- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 4(2)(b), 5(1)(c) a (2), 7(3), 9(2)(b), 10(1)(b) a (3) a 16(1)(a)(iv) a pharagraff 1(b) o Atodlen 1 a pharagraff 4(b)(iii) o Ran 2 o Atodlen 3
1. Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu'r dŵr gael ei osod mewn modd sy'n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi a diogelu'r priodweddau sy'n cyfateb i'r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.
2. Rhaid amddiffyn y ffynnon neu'r allanfa rhag risg llygredd.
3. Rhaid i'r dalgylch, y pibellau a'r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy'n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy'n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigocemegol neu ficrobiolegol i'r dŵr.
4. Rhaid i'r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yn y man golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid. Yn benodol, rhaid bod y cynwysyddion wedi'u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy'n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dwr naturiol.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw'r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i'r defnyddiwr olaf.
(2) Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.
(3) Caniateir i ddŵr a ddosberthir i'r defnyddiwr olaf mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” gael ei gludo o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 23 Tachwedd 1996.
6.—(1) Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw'r dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw'n halogedig.
(2) Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynir fesul ml o ddŵr—
(a)ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a
(b)ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.
7.—(1) Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—
(a)100 fesul ml ar 20 i 22 °C mewn 72 o oriau ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a
(b)20 fesul ml ar 37 °C mewn 24 o oriau ar agar-agar.
(2) Rhaid mesur cyfanswm y cyfrif cytref o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, a rhaid cadw'r dŵr ar 4 °C +/−1 °C yn ystod y cyfnod cyn iddo gael ei fesur.
8. Rhaid bod y dŵr yn rhydd rhag—
(a)Parasitiaid a micro-organebau pathogenig,
(b)Escherichia coli neu golifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;
(c)Anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir; a
(ch)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: