- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
20 Rhagfyr 2007
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 11 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2007.
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4.—(1) Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 2 Ionawr 2008.
(2) Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 31 Mawrth 2008.
5. Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn (Darpariaethau trosiannol ac arbed) yn gymwys.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Rhagfyr 2007
Erthyglau 4 a 5
Darpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 18(1) | Diddymu pwerau gwneud grantiau |
Adran 26 | Cydweithredu rhwng ysgolion |
Adran 31 at bwrpas gwneud rheoliadau | Rheoli mangreoedd ysgolion |
Adran 38 | Gohebu ag ysgolion |
Adrannau 57 i 59 | Aelodau gweithredol interim |
Adran 75 yn llawn | Ad-drefnu ysgol |
Adran 146 yn llawn | Diddymu adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 |
Adran 151(1) | Swyddogaethau gofal plant |
Adran 152 yn llawn | Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd |
Adran 178(2) | Hyfforddiant ac addysg yn y gweithle |
Adran 187 | Parthau camau addysg |
Adran 215 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlenni 21 a 22 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau |
Atodlen 6 | Aelodau gweithredol interim |
Atodlen 10 yn llawn | Ad-drefnu ysgol |
Atodlen 13, paragraff 4 | Gwarchod plant a gofal dydd |
Atodlen 15 | Parthau camau addysg |
Atodlen 21, paragraffau 3, 5, 6, 7, 10, 15, 55, 69, 71, 79, 80, 82, 84, 90, 111, 115 (5)(b), 124(1) a (2), 126(3) yn llawn | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Yn Rhan 3 o Atodlen 22, diddymu— | Diddymu |
Deddf Addysg 1967 | |
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975, yn Atodlen 2, paragraff 4. | |
Deddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, adran 1(6). | |
Deddf Addysg 1986, adran 1(1)(b) a'r gair “and” yn union o'i blaen; adrannau 2 i 4. | |
Deddf Diwygio Addysg 1988, adrannau 160, 210, 211, 218 (yn llawn). | |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, adran 98(2)(c)(ii). | |
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn adran 37, is-adran (1)(b) a'r gair “or” yn union o'i blaen ac is-adrannau (8)(a) a (9), yn Atodlen 8, paragraffau 46, 47, 49, 83. | |
Deddf Addysg 1994, yn Atodlen 2, paragraff 8(4). | |
Deddf Addysg Feithrin ac Ysgolion a Gynhelir â Grant 1996. | |
Deddf Addysg 1996, yn adran 318, yn is-adran (3A) paragraff (b) a'r gair “or” yn union o'i blaen, yn adran 484, yn is-adran (2) y geiriau “England and” ac is-adran (6), adrannau 486 i 488, adran 491, yn adran 509A(5)(b), is-baragraff (ii) a'r gair “or” yn union o'i blaen, yn adran 545(2)(a), y geiriau “or section 218(7) of the Education Reform Act 1988”, yn adran 548(8), ym mharagraff (b), is-baragraff (ii) a'r gair “or” o flaen yr is-baragraff hwnnw, yn adran 578, y cofnodion ynghylch Deddf Addysg 1967 a Deddf Addysg Feithrin ac Ysgolion a Gynhelir â Grant 1996, yn Atodlen 37, paragraff 13, paragraffau 76 a 131. | |
Deddf Addysg 1997, adran 49 (yn llawn), yn Atodlen 7, paragraffau 8, 14, 27, 28. | |
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 10, 11, 13, 18, yn Atodlen 3, paragraff 5. | |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 3, 10(3) a (7), yn adran 11, yn is-adran (2) y geiriau o “and” hyd at y diwedd, ac is-adran (3), yn Atodlen 4, paragraff 5(4)(e), yn Atodlen 26, ym mharagraff 1, is-baragraff (1)(c) a'r gair “or” o'i flaen, yn Atodlen 30, paragraffau 14, 17, 56, ym mharagraff 74 is-baragraffau (2) a (3) ac yn is-baragraff (4) paragraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, paragraffau 85 i 90. | |
Deddf Dysgu a Medrau 2000, yn Atodlen 9, paragraffau 18, 58, ym mharagraff 59, is-baragraff (7)(b) ac (c) a pharagraff 91. |
Darpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 31 yn llawn | Rheoli mangreoedd ysgolion |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Yn Rhan 3 o Atodlen 22, diddymu— | Diddymu |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 40, Atodlen 13 |
1. Er bod adran 38 yn dod i rym, nid yw'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad o dan adran 38(3) yn gymwys o ran unrhyw flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd 2008 i 2009.
2. Er bod adran 218(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael ei diddymu, mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(3) yn parhau mewn grym (a gallant gael eu diwygio neu eu dirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 136(a)).
