p'un a cheir ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i'r graddau nad yw'r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy'n rhoi iddo ei briodoleddau, neu

(iii) dilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol; neu

(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal defnyddio dŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

Potelu dŵr mwynol naturiol

7.—(1Ni chaiff unrhyw berson botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol sydd, ar adeg y potelu, yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n uwch na'r terfyn uchaf penodedig o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

(2Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Atodlen 6 gydymffurfio â'r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Atodlen 7.

(3Ni chaiff neb botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol nad yw'n bodloni gofynion Atodlen 4.

(4Ni chaiff neb botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol mewn unrhyw botel heblaw potel sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol

8.—(1Ni chaiff neb beri i ddŵr mwynol naturiol gael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r canlynol—

(a)disgrifiad masnachol sy'n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw'r disgrifiad masnachol yn cyfeirio at ddŵr mwynol naturiol y mae'r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan y disgrifiad hwnnw ac nad yw'n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon;

(b)disgrifiad masnachol sy'n wahanol i enw'r ffynnon neu'r lle y caiff y cyfryw ddŵr ei ddatblygu, onid yw lle'r datblygu wedi'i farcio neu wedi'i labelu neu enw'r ffynnon hefyd wedi'i marcio neu wedi'i labelu ar y botel, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw;

(c)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;

(ch)unrhyw fynegiad heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (dd) ac (e) sy'n priodoli i'r dŵr mwynol naturiol briodoleddau ynghylch atal, trin neu wella salwch dynol;

(d)unrhyw fynegiad a restrir yng ngholofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 8, ac eithrio pan fo'r dŵr mwynol naturiol yn bodloni'r maen prawf a restrir yno sy'n cyfateb i'r mynegiad hwnnw;

(dd)y mynegiad “may be diuretic” neu “gall fod yn ddiwretig” neu'r mynegiad “may be laxative” neu “gall fod yn garthydd” onid aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy'n meddu ar y priodoledd a briodolir yn unol â dadansoddiad ffisigocemegol neu archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo'n briodol;

(e)y mynegiad “stimulates digestion” neu “mae'n ysgogi treuliad” neu'r mynegiad “may facilitate the hepato-biliary functions” neu “gall hyrwyddo'r swyddogaethau hepato-bustlog” onid aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy'n meddu ar y priodoledd a briodolir yn unol â dadansoddiad ffisigocemegol neu archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo'n briodol; neu

(f)disgrifiad gwerthu heblaw—

(i)yn achos dwr mwynol naturiol eferw, un o'r canlynol, fel y bo'n briodol—

(aa)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fydd yn briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o'r un lefel trwythiad neu ddyddodion cyfatebol i'r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i'r goddefiannau technegol arferol,

(bb)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o'r lefel trwythiad neu ddyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell, neu

(cc)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw'r lefel trwythiad neu'r dyddodion y daw'r dŵr ohono; a

(ii)yn achos dŵr mwynol naturiol heblaw dwr mwynol naturiol eferw “natural mineral water”.

(2Ni chaiff neb beri bod dŵr mwynol naturiol yn cael ei botelu mewn potel oni chafodd y botel ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—

(a)datganiad o gyfansoddiad dadansoddol sy'n dangos ansoddion nodweddiadol y dŵr;

(b)enw'r lle y datblygir y ffynnon ac enw'r ffynnon;

(c)yn unrhyw achos lle yr aeth drwy driniaeth o ddilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, y mynegiad “fully de-carbonated” neu “partially de-carbonated”, fel y bo'n briodol;

(ch)mewn unrhyw achos lle y mae wedi mynd drwy dechneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn, y geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, y mae'n rhaid iddynt ymddangos yn agos at gyfansoddiad dadansoddol yr ansoddion nodweddiadol; a

(d)mewn unrhyw achos y mae ei grynodiad fflworid yn fwy na 1.5 mg/l—

(i)y geiriau “contains more than 1.5 mg/l of fluoride: not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”, y mae'n rhaid iddynt ymddangos yn agos at yr enw masnachol mewn llythrennau y gellir eu gweld yn glir, a

(ii)y cynnwys fflworid gwirioneddol o ran y cyfansoddiad ffisigocemegol, y mae'n rhaid ei gynnwys yn y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a).

(3Os, yn unol â pharagraff (1)(b), mae'n ofynnol i botel sy'n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—

(a)mae'r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig am y dŵr mwynol naturiol hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi o leiaf amlygrwydd cyfartal i le'r datblygu neu i enw'r ffynnon ag a roir i'r disgrifiad masnachol.

(4Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o dan unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnach, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.

(5Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (3).

Gwerthu dŵr mwynol naturiol

9.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r enw “natural mineral water” neu “dŵr mwynol naturiol” yn enw'r dŵr neu fel enw'r dŵr onid yw'r dŵr hwnnw'n ddŵr mwynol naturiol.

(2Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu—

(a)sy'n cynnwys—

(i)Parasitiaid neu ficro-organebau pathogenig,

(ii)Escherichia coli neu golifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir,

(iii) Anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir, neu

(iv)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;

(b)pan nad yw cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn y ffynhonnell y cymrwyd y dŵr ohoni yn cydymffurfio â pharagraff 7 o Atodlen 4;

(c)pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw' y gellir ei adfywio'n fwy na'r hyn fyddai canlyniad cynnydd normal yng nghynnwys y bacteria a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu

(ch)pan fo'r dŵr hwnnw'n cynnwys unrhyw ddiffyg organoleptig.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu—

(a)a echdynnwyd o ffynnon a ddatblygir yn groes i reoliad 5;

(b)a gafodd unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 6; neu

(c)sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu yn groes i reoliad 8.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

RHAN 3dŵr ffynnon

Potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon

10.—(1Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” onid yw'r dŵr hwnnw—

(a)wedi'i echdynnu o ffynnon; a

(b)yn bodloni gofynion Atodlenni 2 a 4.

(2Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr which a gafodd ei drin ag aer a gyfoethogwyd ag osôn yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu'n ddŵr ffynnon, onid yw'r driniaeth honno'n dechneg awdurdodedig ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn.

(3Os gwelir yn ystod datblygu bod dŵr ffynnon yn llygredig ac y gallai potelu'r dŵr hwnnw fynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr ffynnon

11.—(1Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel yn cael ei marcio neu'i labelu gyda'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” onid yw'r dŵr a gynhwysir ynddi —

(a)wedi'i botelu fel a bennir yn rheoliad 10; a

(b)wedi'i fwriadu ar gyfer ei yfed yn ei gyflwr naturiol.

(2Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel sy'n cynnwys dŵr sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” gael ei farcio neu'i labelu â'r canlynol—

(a)disgrifiad masnachol sy'n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw'r disgrifiad masnachol hwnnw'n cyfeirio at ddŵr y mae'r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan y disgrifiad hwnnw ac nad yw'n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu

(b)disgrifiad masnachol sy'n wahanol i enw'r ffynnon neu'r lle y caiff y cyfryw ddŵr ei ddatblygu, onid yw lle'r datblygu neu enw'r ffynnon hefyd wedi'i farcio neu wedi'i labelu ar y botel, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.

(3Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” oni chafodd y botel hefyd ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—

(a)enw'r lle y datblygir y ffynnon o dan sylw; a

(b)enw'r ffynnon; a

(c)mewn unrhyw achos lle y mae'r dŵr wedi mynd drwy dechneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn, y geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, y mae'n rhaid i'r geiriau ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b).

(4Os yw'n ofynnol, yn unol â pharagraff (2)(b), i botel sy'n cynnwys dŵr ffynnon gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—

(a)mae'r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig am y dŵr ffynnon hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi o leiaf amlygrwydd cyfartal i le'r datblygu neu i enw'r ffynnon ag a roir i'r disgrifiad masnachol.

(5Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr ffynnon yn groes i baragraff (4).

Gwerthu dwr ffynnon

12.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon”—

(a)na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 10; neu

(b)na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 11.

(2Ni chaiff neb werthu dŵr o un ffynnon benodol wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon”, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

RHAN 4dŵr yfed wedi'i botelu

Potelu dŵr yfed

13.  Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yfed yn cael ei botelu onid yw'r dŵr hwnnw'n bodloni gofynion Atodlen 2.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu

14.  Ni chaiff neb —

(a)peri bod unrhyw ddŵr yfed nad yw'n bodloni darpariaethau Adran I o Atodiad I yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r canlynol—

(i)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohono yn dueddol o beri y gellir drysu'r dŵr gyda dŵr mwynol naturiol, neu

(ii)y disgrifiad “mineral water” neu “dŵr mwynol”; neu

(b)peri bod unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu nad yw'n bodloni darpariaethau Adran I o Atodiad I yn cael ei hysbysebu o dan—

(i)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un a yw'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohono yn dueddol o beri y gellir drysu'r dŵr gyda dŵr mwynol naturiol, neu

(ii)y disgrifiad “mineral water” neu “dŵr mwynol”.

Gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu

15.  Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu —

(a)na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13; neu

(b)na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14.

RHAN 5Amrywiol ac atodol

Gorfodi

16.—(1Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw ddŵr a gydnabyddwyd yn ddŵr mwynol naturiol i sicrhau—

(a)bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau'n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol,

(b)heb ragfarnu paragraff (a) uchod, nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif,

(c)bod cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i'r dŵr fynd drwy unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i'r dŵr a ph'un a yw'n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 3, a

(d)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni ynghylch y dŵr.

(2Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gynnal archwiliadau cyfnodol ar unrhyw dechneg i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn a awdurdodwyd ganddo yn unol ag Atodlen 1, er mwyn sicrhau bod gofynion yr Atodlen honno'n parhau i gael eu bodloni.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal—

(a)gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn; a

(b)er mwyn cyflawni'r swyddogaeth honno, gymryd y camau sy'n ofynnol gan Aelod-wladwriaethiau ac awdurdodau cymwys gan Erthygl 7.1, 7.2, 7.3, a 7.6 o Gyfarwyddeb 98/83 o ran cynhyrchion y mae'r Gyfarwyddeb honno a'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Trefniadau ar gyfer samplau a gymrwyd i'w dadansoddi

17.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylid ei ddadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn ymdrin â'r sampl yn unol â'r rheoliad hwn ac at ddibenion y rheoliad hwn mae “sampl” yn cynnwys potel neu boteli o unrhyw ddŵr.

(2Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi rannu'r sampl yn dair rhan, a rhaid marcio a selio neu sicrhau pob rhan yn y fath fodd y mae ei natur yn caniatáu, a rhaid i'r cyfryw swyddog—

(a)ynglyn ag un rhan o'r sampl gydymffurfio â pharagraffau (3) i (6); a

(b)ymdrin â gweddill y rhannau yn unol â pharagraff (7).

(3Os cafodd y sampl ei brynu gan y swyddog awdurdodedig, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person y prynwyd ef ganddo.

(4Os yw'r sampl yn sampl o ddŵr a ddygwyd i Gymru ac a gymrwyd gan y swyddog awdurdodedig cyn iddo gael ei drosglwyddo i berson sy'n bwriadu gwerthu'r dŵr hwnnw yng Nghymru, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person hwnnw.

(5Os na fydd naill ai paragraff (3) na pharagraff (4) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi'r rhan o'r sampl i'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perchennog y dŵr y cymrwyd y sampl ohono.

(6Ym mhob achos pan fo paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig hysbysu'r person y rhoir y rhan o'r sampl iddo bod y sampl wedi'i brynu neu'i gymryd, fel y bo'n briodol, at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus.

(7Rhaid i'r swyddog awdurdodedig, oni fydd yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, gyflwyno un o'r rhannau sy'n weddill o'r sampl i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf a dal gafael yn y rhan arall.

(8Caniateir i unrhyw ran o sampl y mae'n rhaid ei roi o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson gael ei roi drwy ei drosglwyddo i'r person hwnnw neu i'w asiant neu drwy ei anfon at y person hwnnw drwy'r post cofrestredig neu drwy wasanaeth dosbarthiad cofnodedig; ond pan na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio'n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y person y mae'r rhan o'r sampl i'w rhoi iddo, caniateir i'r swyddog, yn hytrach na rhoi'r rhan i'r person hwnnw, ddal gafael ynddi.

(9Os yw'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig bod unrhyw ddŵr, y mae'r swyddog wedi caffael sampl ohono at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, wedi cael ei ddatblygu neu'i botelu gan berson (nad yw'n berson y mae'n ofynnol rhoi un rhan o'r sampl iddo yn ôl y rheoliad hwn) y mae ei enw a'i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn cael eu harddangos ar y botel neu ar unrhyw gynhwysydd arall, rhaid i'r swyddog, onid yw'r swyddog yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, o fewn tri diwrnod o gaffael y sampl anfon hysbysiad at y person hwnnw sy'n ei hysbysu—

(a)bod y sampl wedi'i gaffael gan y swyddog; a

(b)ymhle y cymrwyd y sampl neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y'i prynwyd.

(10Pan fydd sampl a gymrwyd neu a brynwyd gan swyddog awdurdodedig wedi cael ei ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, mae gan unrhyw berson y rhoddwyd rhan o'r sampl o dan y rheoliad hwn iddo yr hawl, wrth wneud cais i'r awdurdod bwyd, i gael derbyn copi o'r dystysgrif dadansoddi gan yr awdurdod hwnnw.

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

18.—(1Pan fydd rhan o'r sampl wedi ei chadw o dan reoliad 17(7) ac—

(a)y bwriedir codi achos neu fod achos wedi cychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)bod yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllir yn rheoliad 17,

bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff o'i wirfodd ei hun;

(b)rhaid iddo os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig);

(c)rhaid iddo os yw'r llys yn gorchymyn hynny; neu

(d)rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os gofynnir iddo gan y diffynnydd,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif dadansoddi.

(4Rhaid bod unrhyw dystysgrif dadansoddi a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth wedi'i llofnodi gan y Cemegydd neu ar ei ran, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei gynnal gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi pan fydd yn derbyn y dystysgrif dadansoddi roi i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd gopi o'r dystysgrif dadansoddi gan Gemegydd y Llywodraeth.

(6Os gwneir cais o dan baragraff (2)(ch) caniateir i'r swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i dalu rhai neu'r cyfan o dreuliau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caniateir i'r swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys diffynnydd arfaethedig.

Dulliau Dadansoddi

19.  Rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n cydsynio ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83 at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn bodloni darpariaethau Atodlen 2 ai peidio.

Tramgwyddau a chosbau

20.  Mae person yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'n mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3), neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3).

Amddiffyniadau

21.—(1Mewn unrhyw achosion o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig ddangos—

(a)bod y dŵr wedi'i botelu a'i farcio neu wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a

(b)na fyddai unrhyw dramgwydd wedi'i gyflawni gan y cyhuddedig o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999.

(2Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn os honnir nad yw dŵr yn bodloni'r gofynion ym mharagraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 2, mae'n amddiffyniad i'r person a gyhuddir ddangos—

(a)bod y dŵr o dan sylw wedi'i botelu neu'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig; a

(b)bod y dŵr yn cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu'i werthu.

Cymhwyso darpariaethau eraill

22.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e)

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'u cymhwysir gan is-baragraff (f)

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Mae rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i unrhyw enw, disgrifiad, mynegiad, gwybodaeth neu eiriad arall y mae'n ofynnol i ddŵr neu y caniateir iddo gan y Rheoliadau hyn gael ei farcio neu'i labelu, fel y mae'n gymwys i fanylion y mae'n ofynnol eu labelu o dan Reoliadau Labelu Bwyd 1996.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo os nad yw'r botel y potelwyd ef ynddi wedi'i marcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 fel y'u cymhwysir gan baragraff (2).

Dirymu

23.  Dirymir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr wedi'i Botelu 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

5 Tachwedd 2007

Rheoliadau 2(1) a (16)(2)

ATODLEN 1Amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn

1.  Ni cheir trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn ond —

(a)os yw at ddibenion gwahanu cyfansoddion haearn, manganis, sylffwr ac arsenig o ddŵr lle y maent yn digwydd yn naturiol yn y ffynhonnell;

(b)os bydd gofynion paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 4 wedi'u bodloni cyn y driniaeth; ac

(c)os na fydd i'r driniaeth gamau diheintio.

2.  Rhaid i'r driniaeth ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn beidio â gwneud y canlynol—

(a)addasu cyfansoddiad ffisigocemegol y dŵr o ran ei ansoddau nodweddiadol; neu

(b)gadael gweddillion yn y dŵr a allai fod yn risg i iechyd cyhoeddus, neu, yn achos y sylweddau a restrir isod, yn uwch na'r lefelau penodedig.

Trin y gweddillTerfyn uchaf(μg/l)
Osôn toddedig50
Bromad3
Bromofform1

3.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael awdurdodiad i driniaeth ag aer a gyfoethogwyd ag osôn—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol y mae'r dŵr a echdynnir yn ei ardal;

(b)caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio'r dull o drin arfaethedig, a lle'r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; ac

(c)darparu'r wybodaeth honno i gefnogi'r cais fel y bo'r awdurdod perthnasol yn gofyn amdani.

4.  Rhaid i'r awdurdod perthnasol asesu'r cais ac unrhyw wybodaeth sydd yn ei feddiant a rhaid iddo awdurdodi'r driniaeth os cafodd ei fodloni —

(a)bod cyfiawnhad i'r driniaeth oherwydd cyfansoddiad y dwr yn ei ffynhonnell;

(b)bod y person sy'n cyflawni'r driniaeth yn cymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel; ac

(c)bod y driniaeth fel arall yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2.

5.  Os bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu'r gweithredydd o'r driniaeth yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd masnachol o'r driniaeth yn effeithiol.

6.  Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwrthod awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu'r gweithredydd o'r driniaeth yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.

7.  Os bydd triniaeth wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth, er mwyn galluogi'r awdurdod perthnasol i asesu p'un a yw'r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—

(a)caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle'r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; a

(b)darparu'r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod yn gofyn amdani.

8.  Os bydd yr awdurdod perthnasol wedi'i fodloni nad yw'r amodau a bennir ym mharagraff 4 bellach yn cael eu cyflawni, caiff dynnu'n ôl awdurdodiad o driniaeth drwy roi i'r person sy'n gweithredu'r driniaeth honno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y rhesymau dros dynnu'n ôl.

9.  Os bydd yr awdurdod perthnasol wedi hysbysu gweithredydd o dan baragraff 6 o'i wrthodiad i awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4 neu os yw'n tynnu awdurdodiad o driniaeth yn ôl o dan baragraff 8, caniateir i'r person sy'n dymuno cyflawni'r driniaeth wneud cais i'r Asiantaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw.

10.  Wrth i gais am adolygiad ddod i law'r Asiantaeth rhaid iddi ymchwilio i'r mater yn y fath fodd y mae'n ymddangos i'r Asiantaeth sy'n briodol ac, ar ôl iddi ystyried canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddaw i'r golwg drwyddo, rhaid iddi naill ai gadarnhau'r penderfyniad neu gyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i roi neu adfer, fel y bo'n briodol, awdurdodiad o'r broses drin a weithredir. Yn achos cyfarwyddyd o'r fath rhaid i'r awdurdod perthnasol ar hynny gydymffurfio â'r cyfryw gyfarwyddyd.

Rheoliadau 2(1), 10(1)(b), 13, 19 a 21(2)

ATODLEN 2Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed gan gynnwys crynodiadau a ragnodwyd neu werthoedd paramedrau

RHAN 1Gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed

1.  Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon —

(a)os nad yw'r dŵr yn cynnwys—

(i)unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu

(ii)unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr),

mewn crynodiad neu werth a fyddai'n golygu perygl bosibl i iechyd dynol;

(b)os nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p'un a ydyw'n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae'n eu cynnwys (p'un a ydyw'n baramedr ai peidio), yn golygu perygl bosibl i iechyd dynol;

(c)os nad yw'r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o'r paramedrau a restrir yn Nhablau A i Ch yn Rhan 2 o'r Atodlen hon yn fwy na'r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd; a

(ch)yn achos dŵr a gafodd ei baratoi o ddŵr sydd wedi'i feddalu neu wedi'i ddihalwyno, os nad yw ei galedwch yn is na'r crynodiad isaf o 60 mg Ca/l.

2.  Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn Nhabl A i Ch yn Rhan 2 o'r Atodlen hon ar y cyd â'r nodiadau ar eu cyfer.

RHAN 2Crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd

Tabl A

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
EitemParamedrauUnedau MesurCrynodiad neu Werth (mwyafswm oni nodir fel arall)

Nodiadau:

1.

Rhaid i grynodiad (mg/l) nitrad wedi'i rannu â 50 a ychwanegir i grynodiad (mg/l) o nitrid wedi'i rannu â 3 beidio â bod yn fwy nag 1.

2.

Ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon.

1.Lliwgraddfa mg/1 Pt/Co20
2.CymylogrwyddNTU4
3.AroglRhif gwanediad3 ar 25°C
4.BlasRhif gwanediad3 ar 25°C
5.Sylffadmg SO4/1250
6.Sodiwmmg Na/l200
7.Nitradmg NO3/l50 (nodyn 1)
8.Nitridmg NO2/l0.5 (nodyn 1)
9.AlwminiwmμgAl/l200
10.Coprmg Cu/l2
11.Fflworidmg F/l1.5
12.Crynodiad ïonau hydrogenunedau pH

4.5 (lleiafswm)

9.5 (mwyafswm)

13.Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd)Bq/l100
14.Cyfanswm dogn dangosiadolmSv/ flwyddyn0.10 (nodyn 2)
15.Manganisμg Mn/l50

TABL B

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
EitemParamedrauUnedau MesurMwyafswm Crynodiad

Nodiadau:

1.

Mae “plaleiddiaid” yn golygu:

  • pryfleiddiaid organig,

  • chwynleiddiaid organig,

  • ffyngleiddiaid organig,

  • nematoleiddiaid organig,

  • gwiddonleiddiaid organig,

  • algaleiddiaid organig,

  • llygodleiddiaid organig,

  • llysnafeddleiddiaid organig, a

chynhyrchion perthynol (inter alia, rheoleiddwyr tyfiant) a'u metabolion, eu cynnyrch diraddio ac adweithio perthnasol.

Dim ond y plaleiddiaid hynny sy'n debygol o fod yn bresennol mewn dŵr penodol sydd angen eu monitro.

2.

Mae mwyafswm crynodiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol. Yn achos aldrin, deueldrin, heptaclor a heptaclor epocsid mwyafswm y crynodiad yw 0.030 μg/l.

3.

Mae mwyafswm y crynodiad ar gyfer “sylweddau cyflawn” yn cyfeirio at swm y crynodiadau o bob plaleiddiad unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y weithdrefn fonitro.

4.

Y cyfansodddion penodedig yw benso(b)fflworanthen, benso(k)fflworanthen, benso(ghi)perylen, indeno(1.2,3-cd) pyren.

1.Arsenigμg As/l10
2.Cadmiwmμg Cd/l5
3.Cyanidμg CN/l50
4.Cromiwmμg Cr/l50
5.Mercwriμg Hg/l1
6.Nicelμg Ni/l20
7.Seleniwmμg Se/l10
8.Antimoniμg Sb/l5
9.Plwmμg Pb/l10
10.Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol:
— sylweddau unigolμg/l0.10 (nodiadau 1 a 2)
— sylweddau cyflawnμg/l0.50 (nodiadau 1 a 3)
11.Hydrocarbonau aromatig polysycligμg/l0.1 swm crynodiadau cyfansoddion penodedig (nodyn 4)
12.Bromadμg BrO3/l10

Tabl C

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
EitemParamedrauUnedau MesurMwyafswm Crynodiad

Nodiadau:

1.

Dylid mesur y cyfanswm cyfrif cytref hyfyw o fewn 12 awr ar ôl potelu, gan gadw'r sampl dŵr ar dymheredd cyson yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 awr. Ni ddylai unrhyw gynnydd yng nghyfanswm cyfrif cytref hyfyw'r dŵr rhwng y 12 awr ar ôl ei botelu ac adeg y gwerthu ddim bod yn fwy na'r hyn a ddisgwylir yn arferol.

2.

Mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin .

3.

Mewn 24 o oriau ar agar-agar.

1.Escherichia coli (E.coli)nifer/250 ml0/250 ml
2.Enterococinifer/250 ml0/250 ml
3.Cyfrif cytref 22°Cnifer/ml100/ml (nodiadau 1 a 2)
4.Cyfrif cytref 37°Cnifer/ml20/ml (nodiadau 1 a 3)
5.Pseudomonas aeruginosanifer/250ml0/250 ml

Tabl Ch

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
EitemParamedrauUnedau MesurMwyafswm Crynodiad

Nodiadau:

4.

Mae'r mwyafswm crynodiad a bennir yn gymwys i swm crynodiadau'r paramedrau a bennir.

5.

Mae'r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomer gweddilliol yn y dŵr fel y'i cyfrifir yn unol â manylebau mwyafswm y gollyngiad o'r polymer cyfatebol sydd mewn cyffyrddiad â'r dŵr

1.Boronmg/l1.0
2.Benso (a) pyrenμg/l0.010
3.Tetracloroethen a Thricloroethenμg/l10 (nodyn 1)
4.Tetracloromethanμg/l3
5.Bensenμg/l1.0
6.1,2-dicloroethanμg/l3.0
7.Tricloromethan, Diclororbromomethan, Dibromocloromethan a Thribromomethanμg/l100 (nodyn 1)
8.Epiclorohydrinμg/l0.10 (nodyn 2)
9.Finyl cloridμg/l0.50 (nodyn 2)
10.Acrylamidμg/l0.10 (nodyn 2)

Rheoliadau 4(1)(a) ac (ch)(i), (2)(a) a (c), (8) a (9) a 16(1)(a)(iii)

ATODLEN 3Cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol

RHAN 1Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol y mae'r dŵr a echdynnir yn ei ardal ynddi, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.

