Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, o ran Cymru, ddarpariaethau Rhan 3 (cynlluniau caniatau) a Rhan 4 (gwaith stryd) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) sydd yn diwygio Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (“Deddf 1991”) ac yn gwneud darpariaethau trosiannol o ganlyniad i'r diwygiadau hynny. Mae hefyd yn cychwyn diddymiadau penodol o ran gorfodaeth sifil ar dramgwyddau parcio.

Mae erthygl 2 a'r Atodlen yn rhestru darpariaethau Deddf Rheoli Traffig 2004 sydd i gael eu deddfu a'r dyddiadau amrywiol pan fyddant yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r Atodlen hefyd yn esbonio'r rhesymau dros eu deddfu.

Mae erthyglau 3 i 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol angenrheidiol o ganlyniad i ddiwygiadau i Ddeddf 1991 gan Ddeddf 2004. Mae erthygl 3 yn darparu pan fydd cynllun newydd hysbysiad o gosb benodedig ar gyfer tramgwyddau gwaith stryd penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991 yn dod i rym ar 12 Mai 2008, ni fydd y cynllun hwnnw'n gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnwyd cyn y dyddiad hwnnw.

Mae erthygl 4 yn darparu na fydd y cynnydd mewn cosbau y rhoddir effaith iddynt gan ddyddiad dwyn i rym adran 40 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 iddi yn gymwys i dramgwyddau a gyflawnir cyn 26 Tachwedd 2007.

Mae erthygl 5 yn darparu nad yw'r pwerau newydd i roi cyfarwyddiadau o dan adrannau 56(1A) (pwer i roi cyfarwyddiadau a ran amseru gwaith stryd) a 56A (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) o Ddeddf 1991 yn gymwys pan fo hysbysiad o'r gwaith arfaethedig wedi cael ei roi o dan adran 54(1) (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol) neu 55(1) (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

Mae erthygl 6 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ynghylch rhoi hysbysiad o ran gwaith stryd.

Mae erthygl 7 yn sicrhau nad yw'r diwygiadau i adran 58 o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) yn gymwys pan fo hysbysiad o gyfyngiad wedi cael ei roi o dan adran 58(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

Mae erthygl 8 yn darparu nad yw'r pwer newydd a fewnosodir yn Neddf 1991 gan adran 52 o Ddeddf 2004 i awdurdod stryd osod cyfyngiad ar waith stryd yn dilyn gwaith stryd sylweddol ond yn gymwys pan ddaeth hysbysiad o'r mater hwnnw i law'r awdurdod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.

Mae erthygl 9 yn darparu nad yw'r diwygiadau i adran 70 o Ddeddf 1991 (dyletswydd ar ymgymerwr i adfer) yn gymwys ynglyn â gwaith stryd y mae hysbysiad wedi cael ei roi ar ei gyfer o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 (hysbysiad o waith brys) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.