xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1); a
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
2. Mae darpariaethau Deddf 2004 a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn dod i rym o ran Cymru ar y dyddiad a bennir yng ngholofn 2 at y diben a bennir ynglyn â'r dyddiad hwnnw yng ngholofn 3.