2.  Dyma'r manylion —

(a)y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;

(b)unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a

(c)y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

3.  I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

4.  Pan fydd manylion o'r fath wedi cael eu rhoi felly, rhaid i'r awdurdod perthnasol eu hasesu a chydnabod bod dŵr y mae'r manylion hynny'n ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi'i fodloni—

(a)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I; a

(b)bod nodweddion y dŵr wedi cael eu hasesu yn unol â'r canlynol —

(i)y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,

(ii)y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, a

(iii) dulliau gwyddonol cydnabyddedig.

5.  Rhaid i'r awdurdod perthnasol, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 4, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath a'r rhesymau dros ei rhoi yn y London Gazette.

RHAN 2Dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r Asiantaeth, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.

2.  Dyma'r manylion —

(a)y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;

(b)unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a

(c)y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

3.  I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

4.  Rhaid i'r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod yn y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi ardystio—

(a)ei bod wedi'i bodloni —

(i)bod y gofynion ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu, a

(ii) gyda'r dystiolaeth a roir yn unol ag is-baragraff (c) o baragraff 2; a

(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod —

(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I,

(ii) bod nodweddion y dŵr wedi'u hasesu yn unol â'r canlynol—

(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,

(bb)y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3; a

(cc) dulliau gwyddonol cydnabyddedig, a

(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy'n datblygu'r ffynnon.

5.  Bydd cydnabyddiaeth o'r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu'r ardystiad sy'n ofynnol gan baragraff 4.

6.  Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a'r Belfast Gazette.

RHAN 3Gofynion a meini ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol

1.  Rhaid i arolygon daearegol a hydrolegol gynnwys y manylion canlynol —

(a)union safle'r dalgylch gan ddangos ei uchder, ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;

(b)adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;

(c)stratigraffeg yr haen hydroddaearagol;

(ch)disgrifiad o weithrediadau'r dalgylch; a

(d)darnodi'r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy'n diogelu'r ffynnon rhag llygredd.

2.  Rhaid i arolygon ffisegol, cemegol a ffisigocemegol sefydlu—

(a)cyfradd llif y ffynnon;

(b)tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;

(c)y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;

(ch)y gweddillion sych ar 180°C a 260°C;

(d)y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;

(dd)y crynodiad ïonau hydrogen (pH);

(e)yr anionau a'r cationau;

(f)yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;

(ff)yr elfennau hybrin;

(g)y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;

(ng)pan fydd yn briodol, y lefelau isotop perthnasol ac elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O —18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a

(h)gwenwyndra elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt.

3.  Rhaid i ddadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell ddangos—

(a)absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;

(b)penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio'n dangos halogi ysgarthol, sy'n dangos—

(i)absenoldeb Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250 ml ar 37°C a 44.5°C,

(ii)absenoldeb streptococi ysgarthol mewn 250 ml,

(iii) absenoldeb anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50 ml, a

(iv)absenoldeb Pseudomonas aeruginosa mewn 250 ml; a

(c)cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—

(i)ar 20 i 22°C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a

(ii)ar 37°C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a dylai weddu i nodweddion arbennig dŵr mwynol naturiol a'i effaith ar yr organeb dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, sy'n gwneud iawn am ddiffygion mwynol .

(2Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn hytrach na'r dadansoddiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), cyhyd â bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o sylwadau yn galluogi bod modd dod i'r un canlyniadau.

Rheoliadau 4(2)(b), 5(1)(c) a (2), 7(3), 9(2)(b), 10(1)(b) a (3) a 16(1)(a)(iv) a pharagraff 1(b) o Atodlen 1 a pharagraff 4(b)(iii) o Ran 2 o Atodlen 3

ATODLEN 4Gofynion datblygu a photelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon

1.  Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu'r dŵr gael ei osod mewn modd sy'n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi a diogelu'r priodweddau sy'n cyfateb i'r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.

2.  Rhaid amddiffyn y ffynnon neu'r allanfa rhag risg llygredd.

3.  Rhaid i'r dalgylch, y pibellau a'r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy'n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy'n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigocemegol neu ficrobiolegol i'r dŵr.

4.  Rhaid i'r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yn y man golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid. Yn benodol, rhaid bod y cynwysyddion wedi'u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy'n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dwr naturiol.

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw'r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i'r defnyddiwr olaf.

(2Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.

(3Caniateir i ddŵr a ddosberthir i'r defnyddiwr olaf mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” gael ei gludo o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 23 Tachwedd 1996.

6.—(1Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw'r dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw'n halogedig.

(2Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynir fesul ml o ddŵr—

(a)ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

(b)ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

7.—(1Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—

(a)100 fesul ml ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a

(b)20 fesul ml ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.

(2Rhaid mesur cyfanswm y cyfrif cytref o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, a rhaid cadw'r dŵr ar 4 °C +/−1 °C yn ystod y cyfnod cyn iddo gael ei fesur.

8.  Rhaid bod y dŵr yn rhydd rhag—

(a)Parasitiaid a micro-organebau pathogenig,

(b)Escherichia coli neu golifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;

(c)Anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir; a

(ch)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir.