3. Er bod adran 218(1)(e) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael ei diddymu, mae rheoliadau 4, 5 a 7 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 ac Atodlen 1 iddynt(4) yn parhau mewn grym (a gallant gael eu diwygio neu eu dirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 203(3)).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ionawr 2008 ac ar 31 Mawrth 2008 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 2 Ionawr 2008 yr effaith a ganlyn—
Mae cychwyn gweddill adran 18 yn diddymu pwerau amrywiol ar gyfer gwneud grantiau (a ddisodlwyd gan adran 14 a gychwynnwyd ar 31 Mawrth 2003).
Mae adran 26 yn galluogi Gweinidogion Cymru (y mae swyddogaethau wedi'u breinio ynddynt bellach yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006) i wneud rheoliadau sy'n caniatau i gyrff llywodraethu ysgolion gydweithredu.
Mae adran 31 yn ymwneud â rheoli mangreoedd ysgolion ac fe'i dygir i rym at bwrpas gwneud rheoliadau.
Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru i roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol osgoi anfon gormodedd o ddeunyddiau at ysgolion a gosod gormodedd o feichiau gweinyddol. Bydd yn rhaid iddynt baratoi adroddiad o ran pob blwyddyn academaidd ar y dogfennau a anfonir at yr holl gyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion yng Nghymru.
Mae adrannau 57 i 59 ac Atodlen 6 yn galluogi awdurdod addysg lleol, os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig neu os yw corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio gydag hysbysiad rhybudd, i benodi corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn arbennig (a ffurfiwyd o aelodau gweithredol interim) i ddisodli corff llywodraethu presennol ysgol. Galluogir Gweinidogion Cymru hefyd i benodi corff llywodraethu o'r fath os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig.
Mae cychwyn gweddill adran 146 yn diddymu'r cyfan o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
Darpariaethau eraill sydd o ganlyniad i gychwyn adrannau 18 a 146, ac hefyd darpariaethau sy'n gymwys i Loegr yn unig ac sydd eisoes wedi'u dwyn i rym gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond fe'u cynhwysir yn unig er mwyn sicrhau bod Deddf Addysg 2002 yn cychwyn yn llawn.
Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2008 yr effaith a ganlyn—
Mae adran 31 (a gychwynir yn llawn) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynglyn â rheoli mangreoedd ysgolion.
Mae adran 215(2) ac Atodlen 22 (a gychwynir yn rhannol) yn cynnwys diddymiadau canlyniadol.
Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 14 i 17 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 18(2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran (19)(6) (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 19 (1) i (7) (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adran 20(1) i (3), (5) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adrannau 21 a 22 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 23 | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adrannau 27 a 28 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 29 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 30 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 32 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adrannau 33 a 34 | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adran 35 | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Adran 36 | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Adran 37 | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Adran 39(1) (yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.178) |
Adran 39 (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Adran 41 | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 42 | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 43 | 1 Tachwedd 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 46 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 49 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 50 | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
Adran 51 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
Adran 52 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adran 53 | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Adrannau 54 i 56 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 60 i 64 | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 72 | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 75 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 97 a 98 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 99(1) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 100 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 101 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 103 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 105 i 107 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 108 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 109 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 111 i 118 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 119 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(1) a (3) i (5) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(2) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 121 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adrannau 122 i 129 | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 130 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn llawn) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 131 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 132 a 133 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 134 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 135 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 136 i 140 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 141 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 142 i 144 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 145 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 146 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 148 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mai 2006 | 2006/1336 (Cy.129) |
Adran 149 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 150 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 151(2) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 152 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 154 | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 155 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 156 | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adrannau 157 i 174 | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 176 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 177 | 1 Awst 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 178(1) a (4) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 179 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 180 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 181 i 185 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy. 185) |
Adran 188 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 189 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 191 i 194 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 195 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn llawn) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 196 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 197 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 198 | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 199 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 200 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 201 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 202 a 203 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 206 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adrannau 207 a 208 | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 215 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/912 (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
(yn rhannol) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
(yn rhannol) | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 1 (yn llawn) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
Atodlen 2 | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
gweddill y paragraffau | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11 | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
Paragraff 12(1), (3) i (5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Atodlen 5 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 9 | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 11 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 3(1), (5) (yn rhannol), 4(2) a 5 | 31 Mai 2006 | 2006/1336 (Cy.129) |
Paragraff 12(1) a (2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Paragraffau 4 i 9 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 8 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 13 i 15 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 19 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 20 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 21 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
(yn rhannol) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
(yn rhannol) | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Atodlen 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1395 (Cy.109) |
(yn rhannol) | 31 Hydref 2005 | 2005/2910 (Cy.207) |
(yn rhannol) | 1 Ebrill 2006 | 2006/879 (Cy.84) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/571 ac O.S. 2005/2570), O.S. 2003/2071, O.S. 2004/1318 ac O.S. 2006/2895.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: