Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 18 Ionawr 2008 ddarpariaethau canlynol Deddf 2005:

(a)paragraffau 5 i 7 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n gwneud mân ddiwygiadau i destun Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Ddeddf 1990”);

(b)paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 95(1)(c) o Ddeddf 1990 fel bod y gofrestr gyhoeddus o orchmynion a hysbysiadau, y mae adran 95 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ei chadw, yn cynnwys copïau o bob gorchymyn a wneir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3A i Ddeddf 1990 mewn perthynas â dynodi tir at ddibenion rheoleiddio dosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl;

(c)paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 96 o Ddeddf 1990 gyda'r effaith o alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag ysbwriel a gaiff ei gasglu gan brif awdurdodau ysbwriel o dan adran 92C(3) o Ddeddf 1990. Mae adran 92C(3) o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ysbwriel a gesglir gan brif awdurdod ysbwriel pan fydd person wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad clirio ysbwriel a ddyroddwyd gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 92A o Ddeddf 1990;

(ch)mae paragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi is-adran (1) newydd yn adran 45 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“Deddf 2003”) gyda'r effaith bod cosbau penodedig yn unol ag adran 43(1) (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon) o Ddeddf 2003 yn daladwy i'r awdurdod lleol y dyroddwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig;

(d)mae paragraff 15 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn cymhwyso i adrannau 43A a 43B o'r Ddeddf honno ddiffiniadau a geir yn adran 47(1) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chosbau sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 43(1) o Ddeddf 2003 (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon);

(dd)mae paragraffau 16 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi'r term “defacement removal notice” yn lle “graffiti removal notice” yn adrannau 48, 49 a 51 o Ddeddf 2003, ac ym mhennawd adran 52 o'r Ddeddf honno;

(e)mae paragraff 17(7) o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn mewnosod y geiriau “but not a parish or community council” yn y diffiniad o “local authority” yn adran 48(12) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw atal cynghorau plwyf a chynghorau cymuned rhag dyroddi hysbysiadau gwaredu graffiti, rhag cyflawni gwaith adfer pan na chydymffurfir â hysbysiad gwaredu graffiti a rhag adennill treuliau a dynnir wrth wneud hynny;

(f)mae Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

(ff)mae Rhan 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1990 ac Atodlen 3 iddi ac i'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8) a 9(3) o Ddeddf Sŵn 1996;

(g)mae Rhan 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiad i adran 45(3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.