Rheoliad 4(9) a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 3

ATODLEN 5Manylion o anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin

AnionauUned fesur
Borad BO3-mg/1
Carbonad CO32-mg/1
Clorid Cl-mg/1
Fflworid F-mg/l
Hydrogen Carbonad HCO3-mg/1
Nitrad NO3-mg/1
Nitrid NO2-mg/1
Ffosffad PO43-mg/1
Silicad SiO2mg/1
Sylffad SO42-mg/1
Sylffid S2-mg/1
CationauUned fesur
Alwminiwm A1mg/1
Amoniwm NH4+mg/1
Calsiwm Camg/1
Magnesiwm Mgmg/1
Potasiwm Kmg/l
Sodiwm Namg/1
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddioUned fesur
Cyfanswm carbon organig Cmg/1
Carbon deuocsid rhydd CO2mg/1
Silica SiO2mg/1
Elfennau hybrinUned fesur
Bariwm Baμg/l
Bromin (cyfanswm) Brμg/l
Cobalt Coμg/l
Copr Cuμg/l
Iodin (cyfanswm) Iμg/l
Haearn Feμg/l
Lithiwm Liμg/l
Manganis Mnμg/l
Molybdenwm Moμg/l
Strontiwm Srμg/l
Zinc Znμg/1

Rheoliad 7(1) a (2) a pharagraff 2(c) o Ran 1 o Atodlen 3, paragraff 2(c) o Ran 2 o Atodlen 3 a Nodiadau 1 a 2 o Atodlen 7

ATODLEN 6Terfynau uchaf ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol

AnsoddauMwyafswm terfynau (mg/l)

Nodyn:

Mae'r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy'n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy'n bresennol o ganlyniad i halogi.

Antimoni0.0050
Arsenig0.010 (fel cyfanswm)
Bariwm1.0
Cadmiwm0.003
Cromiwm0.050
Copr1.0
Cyanid0.070
Fflworid5.0
Plwm0.010
Manganis0.50
Mercwri0.0010
Nicel0.020
Nitrad50
Nitrid0.1
Seleniwm0.010

Rheoliad 7(2)

ATODLEN 7Nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi'r ansoddau yn Atodlen 6

AnsoddynCywirdeb y gwerth paramedrig mewn %Trachywiredd y gwerth paramedrigTerfyn canfod y gwerth paramedrig mewn %

Nodiadau:

1.

Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Atodlen 6 yn gallu mesur crynodiadau sy'n hafal i'r gwerthoedd paramedrig gyda'r cywirdeb penodedig, a'r terfynau trachywiredd a chanfod.

2.

Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi'r canlyniad i o leiaf yr un nifer o lefydd degol â'r terfyn uchaf a osodir yn Atodlen 6 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy'n cael ei ddadansoddi.

3.

Cywirdeb yw'r gwall systematig ac mae'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer mawr o fesuriadau mynych a'r union werth.

4.

Mae trachywiredd yn cynrychioli'r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o'r cyfartaledd.

5.

Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol.

6.

O ran y terfyn canfod—

(a)

mae'n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy'n cynnwys crynodiad isel o'r ansoddyn; neu

(b)

mae'n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o'r newydd.

7.

Dylai'r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid yn ei holl ffurfiau.

Antimoni252525
Arsenig101010
Bariwm252525
Cadmiwm101010
Cromiwm101010
Copr101010
Cyanidau101010
Fflworid101010
Plwm101010
Manganis101010
Mercwri201020
Nicel101010
Nitrad101010
Nitrid101010
Seleniwm101010

Rheoliad 8(1)(d)

ATODLEN 8Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio

MynegiadMeini prawf
Cynnwys isel o fwynauCynnwys mwyn halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 500 mg/l
Cynnwys isel iawn o fwynauCynnwys mwyn halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 50 mg/l
Cyfoethog mewn halwynau mwynolCynnwys mwynau halwyn, wedi'i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 1500 mg/l
Yn cynnwys bicarbonadCynnwys bicarbonad sy'n fwy na 600 mg/l
Yn cynnwys sylffadCynnwys sylffad sy'n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys cloridCynnwys clorid sy'n fwy na 200 mg/l
Yn cynnwys calsiwmCynnwys calsiwm sy'n fwy na 150 mg/l
Yn cynnwys magnesiwmCynnwys magnesiwm sy'n fwy na 50 mg/l
Yn cynnwys fflworidCynnwys fflworid sy'n fwy na 1 mg/l
Yn cynnwys haearnCynnwys deufalent haearn sy'n fwy na 1 mg/l
AsidigCarbon deuocsid rhydd sy'n fwy na 250 mg/l
Yn cynnwys sodiwmCynnwys sodiwm sy'n fwy na 200 mg/l
Addas ar gyfer deiet isel mewn sodiwmCynnwys sodiwm sy'n llai na 20 mg/l

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999 (O.S. 1999/1540), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac maent yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny gyda newidiadau o ran Cymru. Diwygiwyd y Rheoliadau hynny ddiwethaf o ran Cymru gan Reoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1509 (Cy.158)).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu o ran Cymru ac i'r graddau a bennir ym mharagraff 3 isod yr offerynnau Cymunedol a bennir yn y paragraff hwnnw.

3.  Yr offerynnau Cymunedol yw—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 80/777/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch datblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (OJ Rhif L229, 30.8.80, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ L284, 31.10.2003, t.1);

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynhonnau (OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.34); ac

(c)o ran dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu, Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 3.11.98, t.32).

4.  Dyma'r prif newidiadau—

(a)darperir yn benodol nad yw'r Rheoliadau'n gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a ddefnyddir i oeri bwyd;

(b)estynnir y gofynion yn y Rheoliadau ynghylch marcio a labelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon i gynnwys hysbysebu dŵr o'r fath; ac

(c)gwneir darpariaeth ar gyfer rhannau o samplau a gedwir gan swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd at ddibenion dadansoddi sydd i'w cyflwyno ar gyfer eu dadansoddi i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig.

5.  Mae'r Rheoliadau yn—

(a)darparu ar gyfer esemptiadau o'r Rheoliadau ynghylch mathau penodedig o ddŵr a rhew ar gyfer oeri bwyd (rheoliad 3);

(b)rhagnodi'r amodau ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol a'r gweithdrefnau dros dynnu'r fath gydnabyddiaeth yn ôl a darparu ar gyfer adolygu penderfyniadau i beidio â rhoi cydnabyddiaeth neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl pan ofynnir am hynny gan y person y mae'r penderfyniad yn effeithio arno (rheoliad 4);

(c)gosod yr amodau sy'n rhaid eu bodloni i ddatblygu ffynhonnau er mwyn marchnata dŵr ohonynt fel dŵr mwynol naturiol a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu (rheoliad 5);

(ch)gwahardd rhoi dŵr mwynol naturiol dan driniaethau a rhoi ychwanegiadau heblaw'r rhai penodedig, yn ddarostyngedig i eithriad yn achos dŵr o'r fath pan gaiff ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 6);

(d)gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol sy'n cynnwys sylweddau penodedig sy'n uwch na therfynau penodedig a rhagnodi'r dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer canfod sylweddau o'r fath (rheoliad 7(1) a (2));

(dd)gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol pan na chydymffurfir â gofynion penodedig ynghylch datblygu'r ffynnon y daw'r dŵr ohoni a photelu'r dŵr (rheoliad 7(3));

(e)gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol mewn cynwysyddion nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig (rheoliad 7(4));

(f)cyfyngu ar y marcio a'r labelu y gellir ei roi ar ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu (gan gynnwys dŵr mwynol naturiol eferw), ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath yn cael ei farcio neu'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn dau fodd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 8);

(ff)gwahardd gwerthu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r enw “natural mineral water” neu “dŵr mwynol naturiol” oni bai ei fod yn ddŵr o'r fath; gosod gwaharddiadau eraill ynghylch gwerthu dŵr mwynol naturiol wedi'i botelu; a gwahardd gwerthu dŵr mwynol naturiol o ffynnon unigol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 9);

(g)gwahardd potelu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” neu “dŵr ffynnon” oni bai bod y dŵr yn bodloni gofynion penodedig, gwahardd potelu o'r fath os cafodd y dŵr ei drin ag aer a gyfoethogwyd gan osôn onid yw'r driniaeth yn un awdurdodedig a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd nes bod achos y llygredd yn cael ei ddileu (rheoliad 10);

(ng)cyfyngu ar y marcio a'r labelu y caniateir ei roi ar ddŵr ffynnon, ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn un modd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 11);

(h)gwahardd gwerthu dŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” os nad yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r gofynion o ran potelu, labelu a hysbysebu yn rheoliad 10 a 11 yn eu trefn, a gwahardd gwerthu dŵr o'r fath o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 12);

(i)gwahardd potelu dŵr yfed onid yw'n bodloni gofynion Atodlen 2 (rheoliad 13);

(j)gosod cyfyngiadau ar farcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu (rheoliad 14);

(l)gwahardd gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13 neu na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14 (rheoliad 15);

(ll)dyrannu cyfrifoldeb ar gyfer gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau, gan gynnwys cyflawni archwiliadau penodedig er mwyn sicrhau bod gofynion penodedig ynghylch dwr mwynol naturiol a gofynion o ran bod technegau ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn sy'n gymwys ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dwr ffynnon yn cael eu bodloni (rheoliad 16);

(m)rhagnodi'r trefniadau ar gyfer trafod samplau o ddwr a gymrwyd ar gyfer ei dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau, darparu ar gyfer cyflwyno rhan o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig a'i gwneud yn ofynnol, at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn cydymffurfio ag Atodlen 2, bod yn rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n unol ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliadau 17 i 19 yn eu trefn);

(n)darparu bod mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig y Rheoliadau yn dramgwydd a rhagnodi'r gosb sy'n gymwys pan geir collfarniad (rheoliad 20);

(o)darparu amddiffyniadau ar gyfer unrhyw dramgwydd o'r fath mewn cysylltiad â dŵr wedi'i botelu, wedi'i farcio ac wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau ddod i rym a dŵr wedi'i botelu neu wedi'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r DU ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu (rheoliad 21);

(p)cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau ddarpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 22(1) a (2));

(ph)gwahardd gwerthu dŵr sydd heb gael ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 22(3)); ac

(r)dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr wedi'i Botelu 1999 (OS 1999/1540 fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 23).

6.  Hysbyswyd y gofyniad a geir ym mharagraff 1(ch) o Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â gofynion Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer rhoi gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).

7.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p. 40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

OJ Rhif L229, 30.8.80, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu at Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC y darpariaethau ynghylch Pwyllgorau sy'n cynorthwyo'r Comisiwn wrth arfer ei bwerau gweithredu a osodir mewn offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o Gytuniad EC (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(5)

OJ Rhif L330, 5.12.98, t.32.

(6)

OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.34.

(7)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 1994/3144; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 1985/71, a ddirymwyd gan O.S. 1999/1540.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources